Mae staff materion adfywio WLGA yn cydweithio â Chyfarwyddiaeth Cymunedau Llywodraeth y Cynulliad a'r cyrff sydd wedi'u penodi i gynnig cymorth – Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ac ‘Empower’ – i ofalu bod:
- awdurdodau lleol, partneriaethau strategol lleol a phartneriaethau Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yn gallu cydweithio i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd mae'r rhaglen yn eu cynnig i'r cymunedau sy'n ymwneud â hi;
- safbwynt byd llywodraeth leol yn cael ei ystyried wrth drefnu unrhyw weithgarwch newydd ar gyfer adfywio cymunedau.
Ariannu
Yn ystod Cynhadledd Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf fis Hydref 2010, dywedodd y Gweinidog y byddai peth arian ar gael o hyd i ddatblygu cymunedau ac ymgysylltu ag ardaloedd tlawd ar ôl i'r rhaglen bresennol ddod i ben fis Mawrth 2012 – 'ymrwymiad i helpu ardaloedd tlawd'. Adeg ysgrifennu'r darn hwn (Mawrth 2011), fodd bynnag, does dim gwybodaeth am natur na manylion y cymorth hwnnw eto.
Cronfa'r Deilliannau
Bydd Cronfa'r Deilliannau'n dod i ben fis Mawrth 2012 ac mae arian ar gael i bartneriaethau sy'n ymwneud â Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf o hyd. Rhaid i bob cais ddangos y bydd arian cyfatebol ar gael.
Mae Cyfarwyddiaeth Cymunedau Llywodraeth y Cynulliad yn sefydlu trefniadau ariannu eraill er mwyn datblygu cymunedau ac ymgysylltu â nhw mewn modd mwy strategol:
- Byrddau gwasanaethau lleol – bydd yn cydweithio â'r byrddau ynghylch ymgysylltu â'r cyhoedd a datblygu cymunedau, yn ôl gofynion Rhaglen 'Creu'r Cysylltiadau', gan fanteisio ar Gronfa Gymdeithasol Ewrop;
- Pobl sydd heb weithio, astudio na chael eu hyfforddi – ar y cyd ag Adran Plant, Addysg a Dysgu Gydol Oes Llywodraeth y Cynulliad a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, mae bwriad i greu swyddi mewn mentrau cymunedol a chymdeithasol am hyd at 26 wythnos trwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop a chymorth Llywodraeth y Cynulliad;
- Canolfan Byd Gwaith – prosiect parhaus i gynyddu nifer y rhai sy'n gweithio mewn ardaloedd sy'n ymwneud â Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf;
- Cyrff dan nawdd y Cynulliad – ceisio creu cyfleoedd o hyd i ariannu gwaith er lles ardaloedd sy'n gysylltiedig â Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf, e.e. Cyngor Ariannu Addysg Uwch, Amgueddfa Genedlaethol Cymru.
Gwerthuso
Mae gwaith gwerthuso Cronfa'r Deilliannau a chytundebau/gweithdrefnau presennol Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yn mynd rhagddo. Mae bwriad i gyflwyno'r adroddiadau terfynol fis Mai 2011. Bydd Cyfarwyddiaeth Cymunedau Llywodraeth y Cynulliad yn rhoi adroddiad am hynt Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf gerbron Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad fis Mawrth 2011.
Mae rhagor o wybodaeth gan: Lowri Gwilym


