Rydych chi yma: Hafan / Ein gwaith / Carfan Dysgu Gydol Oes, Hamdden a Gwybodaeth WLGA / Cludiant yr ysgolion
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Cludiant yr ysgolion

Yn 2007, penderfynodd Llywodraeth y Cynulliad roi £3 miliwn i WLGA dros dair blynedd er mwyn helpu'r awdurdodau lleol i ddatblygu prosiectau arloesol ynglŷn â chludiant rhwng yr ysgol a'r cartref.

Dyma nodau'r grant:

  • Llunio argymhellion fydd yn gwella cludiant rhwng yr ysgol a'r cartref.
  • Nodi arferion da'r awdurdodau lleol yng Nghymru a thu hwnt a hybu'r arferion hynny ledled y wlad i wella safonau.
  • Helpu awdurdodau lleol i gydweithio ar draws ffiniau, yn arbennig mewn perthynas â'r consortia cludiant, fel y gallan nhw weithio'n effeithlon ac yn drefnus.
  • Rhoi cyngor a gwybodaeth i Lywodraeth y Cynulliad am bolisïau, gweithgareddau a datblygiadau yng Nghymru a thu hwnt.

Bwrdd Prosiectau Cludiant yr Ysgolion sydd wedi goruchwylio'r trefniadau ariannu a hynt yr amryw brosiectau. Mae cynrychiolwyr byd llywodraeth leol, Llywodraeth y Cynulliad ac WLGA ymhlith aelodau'r bwrdd. Bydd y rhaglen yn dod i ben fis Ebrill 2011.

Mae 12 prosiect arbrofol wedi'u sefydlu ledled y wlad gan ddefnyddio arian y rhaglen. Mae gwybodaeth am y prosiectau hynny ar …….