Mae chwaraeon a hamdden yn bwysig i bobl yng Nghymru. Drwy gymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol, mae pobl yn datblygu sgiliau a gallu technegol, yn rhyngweithio ag eraill ac yn mynegi eu hunigoliaeth.
Awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am ddarparu cymwysterau a gwasanaethau hamdden i’w cymunedau - o ganolfannau hamdden a neuaddau pentref, i barciau a lleoedd agored. Maent hefyd yn darparu ystod eang o weithgareddau cadw’n heini a chwaraeon i bobl o bob oed yn yr ardal leol.
Mae hyrwyddo a chynyddu gweithgarwch corfforol yn greiddiol i’r agenda iechyd ar hyn o bryd, ac mae awdurdodau lleol yn edrych yn barhaol am ffyrdd o gynyddu’r niferoedd sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgareddau cadw’n heini yn eu cymunedau er mwyn datblygu’n Gymru iachach.
Mae WLGA wedi cyfrannu at ddatblygiad Rhaglen Nofio am Ddim Llywodraeth Cynulliad Cymru, sy’n darparu mynediad am ddim i blant a phobl ifanc dan 16 a phobl dros 60 i’w pyllau nofio lleol. Mae WLGA yn gweithio yn agos gyda Phrif Swyddogion Hamdden yr awdurdodau lleol ac yn gweithio ar y cyd gyda Chyngor Chwaraeon Cymru i symud yr agenda hamdden ymlaen yng Nghymru.
Mae strategaeth Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer chwaraeon a chadw’n heini, Dringo’n Uwch, yn gosod nifer o dargedau allweddol i’w cyrraedd yn y maes polisi yma hyd 2023, a chyda’r Gemau Olympaidd yn dod i Lundain yn 2012, mae’n siwr y bydd gan weithgarwch corfforol rôl gynyddol i’w chwarae yn ein bywydau.
Mae rhagor o wybodaeth gan: Heledd Bebb
