Rydych chi yma: Hafan / Ein gwaith / Ewrop a WLGA / Blaenoriaethau Polisiau Ewropeaidd / Cydweithio rhwng y rhanbarthau / Chwilio am Bartner
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Chwilio am Bartner

Chwilio am Bartner

Mae Swyddfa Ewropeaidd WLGA yn derbyn ymholiadau 'chwilio am bartner' o'n cyfeillion ar draws Ewrop yn aml. Mae'r ymholiadau hyn yn cynnwys ystod eang o feysydd polisi, megis addysg, diwylliant, iechyd, ymchwil ac arloesedd. Mae'r rhestr isod yn dangos yr ymholiadau 'chwilio am bartner' diweddaraf a all fod o ddiddordeb i awdurdodau lleol yng Nghymru. Os oes gennych ddiddordeb mewn unryw syniad prosiect neu os hoffech ragor o wybodaeth yna cysylltwch os gwelwch yn dda gyda'r person cyswllt perthnasol ar gyfer pob ymholiad. Mae rhagor o wybodaeth ar y syniadau prosiect, meini prawf cymhwysedd a fframweithiau amser i'w ganfod yn yr atodiadau (Saesneg yn unig).

  

Teitl y prosiect: Chwilio am Bartner Materion Cymdeithasol

Prif bartner: Andalucia, Sbaen

Maes polisi: Cronfa Ewropeaidd ar gyfer Integreiddio Dinasyddion Trydydd Gwlad

Disgrifiad: Mae consortiwm traws-cenedlaethol yn cynnwys sefydliadau o Sbaen, Ffrainc, Yr Eidal a Gwlad Groeg yn chwilio am bartneriaid i gymryd rhan mewn dau brosiect o fewn y Gronfa Ewropeaidd ar gyfer Integreiddio Dinasyddion Trydydd Gwlad. Bwriad y prosiectau yw i gymharu, cynllunio a gweithredu ffyrdd ar gyfer trefn llywodraethol trefol yn trafod integreiddio ymfudwyr trwy gwaith ac yn gymdeithasol. Prif blaenoriaethau'r prosiect cyntaf yw i ehangu rheoli amrywiaethau a mesurau integreiddio. Prif blaenoriaethau'r ail brosiect yw i ehangu rheoli amrywiaethau mewn cymunedau a chynyddu cyfranogiad mewnfudwyr ymhob agwedd bywyd. Mae'r prosiect yn rhedeg am 18 mis. Mae rhagor o wybodaeth ar y prosiect cyntaf i'w weld yma a gellir gweld rhagor ar yr ail brosiect yma (dogfennau Word).

Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: dim wedi'i nodi

Person cyswllt: Israel Adan Castilla (prosiect 1af); Giuseppe Beluschi Fabeni (2il prosiect)

 

Teitl y prosiect: Chwilio am Bartner Addysg a Materion Cymdeithasol

Prif bartner: Mölndal, Sweden

Maes polisi: Rhaglen Comenius

Disgrifiad: Mae ysgol uwchradd Almasskolen, 'Childcare' ac Adran Addysg Mölndal yng ngorllewin Sweden in chwilio am bartneriaid gyda diddordeb mewn prosiect dwy flynedd o fewn Rhaglen Comenius. Hoffai'r ysgol weithio gyda ysgolion uwchradd eraill, yn enwedig rhai mewn ardaloedd aml-ddiwylliannol. Bwriad y prosiect yw i daclo estrongasedd a hiliaeth ymysg ieuenctid trwy ddangos y manteision y mae Ewrop aml-ddiwylliannol yn ei ddarparu. Mae rhagor o wybodaeth i'w weld yma (dogfen Word).

Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: 21 Chwefror 2012

Person cyswlltDaniela Olmunger

  

Teitl y prosiect: Atal trais a pholisiau cenhedloedd

Prif bartner: Murcia, Sbaen

Maes polisi: Rhaglenni Daphne, Comenius, Grundtvig

Disgrifiad: Mae'r Bwrdd Cyfarwyddo ar gyfer Atal Trais yn erbyn menywod, Materion Ieuenctid a Throseddau Ieuenctid yn rhanbarth Murcia yn chwilio am bartneriaid gyda diddordeb mewn rhannu profiadau ynglyn â adsefydlu y rhai sydd wedi bod yn treisgar yn erbyn menywod yn ogystal â gweithio tuag at datblygu strategaeth i atal trais yn erbyn menywod, a gwella rheoli dioglewch dioddefwyr. Mae rhagor o wybodaeth i'w weld yma (dogfen pdf).

Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: dim wedi'i nodi

Person cyswllt: Nicolas Gonzalvez

 

Teitl y prosiect: Chwilio am Bartner Addysg

Prif bartner: Yr Ynysoedd Dedwydd, Sbaen

Maes polisi: Rhaglen Comenius yr UE

Disgrifiad: Mae ysgol uwchradd IES Maria Rosa Alonso yn Santa Cruz yn chwilio am bartneriaid i gymryd rhan mewn prosiect o fewn fframwaith rhaglen Comenius. Hoffai'r ysgol weithio gyda myfyrwyr rhwng 16-25 oed. Mae'r prosiect yn edrych ar faetheg a bwyta iach, gyda'r bwriad i addysgu myfyrwyr am fanteision bwyta'n iach yn ogystal â phwysigrwydd rheoli pwysau. Mae rhagor o wybodaeth i'w weld yma (dogfen Word).

Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: dim wedi'i nodi

Person cyswllt: Aurora Gonzalez Roser a Raquel Martinez Pena

 

Teitl y prosiect: 'Iechyd a Hirhoedledd gydag Ayurveda a Yoga'

Prif bartner: Nicosia, Cipris

Maes polisi: Rhaglen Grundtvig yr UE

Disgrifiad: Mae Prifysgol Ewropeaidd Cipris yn chwilio am bartneriaid gyda diddordeb mewn prosiect o fewn fframwaith rhaglen Grundtvig. Bwriad y prosiect yw i gasglu a rhannu gwybodaeth a phrofiadau ynglyn â thraddodiadau Auyrveda a Yoga a sut i ddefnyddio'r arferion yma ym mywyd ddyddiol. Fe fydd y partneriaid yn datblygu offerynnau o ddefnydd i ddysgwyr oedolion er mwyn canfod gwybodaeth am yr arferion yn ogystal â'i fanteision. Mae rhagor o wybodaeth i'w weld yma (dogfen pdf).

Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: 21 Chwefror 2012

Person cyswllt: Simona Schrammel

 

Teitl y prosiect: Chwilio am Bartner Addysg

Prif bartner: Ovrebo, Norwy

Maes polisi: Rhaglen Comenius

Disgrifiad: Mae ysgol uwchradd Skarpengland yn Ovrebo, De Norwy, yn chwilio am bartneriaid i gymryd rhan mewn prosiect o fewn fframwaith rhaglen Comenius. Y grŵp sydd o dan sylw yw disgyblion 13-14 oed. Fe fydd y prosiect yn edrych ar sut y gall ysgolion cynyddu brwdfrydedd disgyblion ar gyfer dysgu. Fe fydd integreiddio disgyblion gydag anghenion arbennig hefyd yn cael ei bwysleisio. Bwriad y prosiect yw i gynyddu ymwybyddiaeth o'r rhan y mae athrawon yn chwarae yn y dosbarth. Mae rhagor o wybodaeth i'w weld yma (dogfen pdf).

Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: dim wedi'i nodi

Person cyswllt: Nancy Kvamsdal

  

Teitl y prosiect: Chwilio am Bartner Addysg

Prif bartner: Lillesand, Norwy

Maes polisi: Rhaglen Comenius

Disgrifiad: Mae ysgol uwchradd Lillesand yn Norwy yn edrych am ysgolion uwchradd arall gyda diddordeb mewn cymryd rhan ym mhrosiect Partneriaeth Comenius. Bwriad y prosiect yw i wella'r proses asesu ar gyfer gwyddoniaeth a mathemateg mewn ysgolion. Mae ysgol Lillesand o'r farn fod y prosiect yn gyfle i gyfnewid methodolegau, profiadau a esiamplau o arferion da. Mae rhagor o wybodaeth i'w weld yma (dogfen Word).

Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: dim wedi'i nodi

Person cyswllt: Svein Anders Heggem

  

Teitl y prosiect: Model Datblygedig Ynni Cynaladwy Rhanbarthol (SERAM)

Prif bartner: Madrid, Sbaen

Maes polisi: Ynni Cynaladwy

Disgrifiad: Mae clwstwr ynni cynaladwy yn rhanbarth Madrid yn chwilio am bartneriaid i gymryd rhan mewn prosiect ynni cynaladwy. Bwriad y prosiect yw i baratoi adroddiad ar yr offerynnau technegol a rheoli sydd ar gael i gyflawni cynaladwyedd ynni rhanbarthau ac i ddatblygu ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth am yr angen i fabwysiadu polisiau sydd yn arwain at cynaladwyedd ynni rhanbarthol. Mae rhagor o wybodaeth i'w weld yma (dogfen Word).

Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: dim wedi'i nodi

Person cyswllt: Silvia Sarria

 

Teitl y prosiect: 'Rhannu ein diwylliant trwy cerddoriaeth a dawnsio gwerin'

Prif bartner: Silesia, Gwlad Pwyl

Maes polisi: Rhaglen Comenius

Disgrifiad: Mae ysgol yn Silesia, Gwlad Pwyl, yn chwilio am bartneriaid gyda diddordeb mewn prosiect o fewn Rhaglen Comenius. Bwriad y prosiect yw i astudio y gwahaniaethau rhwng gwledydd Ewropeaidd ynglyn â cerddoriaeth, diwylliant a thraddoddiadau. Fe fydd y prosiect yn dysgu myfyrwyr am bwysigrwydd trysorau cenedlaethol a sut y gall Ewrop ddod at ei gilydd thrwy eu hamrywioldeb diwylliannol. Mae rhagor o wybodaeth i'w weld yma (dogfen Word).

Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: dim wedi'i nodi

Person cyswllt: Joanna Sobczyk

  

Teitl y prosiect: 'Iechyd a lles dinas: mae dinas iach yn ddinas actif'

Prif bartner: Päijät-Häme, Y Ffindir

Maes polisi: Ewrop ar gyfer Dinasyddion

Disgrifiad: Mae cyngor rhanbarthol yn ne Y Ffindir yn chwilio am bartneriaid gyda diddordeb mewn prosiect o fewn rhaglen Ewrop ar gyfer Dinasyddion. Mae'r prosiect yn edrych ar phwysigrwydd ymarfer corff ac yn bwriadu ateb cwestiynau megis beth gall llywodraethau leol eu gwneud i annog dinasyddion i fod yn fwy actif ac edrych am y rhesymau dros ddifyg ymarfer. Mae rhagor o wybodaeth i'w weld yma (dogfen pdf).

Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: dim wedi'i nodi

Person cyswllt: Tuula Loikkanen

 

Teitl y prosiect: Chwilio am Bartner Addysg

Prif bartner: Ysgol Uwchradd Holte, Norwy

Maes polisi: Rhaglen Comenius

Disgrifiad: Mae ysgol uwchradd Holte yn Kristiansand, de Norwy, yn edrych am bartneriaid gyda diddordeb mewn prosiect o fewn rhaglen Comenius. Mae'r prosiect yn edrych ar 'asesu ar gyfer dysgu' ac yn bwriadu gwella a datblygu strategaethau ysgolion ar gyfer 'asesu ar gyfer dysgu' trwy cyfnewid profiadau rhwng ysgolion. Mae rhagor o wybodaeth i'w weld yma (dogfen pdf).

Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: 22 Chwefror 2012

Person cyswllt: Trond R Rasmussen

 

Teitl y prosiect: Chwilio am Bartner Iechyd

Prif bartner: Prifysgol Ewropeaidd, Cipris

Maes polisi: Ail Rhaglen Gweithredoedd Cymunedol ym Maes Addysg

Disgrifiad: Mae labordy gweithgareddau, iechyd a pherfformiad dynol Prifysgol Cipris yn chwilio am bartneriaid i gymryd rhan mewn prosiect o fewn yr Ail Rhaglen Gweithredoedd Cymunedol ym Maes Addysg. Mae'r canolfan ymchwil wedi gwneud prosiectau ymchwil ar lefelau cenedlaethol a rhyngwladol, gan gynnwys Prosiectau Dysgu Gydol Oes. Mae rhagor o wybodaeth i'w weld yma (dogfen pdf).

Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: 9 Mawrth 2012

Person cyswllt: Charalambos Tzortzis

 

Teitl y prosiect: Agwedd Dysgu a Defnyddio Llyfrgelloedd Ewropeaidd (ELLA)

Prif bartner: Formazione Co&So, Firenze, Yr Eidal

Maes polisi: Rhaglen Leonardo

Disgrifiad: Mae Rhwydwaith Formazione Co&So yn Firenze yn chwilio am bartneriaid i gymryd rhan mewn prosiect o fewn fframwaith y Rhaglen Dysgu Gydol Oes. Fe fydd y prosiect yn edrych ar rôl llyfrgelloedd wrth annog mewnfudwyr i hintegreiddio yn eu cymunedau lleol. Fe fydd partneriaid ym mhrosiect ELLA yn datblygu rhaglen galwadigaethol a chasglu esiamplau o arferion da ym maes gweithredu rhyngddiwylliannol yn sefydliadau diwylliannol ar draws Ewrop. Mae rhagor o wybodaeth i'w weld yma (dogfen Word).

Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: 21 Chwefror 2012

Person cyswllt: Patrizia Giorio

 

Teitl y prosiect: "Bywyd Iach, Bywyd Hapus"

Prif bartner: Murcia, Sbaen

Maes polisi: Rhaglen Comenius

Disgrifiad: Mae ysgol gynradd El Salvador yn Murcia, Sbaen, yn chwilio am bartneriaid gyda diddordeb mewn prosiect o fewn fframwaith rhaglen Comenius. Bwriad y prosiect yw i hyrwyddo ffyrdd i fyw yn iach ymysg disgyblion, rhieni a staff mewn ysgolion. Fe fydd disgyblion yn cyfnewid ryseitiau a bwydydd er mwyn creu 'Llyfr Coginio ar gyfer Plant'. Fe fydd disgyblion hefyd yn edrych ar fwydydd iach mewn ardaloedd lleol yn ogystal â trafod materion eraill megis diogelwch ar y ffordd, peryglon cyffuriau ac alcohol a diogelwch ar y we. Mae rhagor o wybodaeth i'w weld yma (dogfen Word).

Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: 21 Chwefror 2012

Person cyswllt: Santiago Marcos Cobos Martinez

 

Teitl y prosiect: 'Darganfod Treftadaeth Diwylliannol Cyffredin ar Groesffordd Ewrop'

Prif bartner: Asiantaeth Diwylliannol Bwrdeisdref Kekava, Latfia

Maes polisi: Rhaglen Ewrop ar gyfer Dinasyddion

Disgrifiad: Mae Asiantaeth Diwylliannol Bwrdeisdref Kekava yn Latfia yn chwilio am bartneriaid gyda diddordeb mewn prosiect o fewn fframwaith rhaglen Ewrop ar gyfer Dinasyddion. Bwriad y prosiect yw i hyrwyddo amrywioldeb diwylliannol trwy cynyddu ymwybyddiaeth cyhoeddus a diddordeb dinasyddion lleol am hanes, diwylliannau a thraddoddiadau lleol a thramor. Fe fydd partneriaid yn cymryd rhan mewn perfformiadau diwylliannol, seminarau yn ogystal â gŵyl 'Daugmale Castle Hill' er mwyn dysgu mwy am thraddoddiadau y canol oesoedd. Mae rhagor o wybodaeth i'w weld yma (dogfen Word).

Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: 25 Chwefror 2012

Person cyswllt: Reinis Zobens

 

Teitl y prosiect: Rheoli Busnesau Ceffylau

Prif bartner: Maison Familiale Rurale de Bournezeau, Ffrainc

Maes polisi: Prosiect Symudoledd Leonardo da Vinci

Disgrifiad: Mae ysgol galwedigaethol yn Ffrainc yn arbenigo busnesau amaeth, yn enwedig busnesau ceffylau. Mae'r ysgol yn edrych am sefydliadau hyfforddi galwedigaethol eraill sydd yn darparu rhaglenni ym maes ceffylau a rheoli busnesau ceffylau ac sydd yn barod i dderbyn myfyrwyr ar gyfer profiad gwaith. Mae rhagor o wybodaeth i'w weld yma (dogfen pdf).

Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: dim wedi'i nodi

Person cyswllt: Eric Fournet

 

Teitl y prosiect: 'Celf ar lan y dŵr'

Prif bartner: Skive, Denmarc

Maes polisi: Diwylliant

Disgrifiad: Mae tref Skive yn Nenmarc yn chwilio am bartneriaid gyda diddordeb mewn cyfnewid celf ac artistiaid sydd yn defnyddio thema dŵr. Mae rhagor o wybodaeth i'w weld yma (dogfen Word).

Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: dim wedi'i nodi

Person cyswllt: Rasmus Aspe Mork

 

Teitl y prosiect: Chwilio am Bartner Diwylliant

Prif bartner: Mölndal, Sweden

Maes polisi: URBACT II

Disgrifiad: Mae adran diwylliant dinas Mölndal yng ngorllewin Sweden yn chwilio am bartneriaid i gymryd rhan mewn prosiect o fewn fframwaith rhaglen URBACT II. Maent yn chwilio am bartneriaid sydd yn cynrychioli dinasoedd gyda chefndir hanesyddol cryf. Mae'r prosiect yn trafod diwylliant, hanes, datblygiad trefol a materion amgylcheddol. Mae rhagor o wybodaeth i'w weld yma (dogfen Word).

Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: 15 Mawrth

Person cyswllt: Sofia Lubian

 

Teitl y prosiect: 'Addysgu Myfyrwyr am Heddwch Trwy'r Theatr'

Prif bartner: Treviso, Yr Eidal

Maes polisi: Rhaglen Comenius

Disgrifiad: Mae ysgol uwchradd yn Treviso yn chwilio am bartneriaid gyda diddordeb mewn prosiect o fewn Rhaglen Comenius. Fe fydd y prosiect yn trafod y themau heddwch a rhyfel ac yn cynnwys seminarau a gweithdai theatr ar gyfer myfyrwyr. Fe fydd y myfyrwyr yn cynhyrchu sioe ar gyfer Gwyl Theatr Treviso. Mae rhagor o wybodaeth i'w weld yma (dogfen pdf).

Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: 21 Chwefror

Person cyswllt: Chiara Ghirardello

 

Teitl y prosiect: Chwilio am Bartner Cynllunio Trefol ac Entrepreneuriaeth

Prif bartner: Mölndal, Sweden

Maes polisi: URBACT II

Disgrifiad: Mae dinas Mölndal yng ngorllewin Sweden yn chwilio am bartneriaid gyda diddordeb mewn prosiect o fewn Rhaglen URBACT II. Bwriad y prosiect yw i greu entrepreneuriaeth yn y sector creadigol gan ddefnyddio cynllunio trefol fel offeryn. Mae rhagor o wybodaeth i'w weld yma (dogfen Word).

Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: 15 Mawrth

Person cyswllt: Lars Ekberg

 

Teitl y prosiect: Hyfforddiant ar gyfer Arferion Da ym maes Cyfrifoldebau Emosiynol ac Addysgiadol Rhieni

Prif bartner: Aguimes, Yr Ynysoedd Dedwydd, Sbaen

Maes polisi: Rhaglen Grundtvig II

Disgrifiad: Mae cyngor dinas Aguimes yn chwilio am bartneriaid gyda diddordeb mewn prosiect o fewn fframwaith rhaglen Grundtvig. Bwriad y prosiect yw i hyrwyddo arferion da yn ymwneud â cyfrifoldebau rhieni. Fe fydd pwyslais arbennig ar helpu plant i gyflawni llwyddiant yn yr ysgol, byw yn iach ac atal ymddygiad drwg. Fe fydd cyfarfodydd, gweithdai a seminarau ar gyfer partneriaid. Mae rhagor o wybodaeth i'w weld yma (dogfen Word).

Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: dim wedi'i nodi

Person cyswllt: Manuel Estupinan Verona

   

Teitl y prosiect: Chwilio am Bartner Hawliau Plant

Prif bartner: Hackney, Llundain, Lloegr

Maes polisi: Rhaglen Dinasyddiaeth a Hawliau Sylfaenol 

Disgrifiad: Mae bwrdeisdref Hackney yn Llundain yn chwilio am bartneriaid gyda diddordeb mewn prosiect o fewn y Rhaglen Dinasyddiaeth a Hawliau Sylfaenol. Fe fydd y prosiect yn ceisio hyrwyddo hawliau plant, ac yn edrych ar sut mae Aelodau wahanol o'r UE yn galluogi plant i wneud penderfyniadau eu hunain. Hoffai Hackney gyhoeddi llawlyfr ar agweddau effeithiol i alluogi plant gwneud penderfyniadau. Mae rhagor o wybodaeth i'w weld yma (dogfen Word).

Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: 8 Chwefror

Person cyswllt: Chris Henderson

 

Teitl y prosiect: Chwilio am Bartner Addysg a Chwaraeon

Prif bartner: Murcia, Sbaen

Maes polisi: Rhaglen Comenius

Disgrifiad: Mae ysgol IES La Flota yn Murcia yn chwilio am bartneriaid i gymryd rhan mewn prosiect o fewn fframwaith Rhaglen Comenius. Bwriad y prosiect yw i sefydlu dolenni rhwng ysgolion i gyfnewid profiadau. Yn ystod y prosiect, fe fydd disgyblion yn astudio tarddiad a datblygiad gemau traddodiadol yn y gwledydd sydd yn cymryd rhan. Mae rhagor o wybodaeth i'w weld yma (dogfen Word).

Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: dim wedi'i nodi

Person cyswllt: Enrique Munoz Llanes

 

Teitl y prosiect: Chwilio am Bartner Addysg

Prif bartner: Murcia, Sbaen

Maes polisi: Rhaglen Comenius

Disgrifiad: Mae Llywodraeth Rhanbarthol Murcia yn Sbaen yn chwilio am bartneriaid i gymryd rhan mewn prosiect o fewn Rhaglen Comenius. Bwriad y prosiect yw i ddatblygu gweithredoed i atal trais wedi'i seilio ar genhedloedd mewn ysgolion uwchradd. Mae rhagor o wybodaeth i'w weld yma (dogfen pdf).

Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: dim wed'i nodi

Person cyswllt: Nicolas Gonzalvez Gallego

 

Teitl y prosiect: Chwilio am Bartner Gefeillio

Prif bartner: Lure, Ffrainc

Maes polisi: Dinasyddiaeth

Disgrifiad: Mae dinas Lure yn Ffrainc yn chwilio am tref/dinas gefeillio yng Nghymru, Yr Alban neu Iwerddon (gyda lleiafrif o 2000) i sefydlu partneriaeth gefeillio. Y prif amcan yw i sefydlu ymweliadau yr ieuenctid rhwng y trefi/dinasoedd. Mae rhagor o wybodaeth i'w weld yma (dogfen Word).

Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: dim wedi'i nodi

Person cyswllt: Karine Guillerey

 

Teitl y prosiect: Chwilio am Bartner Cyfleoedd Cyfartal

Prif bartner: COGAMI, Galicia, Sbaen

Maes polisi: Rhaglen DAPHNE III

Disgrifiad: Mae Ffederasiwn Galicia ar gyfer Pobl gydag Anableddau yn chwilio am bartneriaid i gymryd rhan mewn prosiect o fewn fframwaith Raglen DAPHNE III. Bwriad y rhaglen yw i sicrhau fod yr heddlu yn derbyn y gwybodaeth a'r sgiliau cywir i ymateb mewn modd effeithiol a phriodol pan ddaw sefyllfa o drais yn erbyn menywod gydag anableddau. Mae rhagor o wybodaeth i'w weld yma (dogfen Word).

Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: Chwefror 2012

Person cyswllt: Charo Lema

 

Teitl y prosiect: MIntE - Ymfudiad ac Integreiddio yn Ninasoedd Gogledd Orllewin Ewrop

Prif bartner: Kaiserslautern, Yr Almaen

Maes polisi: Interreg IVB

Disgrifiad: Mae dinas Kaiserslautern yn chwilio am bartneriaid i gymryd rhan mewn prosiect o fewn fframwaith INTERREG IVB. Mae'r prosiect yn edrych ar ymfudo a sut i ddefnyddio sgiliau arbennig ymfudwyr ac entrepreneuriaeth ar gyfer tyfiant economaidd. Mae rhagor o wybodaeth i'w weld yma (dogfen pdf).

Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: dim wedi'i nodi

Person cyswllt: Gerhard Degen

 

Teitl y prosiect: Chwilio am Bartner Dinasoedd a Thyfiant Deallus

Prif bartner: Terni, Yr Eidal

Maes polisi: URBACT II

Disgrifiad: Mae Cyngor Dinas Terni yn chwilio am ddinasoedd ar gyfer prosiect o fewn fframwaith rhaglen URBACT II. Rhaid i'r dinasoedd fod yn rhai maint canolig, wedi'u lleoli mewn 'parthau cynhyrchu diwydiannol'. Fe fydd y prosiect yn edrych ar sut i greu 'syniadau ecosystem masnachol' er mwyn helpu dinasoedd i gydweithio, cynhyrchu mentrau rheoli newydd ar gyfer ardaloedd sydd wedi'u hadfywio'n gyhoeddus, a sut y gall hyn gyfrannu at dyfiant deallus. Mae rhagor o wybodaeth i'w weld yma (dogfen Word).

Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: dim wedi'i nodi

Person cyswllt: Marina Bruschini

 

Teitl y prosiect: 'Dysgu yw'r Nôd'

Prif bartner: Modena, Yr Eidal

Maes polisi: Rhaglen Dysgu Gydol Oes

Disgrifiad: Mae rhanbarth Modena yn chwilio am bartneriaid i weithio ar brosiect yn fframwaith Rhaglen Dysgu Gydol Oes. Bwriad y prosiect yw i ddatblygu methodolegau dysgu arloesol sydd yn defnyddio TGCh yn sectorau hyfforddi ac addysg oedolion. Mae rhagor o wybodaeth i'w weld yma (dogfen Word).

Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: 1 Mawrth

Person cyswllt: Irene Calzolari

Mae rhagor o wybodaeth gan: Iwan Williams