Mae Carfan Iechyd a Lles WLGA wedi datblygu rhai partneriaethau cryf gydag asiantaethau eraill maes gwella iechyd, yng Nghymru a thu hwnt i'w ffiniau.
Rydyn ni wedi llunio memorandwm dealltwriaeth ar y cyd â'r Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Gwladol ac yn parhau i weithio'n effeithiol yn lleol ac yn wladol. Rydyn ni wedi cydweithio mewn nifer o brosiectau â Chanolfan Iechyd Cymru ac â'r Uned Ddata ar gyfer cynnig cymorth penodol i ddatblygu gallu. Rydyn ni wedi creu cysylltiadau â rhai o bolisïau Llywodraeth y Cynulliad i ofalu bod y cymorth yn gyson, megis Swyddfa'r Prif Swyddog Meddygol a swyddfeydd rhanbarthol y GIG.
Mae Carfan Iechyd a Lles yn parhau i gynrychioli byd llywodraeth leol ynghylch atal afiechyd mewn nifer o weithgorau gwladol.
Rydyn ni'n cyflawni gwaith ysgrifenyddol i Gyfarwyddwyr Diogelu'r Cyhoedd Cymru. Mae rhagor o fanylion am waith y cylch hwnnw yma.
Rydyn ni wedi cydweithio'n agos â Chydffederasiwn Awdurdodau Lleol yr Alban ynghylch dulliau gwella iechyd trwy awdurdodau lleol, ac â'r rhai sy'n llywio materion iechyd yn yr LGA yn Lloegr.
Mae'r dolenni a'r cysylltiadau ar y dde yn ymwneud â'r partneriaethau sydd wedi'u datblygu.
Mae rhagor o wybodaeth gan: Sue Whitford
