Rydych chi yma: Hafan / Pynciau / Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol / Cydraddoldeb a Hawliau Dynol / Crefydd
 

Crefydd

Rheoliadau 'Cydraddoldeb Cyflogaeth' (Crefydd neu Gred)

Er 2il Rhagfyr 2003, mae'n anghyfreithlon anffafrio gweithwyr o achos crefydd neu gred, dan amodau Rheoliadau 'Cydraddoldeb Cyflogaeth' (Crefydd neu Gred).

Mae'n berthnasol i hyfforddiant galwedigaethol a phob agwedd ar gyflogaeth, gan gynnwys denu staff, telerau ac amodau, dyrchafu, trosglwyddo, diswyddo a hyfforddi. Yn ôl y rheoliadau, mae'n anghyfreithlon defnyddio crefydd neu gred i:

  • anffafrio rhywun yn uniongyrchol, sef pennu amodau sy'n llai ffafriol na rhai gweithwyr eraill;
  • anffafrio rhywun yn anuniongyrchol, sef pennu maen prawf, gofyn neu arfer sy'n rhoi pobl o ryw grefydd neu gred dan anfantais, oni bai bod modd cyfiawnhau hynny'n wrthrychol;
  • aflonyddu ar rywun;
  • erlid rhywun am ei fod wedi cwyno am anffafrio yn ôl crefydd neu gred, neu'n bwriadu gwneud hynny, neu ei fod wedi rhoi tystiolaeth ynghylch cwyn o'r fath, neu'n bwriadu gwneud hynny;
  • anffafrio rhywun neu aflonyddu arno mewn sefyllfa benodol ar ôl i'r berthynas â'r gwaith ddod i ben.

Dim ond hyn a hyn o amgylchiadau sy'n rhydd rhag y gofynion, lle mae gwir angen galwedigaethol i benodi gweithiwr o ryw grefydd neu gred benodol er mwyn cynnal y swydd neu gydymffurfio â chred neu argyhoeddiad crefyddol y sefydliad dan sylw.

Y diffiniad o grefydd neu gred yw unrhyw grefydd, argyhoeddiad crefyddol neu gred athronyddol debyg (heb gynnwys credoau gwleidyddol nac athronyddol oni bai eu bod yn debyg i argyhoeddiad crefyddol). Cyfrifoldeb y Tribiwnlysoedd Cyflogaeth a llysoedd eraill fydd penderfynu pa amgylchiadau sy'n berthnasol i'r rheoliadau.