Rhagoriaeth Cymru yw'r cynllun gwladol cyntaf o'i fath ar gyfer cynghorau Cymru, a bu ei noson wobrwyo gyntaf yng Nghaerdydd ar 3ydd Mawrth.
Gan gydnabod arferion da yn yr amryw wasanaethau mae'r cynghorau yn eu darparu, nod y cynllun yw gwobrwyo ac ysbrydoli fel ei gilydd ond, bwysiced fyth, lledaenu dysg a gwella gwasanaethau cyhoeddus yn y cynghorau i gyd. Trwy wella eu safonau ar y cyd, gall y cynghorau fynd i'r afael â chwynion y cyhoedd am 'lotri côd y post'.
Bydd y gwobrau'n rhoi hwb i galonnau'r bobl eraill sy'n ymwneud â'r maes. Bydd Cynllun Rhagoriaeth Cymru yn helpu i chwalu ystrydebau, herio hunanfoddhad ac annog gweithwyr a chynghorwyr i wella drwy'r amser. Yn anad dim, lledaenu arferion da a dysg yw hanfod y cynllun.
Sue Essex, Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus:
"Trwy Creu'r Cysylltiadau, mae Llywodraeth y Cynulliad yn hybu'r syniad o ddiwygio'r gwasanaethau cyhoeddus. Rydyn ni am ofalu bod gwasanaethau cyfun o'r radd flaenaf ar gael i gymunedau Cymru a bod y rhai sy'n darparu'r gwasanaethau hynny yn cadw'r costau i lawr trwy weithio a chaffael yn effeithlon. Mewn oes ac ynddi sawl newid, mae'n bwysig nad ydyn ni'n colli golwg ar yr hyn sydd eisoes yn dda. Mae digon o ansawdd ac arloesi yn ein gwasanaethau cyhoeddus, ac mae miloedd o weithwyr wedi ymroi i'w cynnal yn ôl y safonau uchaf. Mae gwir angen rhywbeth fel Cynllun Rhagoriaeth Cymru ar weision gwladol fel y gallan nhw ledaenu a dathlu eu harferion da. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn falch o gynorthwyo'r fenter yma."
Y Cyng. Derek Vaughan (Castell-nedd Porth Talbot), Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru:
"Mae byd llywodraeth leol yn cael ei feirniadu weithiau am nad yw'n gweithio cystal â'r sector preifat. Mae awdurdodau lleol Cymru yn darparu amrywiaeth o wasanaethau cymhleth ac ymestynnol megis gofalu am bobl fregus a chadw trefn ar iechyd yr amgylchedd. Er gwaethaf yr heriau rydyn ni'n eu hwynebu, mae llawer o arferion blaenllaw a gorchestion y dylai fyd llywodraeth leol fod yn falch ohonyn nhw. Hoffen ni i arferion blaenllaw un rhan o Gymru gael eu mabwysiadu gan weddill y wlad. Fy mhrofiad i yw bod y sefydliadau mwyaf llwyddiannus yn awyddus i ddysgu oddi wrth eraill, yn barod i arloesi ac yn gwella o du mewn. Mae dau nod i Gynllun Rhagoriaeth Cymru – hyrwyddo'r syniad o ddysgu oddi wrth gydweithwyr a chanmol arferion blaenllaw i wobrwyo ac annog y rhai sy'n arloesi. Trwy gydweithio, byddwn ni'n gwella gwasanaethau cyhoeddus Cymru ymhellach."
Mae rhagor o wybodaeth gan: Clover Rodrigues
