Rydych chi yma: Hafan / Ein gwaith / Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol / Materion Cydraddoldebau / Crefydd neu Gred
 

Crefydd neu Gred

Sut mae diffinio crefydd neu gred?

Rhan 2 Deddf 'Cydraddoldeb' 2006 a Rheoliadau 'Cydraddoldeb ynglŷn â Chyflogaeth' (Crefydd neu Gred) 2003 sy'n ymwneud ag anffafrio ar sail crefydd neu gred. Does dim diffiniadau o grefydd na chred ynddyn nhw ar wahân i nodi bod:

  • ystyr 'crefydd' yw unrhyw grefydd;
  • ystyr 'cred' yw unrhyw gred grefyddol neu athronyddol;
  • gan gynnwys lle nad oes grefydd neu gred gan rywun.

Cyfrifoldeb y llysoedd fyddai penderfynu a yw rhywbeth yn grefydd neu’n gred yn y diwedd. Dyma’r meini prawf ar gyfer crefydd neu gred sydd i’w diogelu yn ôl Deddf ‘Cydraddoldeb’ 2006:

  • Argyhoeddiadol
  • Credadwy
  • Cydlynol
  • Cyd-fynd â pharch dynol

Ystyr y tri cyntaf yn fras yw: dirnadwy; arferion mae’r ymlynwyr yn eu cynnal yn gadarn; arferion/trefn mae modd eu cydnabod yn rhai cyffredin. Byddai’r diffiniad yn berthnasol i brif grefyddau’r DG ond nid i fudiadau megis ‘Marchogion y Jedi’ oedd yn rhan o’r Cyfrifiad diwethaf.

Bydd modd ystyried enwad yn grefydd neu’n gred hefyd, e.e. Eglwys Rufain yn rhan o Gristnogaeth. Mae’r syniad o ‘gred’ yn cynnwys credoau megis dyneiddiaeth neu gredoau athronyddol sy’n debyg i grefydd, ond nid categorïau eraill megis cefnogaeth dros bleidiau gwleidyddol.

Rheoliadau 'Cydraddoldeb Cyflogaeth' (Crefydd neu Gred)

Er 2il Rhagfyr 2003, mae'n anghyfreithlon anffafrio gweithwyr o achos crefydd neu gred, dan amodau Rheoliadau 'Cydraddoldeb Cyflogaeth' (Crefydd neu Gred).

Mae'n berthnasol i hyfforddiant galwedigaethol a phob agwedd ar gyflogaeth, gan gynnwys denu staff, telerau ac amodau, dyrchafu, trosglwyddo, diswyddo a hyfforddi. Yn ôl y rheoliadau, mae'n anghyfreithlon defnyddio crefydd neu gred i:

  • anffafrio rhywun yn uniongyrchol, sef pennu amodau sy'n llai ffafriol na rhai gweithwyr eraill;
  • anffafrio rhywun yn anuniongyrchol, sef pennu maen prawf, gofyn neu arfer sy'n rhoi pobl o ryw grefydd neu gred dan anfantais, oni bai bod modd cyfiawnhau hynny'n wrthrychol;
  • aflonyddu ar rywun;
  • erlid rhywun am ei fod wedi cwyno am anffafrio yn ôl crefydd neu gred, neu'n bwriadu gwneud hynny, neu ei fod wedi rhoi tystiolaeth ynghylch cwyn o'r fath, neu'n bwriadu gwneud hynny;
  • anffafrio rhywun neu aflonyddu arno mewn sefyllfa benodol ar ôl i'r berthynas â'r gwaith ddod i ben.

Dim ond hyn a hyn o amgylchiadau sy'n rhydd rhag y gofynion, lle mae gwir angen galwedigaethol i benodi gweithiwr o ryw grefydd neu gred benodol er mwyn cynnal y swydd neu gydymffurfio â chred neu argyhoeddiad crefyddol y sefydliad dan sylw.

Deddf 'Cydraddoldeb'

Daeth gofynion Rhan 2 Deddf 'Cydraddoldeb' 2006 i effaith yn 2007 fel y byddai'n anghyfreithlon i'r rhai sy'n cynnig nwyddau, cyfleusterau neu wasanaethau drin a thrafod eu cwsmeriaid yn annheg ar sail crefydd a chred neu ddiffyg crefydd a chred. Mae'r gofynion yn berthnasol i swyddogaethau, addysg ac adeiladau cyhoeddus, hefyd.

Hanfod gofynion y ddeddf ynglŷn â chrefydd a chred yw nad oes modd i awdurdodau lleol anffafrio pobl oherwydd:

  • eu crefydd neu eu cred;
  • crefydd neu gred mae rhywun yn tybio ei bod yn berthnasol iddo – hyd yn oed os yw'r tyb hwnnw'n anghywir;
  • crefydd neu gred rhywun mae unigolyn yn ymwneud ag e megis cyfaill neu berthynas;
  • nad oes gan rywun unrhyw grefydd neu gred benodol.

Mae Rhan 2 Deddf 'Cydraddoldeb' 2006 yn gofyn i bob awdurdod lleol ofalu – wrth gynnig nwyddau, cyfleusterau a gwasanaethau – nad yw'n ymdrin â'i gwsmeriaid yn annheg oherwydd eu crefydd neu eu cred.

Mae annhegwch o'r fath ar sail crefydd neu gred yn cynnwys y canlynol:

  • gwrthod cynnig nwyddau, cyfleusterau neu wasanaethau y byddai awdurdod yn eu cynnig i'r cyhoedd fel arfer;
  • cynnig i rywun nwyddau, cyfleusterau neu wasanaethau sy'n waeth na'r rhai y byddai awdurdod yn eu cynnig fel arfer;
  • cynnig nwyddau, cyfleusterau neu wasanaethau mewn modd llai cyfeillgar neu gwrtais na'r arfer, neu ar delerau gwaeth.

Mae anffafrio'n anghyfreithlon ni waeth a yw'r awdurdod yn codi tâl am y nwyddau, y cyfleusterau neu'r gwasanaethau o dan sylw neu beidio.

Rhagor o wybodaeth:

Mae ar wefan Cymdeithas Dyneiddwyr Prydain nifer o adnoddau allai fod yn ddefnyddiol i'r rhai sy'n gweithio ym maes cydraddoldeb a hawliau dynol. Mae'r adnoddau'n rhan o brosiect cydraddoldeb y gymdeithas, o dan nawdd y Comisiwn dros Gydraddoldeb a Hawliau Dynol. Nod y prosiect yw meithrin amgyffred o faterion crefydd neu gred yng nghyd-destun hawliau dynol a chydraddoldeb yn y sector gwirfoddol ac ymhlith y cyfryngau a'r cyhoedd.

Crefydd neu gred: Pecyn hyfforddi
Pecyn cymorth i ymarferwyr cydraddoldeb ac ynddo gyngor a gwybodaeth am faterion crefydd a chred ar ffurf ymarferion a chyflwyniadau.

Crefydd neu gred: Canllawiau
Ar gyfer awdurdodau lleol a chyrff sy'n ymwneud â materion crefydd neu gred yn rhan o waith cydraddoldeb mae'r ddogfen hon. Mae'n rhoi gwybodaeth am y deddfau presennol ynglŷn â chrefydd a chred ac yn awgrymu arferion da ar gyfer cynlluniau cyflogi a chydraddoldeb.

Crefydd neu gred: Cynadleddau
Cyflwyniadau PowerPoint am amrywiaeth o faterion megis hawliau dynol, siarad yn rhydd a gwasanaethau cyhoeddus.

Crefydd neu gred: Arolwg
Diben yr arolwg oedd nodi faint mae pobl yn ei wybod am grefydd a chred ym maes cydraddoldeb a'u barn nhw ynglŷn â pha gymorth y byddai ei angen i gyflawni'r gwaith. Roedd awdurdodau lleol Cymru a Lloegr ymhlith y rhai gafodd eu holi. Mae'r adroddiad yn rhoi argymhellion am wella'r gwaith yn y maes hwn, hefyd.

Crefydd neu gred: Cyflwr y genedl
Adroddiad am faterion crefydd a chred ym maes cydraddoldeb. 

Mae rhagor o wybodaeth gan: Rob Beardall