Dros y blynyddoedd diweddar, mae cydraddoldeb wedi dod yn faes allweddol sy'n atgyfnerthu'r ffordd mae'r sector gwladol yn moderneiddio ac yn gwella ei wasanaethau. Hanfod byd llywodraeth leol yw cynrychioli pobl leol a bod yn atebol iddyn nhw, ac mae wedi ymroi i roi gwasanaethau o'r radd flaenaf i drigolion pob bro. Mae wedi llwyddo mewn sawl agwedd ar gydraddoldeb, gan ymateb i newidiadau statudol a llunio polisïau sy'n amlinellu'r hyn mae'n bwriadu ei wneud. Ers y 1960au cynnar, mae sawl deddf newydd wedi'i chyflwyno yn y DG fel na fydd neb yn cael ei anffafrio o achos tras a rhyw. Bydd y gofynion ychwanegol sydd ar y gweill (er enghraifft, bydd gofyn statudol i hyrwyddo cydraddoldeb pobl anabl a bydd yn anghyfreithlon anffafrio yn ôl oed wrth gyflogi) yn mynnu i'r awdurdodau lleol adolygu a diwygio arferion gweithio cyfredol. Mae'r bwriad i sefydlu Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn lle'r amryw gyrff sy'n ymwneud â chydraddoldeb ar hyn o bryd, yn rhoi rhagor o bwyslais ar hyrwyddo hawliau dynol.
Barn Llywodraeth y Cynulliad yw bod cydraddoldeb yn elfen hanfodol o'i rhaglen ar gyfer moderneiddio byd llywodraeth leol a sefydliadau gwladol eraill yng Nghymru. Mae hynny'n adlewyrchu'r tyb cyfoes am fanteision gweithlu amryfal a chyfun, a pha mor bwysig yw cynnal gwasanaethau ymatebol a hyblyg sy'n diwallu anghenion penodol cymunedau amryfal. Mae rhai cyfleoedd ac ysgogyddion amlwg i wella'r arferion ym maes cydraddoldeb ac amrywioldeb, ac mae rhai ohonyn nhw wedi'u nodi isod:
- Newid yn y boblogaeth - mae'r awdurdodau lleol yn wynebu sawl her newydd wrth ymaddasu ac addasu eu gwasanaethau i ddiwallu anghenion a gofynion poblogaeth sy'n fwyfwy amryfal yn sgîl newidiadau yn natur poblogaeth sawl ardal: cododd nifer y bobl o dras groenddu a lleiafrifol yng Nghymru rhwng 1991 a 2001, mae nifer sylweddol o bobl sydd ag anabledd neu afiechyd hirdymor yn rhai o fröydd y wlad ac, ynglŷn â chydraddoldeb merched a dynion, rhaid i'r awdurdodau ystyried amgylchiadau bywyd a'r arferion gwaith sydd orau i gadw eu gweithwyr.
- Mae ymwybyddiaeth gynyddol o'r ddadl fasnachol o ran gwasanaethu'r cyhoedd a manteision arferion cydraddoldeb. Mae'n amlwg bod y cyflogwyr sy'n croesawu cydraddoldeb ar eu hennill mewn sawl ffordd, megis gwell cynnyrch a chymhelliant. Bydd gweithlu sy'n adlewyrchu natur y cymunedau lleol yn deall anghenion y cwsmeriaid yn well. O weithio ar y cyd â'r trigolion, bydd modd i'r awdurdod ennill enw da a gwella'i ddelwedd ac efallai y bydd hynny, yn ei dro, yn ysgogi rhagor o ymgysylltu, cyfranogi a boddhad yn y gymuned.
- Gan fod polisïau a deddfau newydd ar y gweill, mae disgwyliadau ymestynnol a phellgyrhaeddol ar fyd llywodraeth leol. Mae maes cydraddoldeb wedi'i ehangu tu hwnt i'r agweddau amlycaf, ac mae'n cynnwys sawl mater arall bellach, megis oedran, cyfrifoldebau cynhalwyr, crefydd, cred a thueddfryd rhywiol. Trwy gyflwyno Safon Cydraddoldeb Llywodraeth Leol Cymru, rydyn ni'n cydnabod hefyd fod angen dull ehangach o drin a thrafod materion cyfle teg. Mae'r safon yn cwmpasu'r Gymraeg yn un o agweddau cydraddoldeb, yn ogystal â sôn am gyfrifoldebau cyflogwyr a darparu gwasanaethau.
- Mae trefnau arolygu, canolbwynt ar wella parhaol, gofynion Rhaglen Gwella Cymru o ran hunanasesu a'r cynnydd tebygol yn nifer y trefnau arolygu fydd yn cymathu cydraddoldeb ym mhrif ffrwd eu gwaith yn atgyfnerthu'r ffaith bod angen dull mwy trefnus a rhagweithredol ar gyfer hwyluso newidiadau ym maes cydraddoldeb.
- Gweithio ar y cyd - mae pwyslais cynyddol ar gydweithio'n lleol ac mae hynny'n rhoi cyfle i'r asiantaethau sy'n bartneriaid inni ledaenu profiad ac elwa ar ddysg ei gilydd ym maes cydraddoldeb. Ar ben hynny, mae'n cynnig cyfle i roi adnoddau ynghyd, hwyluso arbedion maint a hyrwyddo cydraddoldeb trwy gomisiynu gwasanaethau a phrosesau caffael.
Mae'n bwysig sefydlu'r polisïau a'r gweithdrefnau cywir o ran cydraddoldeb er mwyn pennu safonau eglur a'r hyn mae disgwyl i bob gweithiwr ei wneud yn ei waith. Fydd hynny ddim yn ddigonol, fodd bynnag, i feithrin y meddylfryd priodol ar gyfer nifer y newidiadau y bydd eu hangen i ofalu bod egwyddorion cydraddoldeb yn tanategu gwaith pob cyngor - 'rhoi polisïau ar waith'. Bydd sawl elfen yn hanfodol i feithrin meddylfryd o'r fath, megis:
- Newid meddylfryd trwy arweiniad a chymhelliant - mae arweiniad yn hanfodol i newid meddylfryd, gan gynnwys nodi'r cynghorwyr fydd yn cymryd rhan flaengar ynglŷn â hyrwyddo cydraddoldeb.
- Pennu dull strategol a datblygu'r arferion gorau - bydd hynny o gymorth ynghylch cymathu materion cydraddoldeb ym mhrif ffrwd gwaith y cyngor. Mae swyddogaeth allweddol i'r cynghorwyr ynglŷn â gofalu bod y cyngor yn ymgorffori cydraddoldeb yn ei waith craidd trwy ddull cyfannol a strategol.
- Cydweithio â defnyddwyr ac ymgysylltu'n well â'r gymuned - mae angen gwahanol ddulliau o ennyn diddordeb pobl o bob lliw a llun. Un o elfennau hanfodol y gwaith hwnnw yw gofalu bod pawb yn cael cymryd rhan mewn prosesau ymgynghori â'r gymuned leol. Dyma gyfle i'r cynghorwyr feithrin cysylltiadau agos â'r trigolion lleol a hyrwyddo dull cynhwysol ynghylch gwaith y cyngor.
- Cadw llygad ar ddata am gyflawniad - bydd hynny'n galluogi pob cyngor i nodi unrhyw wendidau ynglŷn â thrin a thrafod cydraddoldeb ac amrywioldeb, yn ogystal â sut mae eu cywiro. Mae swyddogaeth y cynghorwyr ynghylch cadw llygad ar yr hyn sydd wedi'i gyflawni yn hollbwysig i ofalu bod y cyngor yn atebol i drigolion ei fro.
- Cynnal y cynnydd a'r canolbwynt - mae'n hanfodol cynnal mentrau cydraddoldeb ac amrywioldeb dros amser er mwyn meithrin meddylfryd newydd. Fe ddylai ymdrechion o'r fath barhau hyd yn oed pan fo'r awdurdod o'r farn ei fod yn gweithio'n dda, er mwyn gwella drwy'r amser.
Fis Ionawr 2006, fe gyflwynodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, y cyrff cydraddoldeb statudol a Chanolfan y GIG dros Gydraddoldeb a Hawliau Dynol dystiolaeth i Adolygiad Beecham o Wasanaethau Cyhoeddus Lleol. Mae copi o bapur gwybodaeth WLGA, sy'n amlinellu rhai o'r prif faterion i fyd llywodraeth leol a chyfleoedd i hybu cydraddoldeb yn y dyfodol, ar gael (dolen ar y dde).
Mae rhagor o wybodaeth gan: Naomi Alleyne
