Mae awdurdodau lleol Cymreig yn cydweithio llawer gyda awdurdodau eraill yn Ewrop a thu hwnt. Mae cydweithio rhyng-ranbarthol nid yn unig yn rhoi cyfleoedd i ddatblygiad economiadd leol, ond hefyd i rannu arferion da ac i ddatblygu partneriaethau cryf rhwng awdurdodau lleol a'r cymunedau y maent yn eu cynrychioli.
Mae cymryd rhan mewn partneriaeth traws-genedlaethol yn gallu bod yn fanteisiol iawn. Er enghraifft, mae cydweithio traws-genedlaethol a rhyng-ranbarthol gallu bod yn fenter strategol, wrth hyrwyddo awdurdodau lleol o fewn y sefydliadau Ewropeaidd perthnasol, yn ogystal a rhanbarthau o fewn aelodau'r UE a gwledydd sydd am ymuno a'r Undeb; mae'n gallu arwain at ffyrdd newydd o weithio a strwythurau newydd yn ogystal a sefydlu partneriaethau gyda rhanbarthau a sectorau ar draws Ewrop; mae'n gallu helpu wrth gymryd rhan yn rhaglenni ariannu Ewropeaidd, rhwydweithiau a chymdeithasau, ac arwain at chysylltiadau newydd yn rhanbarthau eraill, sy'n creu y posiblrwydd o gydweithio yn y dyfodol.
Yn ogystal a hyn mae awdurdodau lleol yn medru gweld a thrafod syniadau newydd wrth ddysgu o awdurdodau eraill, gan wella dulliau gweithio a sgiliau yn y broses, yn cynnwys datblygu sgiliau iaith a chyfathrebu. Ar lefel prosiect mae hyn yn medru cyflymu y broses arloesi ac mae'n arwain at fwy o syniadau creadigol.
Er hyn, mae'n bwysig amlinellu y rhesymau dros ddatblygu partneriaethau traws-genedlaethol, er mwyn gwerthfawrogi'r manteision y gall cydweithio traws-genedlaethol eu gynyrchu i'ch sefydliad.
