Rydych chi yma: Hafan / Pynciau / Dysgu gydol oes materion diwylliannol a / Ysgolion / Cludiant i'r ysgol
 

Cludiant i'r ysgol

Mae gofyn i awdurdodau lleol Cymru gludo plant rhwng 5 a 7 oed i'r ysgol ac yn ôl i'w cartrefi yn rhad ac am ddim os ydyn nhw'n byw dros 2 filltir o'r ysgol neu, yn achos y rhai 8 - 16 oed, dros 3 milltir o'r ysgol.  O ganlyniad, mae cludiant i'r ysgol yn un o swyddogaethau pwysicach yr awdurdodau lleol.

Gofynnodd WLGA i'r National Foundation for Educational Research gynnal ymchwil i gludiant i'r ysgol i helpu i bennu polisïau ac arferion effeithiol yng Nghymru.  Yn ôl yr adroddiad gyhoeddodd y llynedd, diogelwch y disgyblion, y teithwyr a'r gyrwyr sy'n bwysicaf wrth deithio i'r ysgol, gan gynnwys mynd i mewn i'r bws a'i adael.  Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at bwysigrwydd nodi ffyrdd cost-effeithiol o ddatrys problemau diogelwch ac ymddygiad, hefyd.

Mae Pwyllgor Addysg a Dysgu Gydol Oes y Cynulliad wedi cynnal ymchwil i gludiant i'r ysgol, hefyd, gan gyhoeddi adroddiad fis Ebrill 2005.  Mae yn yr adroddiad nifer o argymhellion i'r awdurdodau lleol a Llywodraeth y Cynulliad.

Mae Llywodraeth y Cynulliad wrthi'n ymgynghori am nifer o newidiadau yn y gyfraith ynglŷn â chludiant i'r ysgol.  Mae rhagor o fanylion ar dudalennau trafnidiaeth gwefan y Cynulliad: www.cymru.gov.uk .

Mae rhagor o wybodaeth gan: Daisy Seabourne