Mae awdurdodau lleol Cymru yn cydweithio llawer gyda awdurdodau eraill yn Ewrop a thu hwnt. Mae cydweithio rhyng-ranbarthol nid yn unig yn rhoi cyfleoedd i ddatblygiad economiadd leol, ond hefyd i rannu arferion da ac i ddatblygu partneriaethau cryf rhwng awdurdodau lleol a'r cymunedau y maent yn eu cynrychioli.
Mae cymryd rhan mewn partneriaeth traws-genedlaethol yn gallu bod yn fanteisiol iawn. Er enghraifft, mae cydweithio traws-genedlaethol a rhyng-ranbarthol gallu bod yn fenter strategol, wrth hyrwyddo awdurdodau lleol o fewn y sefydliadau Ewropeaidd perthnasol, yn ogystal a rhanbarthau o fewn aelodau'r UE a gwledydd sydd am ymuno a'r Undeb; mae'n gallu arwain at ffyrdd newydd o weithio a strwythurau newydd yn ogystal a sefydlu partneriaethau gyda rhanbarthau a sectorau ar draws Ewrop; mae'n gallu helpu wrth gymryd rhan yn rhaglenni ariannu Ewropeaidd, rhwydweithiau a chymdeithasau, ac arwain at chysylltiadau newydd yn rhanbarthau eraill, sy'n creu y posiblrwydd o gydweithio yn y dyfodol.
Yn ogystal a hyn mae awdurdodau lleol yn medru gweld a thrafod syniadau newydd wrth ddysgu o awdurdodau eraill, gan wella dulliau gweithio a sgiliau yn y broses, yn cynnwys datblygu sgiliau iaith a chyfathrebu. Ar lefel prosiect mae hyn yn medru cyflymu y broses arloesi ac mae'n arwain at fwy o syniadau creadigol.
Er hyn, mae'n bwysig amlinellu y rhesymau dros ddatblygu partneriaethau traws-genedlaethol, er mwyn gwerthfawrogi'r manteision y gall cydweithio traws-genedlaethol eu gynyrchu i'ch sefydliad.
Cyfeirlyfr Cysylltiadau Interreg Cenedlaethol a Rhanbarthol y D.U. (2il Rhifyn)
Adolygiad cyffredinol o’r Prif Raglenni
• Mae Cymru yn gymwys ar gyfer pedair prif Raglen Cydweithredu Ewropeaidd:
Rhaglen Traws Ffiniol Iwerddon Cymru
- Mae awdurdodau yng Ngogledd Orllewin a De Orllewin Cymru yn gymwys (Ynys Môn, Gwynedd, Sir Ddinbych, Conwy, Ceredigion, Sir Benfro, Sir Gâr).
- Rhaglen 2007-2013 – y cyfanswm yn werth €70m - €53m yn ngrant ERDF.
- Lleolir yr Awdurdod Rheoli yn Waterford, Iwerddon.
- Mae WEFO yn cyd-gadeirio y Pwyllgor Monitro Rhaglenni (PMC) a Phwyllgorau Llywio Rhaglenni (PSC).
Rhaglen Traws-genedlaethol Gogledd Orllewin Ewrop
- Mae Cymru gyfan yn gymwys.
- Y cyfanswm yn werth €697m - €355m yn ngrant ERDF.
- Lleolir yr Awdurdod Rheoli yn Lille, Ffrainc.
- Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol y D.U. sydd yn arwain y rhaglen hon ar ran y D.U.
- Yn 2010, y D.U. fydd yn derbyn Llywyddiaeth y rhaglen sydd yn cylchdroi rhwng partneriaid.
Rhaglen Traws-genedlaethol Ardal yr Iwerydd
- Mae Cymru gyfan yn gymwys.
- Y cyfanswm yn werth €159m - €104m yn grant ERDF.
- Lleolir yr Awdurdod Rheoli yn Porto, Portiwgal.
- Yn y D.U. WEFO sydd yn arwain y rôl cydgysylltu ar ran yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol (CLG).
- WEFO yw’r Prif Gyswllt Cenedlaethol ar gyfer y Rhaglen yn y D.U. ac yn mynychu pob cyfarfod y Prif Gysylltwyr Cenedlaethol ar ran partneriaid D.U.
Rhaglen Rhyng-ranbarthol INTERREG IVC
- Mae pob aelod o’r UE yn gallu cymryd rhan yn y rhaglen, ac felly mae Cymru gyfan yn gymwys.
- Y cyfanswm yn werth €405m- €321m yn grant ERDF.
- Lleolir yr Awdurdod Rheoli yn Lille, Ffrainc.
- Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol y D.U. yw Prif Gyswllt y D.U. y rhaglen hon.
Rhaglenni Rhwydweithio
URBACT II
• Bwriad URBACT yw hybu cyfnewid profiad rhwng dinasoedd Ewropeaidd ac i fanteisio ar a lledaenu gwybodaeth ar faterion yn ymwneud â datblygiad trefol cynaladwy.
• Mae URBACT II yn lwyfan cyfnewid a ddefnyddir i sefydlu Rhwydweithiau Thematig a Grwpiau Gweithio. Mae’n darparu cyfleoedd dysgu a chyfnewid ar gyfer gwneuthurwyr polisi, ymarferwyr, a rhai eraill sydd yn ymwneud â datblygu polisïau trefol.
• Rhaid i weithgareddau URBACT gael effaith sylweddol ar bolisïau ac arferion datblygu cynaladwy trefol lleol.
• Gorffennodd yr ail alwad am gynigion i greu Rhwydweithiau Thematig a Grwpiau Gweithio ar 25ain Medi 2009.
• Am ragor o wybodaeth ar raglenni URBACT, ewch i wefan URBACT.
INTERACT II
• Mae Rhaglen INTERACT yn hyrwyddo a chefnogi trefn lywodraethol dda yn Rhaglenni Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd.
• Mae’n canolbwyntio ar dechnegau rheoli ac yn darparu cymorth i raglenni ymhob cyfnod o’r rhaglen.
• Am ragor o wybodaeth ar raglen INTERACT a digwyddiadau yn yr arfaeth, ewch i wefan INTERACT.
ESPON
• Bwriad ESPON yw cefnogi datblygiad polisi a sefydlu cymuned wyddonol Ewropeaidd ym maes datblygiad tiriogaethol. Ei fwriad yw cynyddu gwybodaeth ym maes strwythurau tiriogaethol ac effeithiau polisi yn yr UE ehangach.
• Y dyddiad cau ar gyfer yr alwad olaf am gynigion a Mynegi Diddordeb oedd 16eg Medi 2009.
Am ragor o wybodaeth ar Raglen ESPON, yr alwad nesaf am gynigion, a’r diwrnod gwybodaeth ym Mrwsel, ewch i wefan ESPON.
• Mae gwybodaeth ar Rwydwaith ESPON yn y D.U. i’w weld ar wefan Rhwydwaith D.U. ESPON.
Cynrychiolaeth o Gymru ar Bwyllgorau a Rhwydweithiau eraill
Pwyllgorau Monitro Rhaglenni (PMC) a Phwyllgorau Llywio Rhaglenni (PSC)
Iwerddon Cymru (Cynrychiolwyr WLGA)
PMC
• Cynghorydd Goronwy Edwards (Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy)
• Cynghorydd Tom Richards (Cyngor Sir Benfro)
PSC
Blaenoriaeth 1 PSC: Gwybodaeth, Arloesedd a Sgiliau i Dyfu
• Safle gwag ar hyn o bryd ar gyfer cynrychiolydd o Awdurdod Lleol Gogledd Orllewin Cymru (fe fydd WLGA yn edrych am enwebiadau ar gyfer y Pwyllgor hwn yn fuan).
Blaenoriaeth 2 PSC: Newid Hinsawdd ac Adfywio Cynaladwy
• Gwyn Evans (Cyngor Sir Benfro).
Gogledd Orllewin Ewrop
PMC
• WLGA oedd ar sedd ranbarthol y D.U. sydd yn cylchdroi ar gyfer y cyfnod 2 mlynedd 2007–2009.
• Y D.U. oedd yn cadeirio PMC Gogledd Orllewin Ewrop yn 2010. Fel y cadeirydd, y D.U. oedd yn gyfrifol am gynnal cyfarfodydd pwyllgor a threfnu'r digwyddiad blynyddol.
• WEFO fydd ar sedd genedlaethol y D.U. sydd yn cylchdroi yn 2012-2013.
PSC
• WLGA fydd ar sedd rhanbarthol y D.U. sydd yn cylchdroi yn 2011–2012.
• WEFO oedd ar sedd cenedlaethol y D.U. sydd yn cylchdroi yn 2010.
Ardal yr Iwerydd
PMC
• WLGA fydd ar sedd rhanbarthol y D.U. sydd yn cylchdroi yn 2012–2013.
• Gan mai WEFO yw’r Prif Gyswllt Cenedlaethol ar gyfer y Rhaglen yn y D.U. mae’n mynychu cyfarfodydd PMC yn barhaus yn ystod cyfnod y rhaglen (2007-2013).
INTERREG IVC
PMC
• WLGA oedd ar sedd rhanbarthol y D.U. sydd yn cylchdroi yn 2010–2011.
• WEFO oedd ar sedd cenedlaethol y D.U. sydd yn cylchdroi yn 2007–2009.
Grŵp INTERREG y D.U.
• Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol (CLG) sydd yn cadeirio a rhedeg Grŵp Interreg y D.U. Mae’n dod â chynrychiolwyr Rhanbarthol a Sefydliadau Datganoledig allweddol at ei gilydd er mwyn rheoli risgiau strategol a lefel uchel yng nghyfranogiad y D.U. yn Rhaglenni Cydweithrediad Tiriogaethol.
• Mae WEFO yn mynychu y grŵp yma ar ran Cymru.
• Mae Swyddfa Ewropeaidd WLGA yn derbyn adborth ar y cyfarfodydd hyn o grŵp RESP (gweler isod) ac yn uniongyrchol o WEFO.
Grŵp RESP
• Mae Swyddfa Ewropeaidd WLGA yn mynychu Grŵp Cynllunio Gofodol Ewropeaidd y Rhanbarthau (RESP), sydd yn cwrdd yn chwarterol yn Llundain i drafod cyfranogiad rhanbarthol yn rhaglenni cydweithredu yr UE, er mwyn rhannu profiadau, a dysgu am y datblygiadau diweddaraf yn y rhaglenni. Mae Grŵp RESP hefyd yn lobïo Adrannau Whitehall, yn enwedig CLG a BIS (a adnabwyd gynt fel BERR).
Rôl WLGA
• WLGA sydd yn rheoli cyfranogiad ffurfiol llywodraeth leol yn y rhaglenni, gan gynnwys cynrychiolaeth ar amryw rwydweithiau a phwyllgorau.
• Mae WLGA hefyd yn gweithio gydag Uned Rhaglenni Cydweithredu Tiriogaethol WEFO i drafod cyfranogiad Cymru yn y rhaglenni.
• Y Swyddfa Ewropeaidd sydd yn arwain ar waith WLGA ar y Rhaglenni Cydweithredu Tiriogaethol gyda chymorth Lowri Gwilym yn swyddfa WLGA yng Nghaerdydd.
• Mae rôl y Swyddfa Ewropeaidd yn cynnwys codi ymwybyddiaeth ymysg awdurdodau lleol am y cyfleoedd a ddaw o’r rhaglenni hyn, ac i fonitro datblygiad y rhaglenni a chyfranogiad Cymru ynddynt.
• Fe fydd y Swyddfa Ewropeaidd yn cyflwyno'r datblygiadau diweddaraf yn y rhaglenni yn gyson i’r holl awdurdodau lleol gan hefyd roi adborth o ddigwyddiadau a chyfarfodydd y rhaglenni.
• Dylsai unryw awdurdodau lleol gyda diddordeb mewn bod yn rhan o’r rhaglenni hyn, neu rai sydd eisoes yn cymryd rhan yn, gysylltu â'r Swyddfa Ewropeaidd fel bod y Swyddfa yn ymwybodol o'r lefelau o gyfranogiad, yn ogystal ag unryw faterion a ddylsai gael eu trafod mewn cyfarfodydd a digwyddiadau ar ran llywodraeth leol Cymru.
• Yn ogystal â hyn, fe ddylsai unryw aelodau neu swyddogion sydd yn cynrychioli WLGA ar amryw bwyllgorau gysylltu â'r Swyddfa Ewropeaidd er mwyn deall safbwyntiau llywodraeth leol cyn unryw cyfarfodydd, ac i roi adborth yn dilyn cyfarfodydd.
Y diweddaraf ar Raglenni
Rhaglen Traws Ffiniol Iwerddon Cymru
Crynodeb
• Gorffennodd y drydedd alwad am gynigion ar 25ain Medi 2009. Mae’r alwad yn canolbwyntio ar ddau faes thematig:
„X Blaenoriaeth 1 Thema 2 – Sgiliau ar gyfer Cystadleurwydd ac Integreiddiad Cyflogaeth
„X Blaenoriaeth 2 Thema 2 – Adfywio Cynaladwy o Gymunedau
• Mae rhestr o Brosiectau a gafodd eu cymeradwyo yn y Rownd 1af wedi ei chyhoeddi. Fe fydd prosiectau yr 2il Rownd yn cael eu cyhoeddi’n fuan.
• Dylsai’r rhai sydd â ddiddordeb mewn gwneud cais gysylltu â’u Swyddog Datblygu lleol cyn gynted â phosib:
- Gogledd Orllewin Cymru
roger.seddon@wales.gsi.gov.uk
Ffôn: 01492 542594
- De Orllewin Cymru
patrick.lilly@wales.gsi.gov.uk
Ffôn: 01267 225471
PSC
• Cyfarfodd y Pwyllgorau Llywio ar 22-23 Ebrill 2009 i drafod y prosiectau ar gyfer yr ail rownd. Cafodd deuddeg prosiect eu dewis am gymorth gyda grant mynegol gwerth tua €16.5m.
PMC
• Cyfarfodd y Pwyllgor Monitro Rhaglenni yn Nulyn ar 18 Mehefin 2009, ble y penderfynwyd y byddai’r trydydd rownd yn canolbwyntio ar P1T2 a P2T2 yn unig, heb dargedau eraill o fewn y themâu hyn.
• Ystyriodd y PMC ddefnyddio ‘podcastiau’ o pobl yn siarad am brosiectau fel ffordd o wneud y wefan yn fwy diddorol.
• Er i'r Comisiwn fynegi rhai pryderon ynglyn â gwerthuso, yn enwedig gan fod 2010 yn rhy hwyr i ddechrau, ni wnaeth y JTS roi unryw arwydd y byddant yn cychwyn y gwaith gwerthuso yn gynharach.
• Cafodd y pwysigrwydd o osgoi colli arian N+2 ei gydnabod.
• Pwysleisiodd y Comisiwn bwysigrwydd noddwyr ac Awdurdodau Rheoli wrth darparu trywydd archwilio llawn.
Unrhyw Fater Arall
• Cynhaliwyd seminar ym Mrwsel ar 29 Mehefin ar gyfer Awdurdodau Rheoli ar addasu Rheoliad ERDF.
• Am ragor o wybodaeth ar y galwadau am gynigion, ewch i wefan y rhaglen.
Rhaglen Traws-genedlaethol Gogledd Orllewin Ewrop
Crynodeb
• Mae’r 5ed alwad am gynigion yn rhaglen Gogledd-Orllewin Ewrop ar agor ar hyn o bryd, gyda’r dyddiad cau ar 7fed Hydref 2009. Fe ddylsai penderfyniad ar brosiectau i’w cefnogi gael ei wneud cyn Nadolig.
• Fe fydd yr alwad nesaf am geisiadau yn agor yn mis Medi, ac fe fydd cyfarfod PMC/PSC ar 7-9 Rhagfyr 2009. Fe fydd hon yn alwad agored.
• Mae’r broses o gau rhaglen IIIB wedi dechrau gyda’r dyddiad terfynol i gau y rhaglen ar 31 Mawrth 2010.
• O Raglen IIIB mae yna wariant o tua 97% ar gyfartaledd ac mae’r risg o golli arian yn isel iawn, gyda’r ffigwr tua €3m ERDF.
• Mae DG Regio yn gwneud archwiliad ar brosiectau sampl ac wedi nodi sawl mater, yn cynnwys craffu cyhoeddus, trywydd archwilio gwael, a methiant i gyrraedd anghenion cyhoeddusrwydd yr UE.
PSC
• Cynhaliwyd PSC diwethaf Gogledd Orllewin Ewrop yn yr Iseldiroedd ar 25-26 Mehefin.
• Nid oedd 7 o’r 32 cais yn gymwys oherwydd ffactorau, megis diffyg llofnod, y cais yn cyrraedd yn hwyr, neu’r ffurflen gais heb ei chwblhau yn gywir, ayb.
• Roedd y PSC yn pryderu am ansawdd isel y ceisiadau yn gyffredinol a gafodd eu dderbyn yn y rhaglen.
• Argymhellodd y PSC i’r PMC y dylsai’r alwad gyntaf yn 2010 fod ar agor i’r holl blaenoriaethau ac y dylsai’r alwad am ail hanner y flwyddyn ganolbwyntio ar Flaenoriaeth 1 (Arloesedd).
PMC
• Cynhaliwyd PMC diwethaf Gogledd Orllewin Ewrop yn yr Iseldiroedd ar 24 Mehefin 2009. Fe fydd cyfarfod nesaf PMC yn Rhagfyr 2009.
• Fe fydd 33 prosiect yn derbyn cymorth o ryw €145 miliwn ERDF (43% o’r Rhaglen). Blaenoriaeth 2 (Yr Amgylchedd) sy’n rhoi'r ymroddiad mwyaf ar tua 70%, tra fod angen mwy o ymdrech ar ddatblygu prosiectau o ansawdd yn Blaenoriaeth 1 (Arloesedd a Chyfnewid Gwybodaeth) a 4 (Cymunedau Cryf a Llewyrchus).
• Wrth ystyried rhagolygon prosiectau presennol mae yna risg isel o golli arian N+2 yn 2009, ond fe fydd hyn yn cynyddu yn 2010 heblaw fod mwy o prosiectau yn derbyn cymorth, a bod y prosiectau sydd yn derbyn cymorth yn dechrau cynyddu lefel eu ceisiadau. Pryderai'r JTS am oedi mewn prosiectau sydd yn ceisio sefydlu trefnau rheoli ar y lefel gyntaf ac yn aros i gael eu hardystio gan aelod priodol yr UE. Heb hyn ni all ceisiadau gael eu hargymell.
• Cytunodd y PMC i wneud fwy o ymchwil ar gais posibl am Eithriad Bloc ar gyfer nifer o weithgareddau Gogledd Orllewin Ewrop ag sydd yn bosibl, fel cais prawf ar gyfer gwneud GBER yn rhan o’r rhaglenni cydweithredu Ewropeaidd. Er fod y syniad hwn yn ddeniadol, yn enwedig i helpu cyfranogiad y sector breifat, rhaid ystyried yr amser a’r ymdrech sydd eu hangen i sicrhau eithriad o’r math hwn, a’r posibilrwydd o brosesau adroddi a monitro cymhleth.
• Cytunwyd ar ddull tair elfen i ddatblygu prosiectau strategol. Yn gyntaf, gall prosiectau barhau i bwysleisio yr hyn maent yn eu hystyried yn fentrau strategol fel rhan o bob galwad am geisiadau. Fe fydd gwahoddiad i’r prosiectau sy’n cael eu ddewis i ystyried ffurfio clwstwr (gan felly dderbyn cyllid ERDF ychwanegol), ac yn olaf fe fydd nifer o syniadau prosiect ‘o'r brig i'r gwaelod’ yn cael eu datblygu i mewn i brosiectau strategol.
Unryw Fater Arall
• Os hoffech ragor o wybodaeth ar Raglen Gogledd Orllewin Ewrop, ewch i wefan y rhaglen
Rhaglen Traws-genedlaethol Ardal yr Iwerydd
• Gorffennodd yr ail alwad am gynigion yn Rhaglen Ardal yr Iwerydd ar 5ed Mehefin 2009 gyda 78 cais yn cael eu derbyn.
• Yn y rownd gyntaf, mae Cymru yn rhan o chwe chais prosiect llwyddiannus, gyda Cymru (Cyngor Sir Ddinbych) yn prif bartner ar un ohonynt.
• Hyd yn hyn, mae €40m o’r €104m sydd yn gyfanswm cyllid ERDF wedi ei wario.
• Rheoli ar y lefel cyntaf yw'r broblem fwyaf sy wedi bod yn y rownd cyntaf, gyda’r Comisiwn Ewropeaidd yn gofyn am fanylion trylwyr o’r holl taliadau.
• Mae Rhaglen Ardal yr Iwerydd wedi apwyntio Pwynt Cyswllt newydd ar gyfer y D.U., sef Heather Silcox.
• Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Rhaglen Ardal yr Iwerydd.
Rhaglen Rhyng-ranbarthol INTERREG
• Gorffennodd yr ail alwad am gynigion ar gyfer Rhaglen INTERREG IVC ar 30 Ionawr 2009.
• Mae canlyniadau'r alwad wedi eu gohirio o ganlyniad i’r nifer uchel o geisiadau, sef 491 yn y rownd gyntaf a 482 yn yr ail rownd.
• Cynhelir y PSC nesaf ar 9-10 Tachwedd. Disgwylir penderfyniad ar brosiectau a fydd yn derbyn cymorth o’r PMC yn yr Hydref.
• Fe ddylsai trydydd galwad gael ei chyhoeddi ym mis Rhagfyr. Fe fydd y Rhaglen yn cau ar ôl yr alwad.
• Mae ffurflen ymarferol ar Raglen INTERREG IVC wedi ei chyhoeddi, sydd yn rhoi crynodeb o’r 41 prosiect a dderbyniodd gymorth yn rownd gyntaf y rhaglen, ac yn rhoi manylion yn ôl thema o’r mentrau y mae awdurdodau lleol a rhanbarthol yn eu gweithredu i wella eu polisïau datblygu rhanbarthol. Gellir gweld y ffurflen fan yma.
• Os hoffech ragor o wybodaeth ar Raglen INTERREG IVC, ewch i’r wefan swyddogol.
Dyfodol Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd
• Mae’r drafodaeth bresennol ar ddyfodol Rhaglenni Cydweithredu Ewropeaidd yn datblygu’n gyflym, gyda nifer o faterion brasach yn effeithio ar y drafodaeth, gan gynnwys dyfodol Polisi Cydlyniad yn ogystal â lefel a fframwaith Cronfeydd Strwythurol ar ôl 2013, a fydd yn ei tro yn cael eu dylanwadu yn sylweddol gan drafodaethau Cyllid yr UE sydd ar y gweill.
• Mae tair elfen gydweithredu tiriogaethol (traws-ffiniol, traws-genedlaethol, a rhyng-ranbarthol) yn cael eu gweld yn gyffredinol yn allweddol ar gyfer polisi cydlyniad tiriogaethol llwyddiannus. O ganlyniad, mae sialensiau cydweithredu yn y dyfodol yn gysylltiedig â’r gofynion cyffredinol ar bolisi cydlyniad.
• Dangosodd canlyniadau ymgynghoriad diweddar y Comisiwn Ewropeaidd awydd cryf ar gyfer atgyfnerthu cydweithredu tiriogaethol drwy ei wneud yn symlach, yn fwy strategol ac yn fwy hyblyg.
• Pwysleisiodd y cyfranwyr bwynt allweddol, sef pwysigrwydd cydgysylltu strategaethau a rheoliadau rhanbarthol a chenedlaethol. Ar yr un pryd, gall y Comisiwn ddarparu gwerth ychwanegol drwy helpu i gyfnewid profiadau ac arferion da rhwng rhanbarthau, yn enwedig drwy rhwydweithio a meincnodi i ddatrys problemau heb orfod meddwl am ffiniau gweinyddol.
• Yn ei ymateb i ymgynghoriad y Comisiwn, pwysleisiodd WLGA fod angen cryfhau amcan cydweithredu tiriogaethol drwy symud i ffwrdd o’r syniad o ranbarthau daearyddol, a chreu un cronfa gydweithredu sengl sydd yn caniatáu mwy o hyblygrwydd i ranbarthau fedru dewis.
• Mae Swyddfa Ewropeaidd WLGA wedi ymuno â grŵp dylanwadol sy'n cynnwys tri deg rhanbarth ar draws Ewrop o’r enw ‘Ymarferwyr Bwrdd Crwn yn Gweithredu’ (ROTOPI), sydd yn rhoi cryn dipyn o bwyslais ar gwestiynau ar waith rhyng-ranbarthol a chydweithredu yn y dyfodol, ac sydd yn derbyn cefnogaeth sylweddol o DG REGIO.
Dogfennau perthnasol eraill:
- Gwersi a ddysgwyd o raglen Interreg III a chyfleoedd ar gyfer y dyfodol
- Rhaglenni Cydweithredu Ewropeaidd - gwersi a ddysgwyd 2007-2009
Mae rhagor o wybodaeth gan: Iwan Williams


