Rydych chi yma: Hafan / Ein gwaith / Gwella a llywodraethu / Cynorthwyo a datblygu cynghorwyr / Llawlyfrau datblygu personol i'r cynghorwyr
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Llawlyfrau datblygu personol i'r cynghorwyr

Mae'r llawlyfrau hyn yn cynnig cyfres o ddeunyddiau sy'n galluogi cynghorwyr i feithrin medrau trwy ddysgu o hirbell. Mae'r llawlyfrau'n cwmpasu amryw fedrau cyffredinol yn ogystal â materion, meysydd a pholisïau penodol sy'n effeithio ar wardiau. Byddan nhw'n arbennig o ddefnyddiol i gynghorwyr newydd. Bydd angen dwy neu dair awr i fynd trwy pob llawlyfr, a bydd modd i bob cynghorydd wneud hynny ar ei ben ei hun neu ar y cyd â chynghorwyr eraill yn rhan o raglen ddatblygu ehangach.

Mae WLGA wedi llunio'r llawlyfrau i gynghorwyr Cymru trwy addasu'r rhai roedd Gwella a Datblygu Llywodraeth Leol (yr IDeA gynt) wedi'u cyhoeddi yn Lloegr. Felly, maen nhw'n adlewyrchu strwythurau gwleidyddol, polisïau a chanllawiau sy'n berthnasol i Gymru.

Byddwn ni'n ychwanegu at y gyfres drwy gydol y flwyddyn.

Mewn rhai achosion, bydd llawlyfrau Saesneg Gwella a Datblygu Llywodraeth Leol yn ddefnyddiol. Felly, mae linc â'r rheiny, hefyd. Nodwch, fodd bynnag, y bydd y strwythurau polisi a'r canllawiau'n wahanol i rai Cymru, yn aml.

Mae rhagor o wybodaeth gan: sarah.titcombe@wlga.gov.uk 029 2046 8638

Dyma linciau â'r llawlyfrau sydd ar gael ar hyn o bryd.