Cafodd trydydd fersiwn CONTEST (strategaeth gwrthderfysgaeth y DG) sydd ar waith er 2003 ei gyhoeddi fis Gorffennaf 2011. Nod y strategaeth yw diogelu'r DG rhag terfysgwyr rhyngwladol fel y gall pobl fyw heb ofn.
Mae pedair elfen i CONTEST:
- Hela: rhwystro terfysgwyr rhag ymosod arnon ni
- Atal: atal pobl rhag mynd yn derfysgwyr neu gefnogi eithafiaeth dreisgar
- Amddiffyn: cryfhau'r amddiffyn yn erbyn terfysgwyr
- Paratoi: lleddfu effaith ymosodiad lle nad oes modd ei osgoi
Gwrthderfysgaeth yng Nghymru
Er mai San Steffan piau'r rhan fwyaf o gyfrifoldebau am wrthderfysgaeth o hyd, mae'r maes yn effeithio ar y polisïau a'r swyddogaethau sydd wedi'u datganoli, yn arbennig yr awdurdodau lleol a'r partneriaethau diogelwch cymunedol. Felly, cafodd Bwrdd CONTEST Cymru ei sefydlu fis Mawrth 2008.
Rhaglen 'Prevent' yng Nghymru
Ymhlith holl agweddau Ymgyrch CONTEST, ‘atal’ sydd fwyaf perthnasol i awdurdodau lleol a phartneriaethau diogelwch cymunedol. Mae yn y strategaeth atal newydd, a gafodd ei chyhoeddi fis Mehefin 2011, 3 phrif amcan:
- ymateb i her ideolegol terfysgaeth a bygythiad y rhai sy’n ei hybu;
- atal pobl rhag cael eu denu i derfysgaeth a gofalu bod cymorth priodol ar gael iddyn nhw;
- cydweithio ag amrywiaeth helaeth o sectorau a sefydliadau (megis addysg, ffydd, iechyd a chyfiawnder troseddol) lle mae eisiau mynd i’r afael â dylanwadau eithafol.
I'r perwyl hwn, cytunodd Bwrdd CONTEST Cymru y dylai Fforwm Diogelwch Cymunedol Cymru sefydlu is-gylch fyddai'n gyfrifol am y rhaglen. Mae rhagor o wybodaeth am yr is-gylch, ynghyd â phapurau ei gyfarfodydd, yma.
Mae rhagor o wybodaeth gan: Seth Newman


