Rydych chi yma: Hafan / Amdanon ni / Maniffesto CLlLC ar gyfer Etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol (2011 - 2016) -Ymateb i’r Her / Cefnogi gofal ac annibyniaeth pobl sy’n Agored i niwed
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Cefnogi gofal ac annibyniaeth pobl sy’n Agored i niwed

Mae Llywodraeth Leol wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth newydd Cymru i gyflawni:

  • Dylanwad ar Lywodraeth y DU ar bolisi heb ei ddatganoli er mwyn sicrhau nad yw newidiadau’n ymwneud â gofal cymdeithasol a diwygio budd-daliadau ehangach yn tanseilio ein gallu i fodloni angen yng Nghymru
  • Cynllun gweithredu cydlynol wedi ei gostio ar y cyd i gefnogi awdurdodau lleol wrth iddynt ymateb i’r Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy yng Nghymru – Fframwaith Strategol ar gyfer Gweithredu
  • Cydweithredu effeithiol rhwng awdurdodau lleol ar gyfer comisiynu gofal cymdeithasol a darparu cymorth busnes
  • Aliniad rhwng y GIG, Gofal Cymdeithasol a gwasanaethau perthnasol llywodraeth leol yn seiliedig ar fframweithiau polisi sy’n ategu ei gilydd, systemau rheoli perfformiad a chyflwyno gwasanaethau integredig
  • Unrhyw estyniad o’r Tîm Integredig Cymorth i Deuluoedd i adlewyrchu’r dysgu o safleoedd arloesol ac yn amodol ar gyllid digonol
  • Buddsoddiad parhaus yn cefnogi gwelliant wedi ei ffocysu ac o ansawdd uchel a all barhau i adeiladu gallu mewn gwasanaethau cymdeithasol gan arwain at drawsnewid gwasanaethau yn radical ac yn gyflym
  • Cydnabyddiaeth lawn bod gan lywodraeth leol rôl greiddiol yn ymwneud ag iechyd y cyhoedd, yn arbennig defnyddio ein gwasanaethau i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau mewn iechyd, cyfleoedd bywyd a lles

Cefndir:

Mae’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn swyddogaeth statudol annatod ac arwyddocaol mewn cynghorau lleol. Mae'n ymateb i ryw 160,000 o bobl sydd wedi cael eu hasesu i fod yn gymwys ar gyfer gofal. I fod yn gymwys ar gyfer gofal, bydd pobl yn wynebu heriau dwys neu sylweddol i’w hannibyniaeth. Mae awdurdodau lleol yn gwneud mwy na darparu gofal a chymorth ffurfiol o ansawdd uchel; maent yn gweithio gyda phob rhan arall o wasanaethau’r cyngor i alluogi pobl i fyw bywydau mor annibynnol ag y gallant ac i gyfrannu’n llawn i gymdeithas.

Mae’r system ofal o dan bwysau cynyddol. Mae angen newid er mwyn moderneiddio hen wasanaethau, mae angen cael gwared ar fiwrocratiaeth, ac mae angen cymorth parhaus ar gynghorau i fynd ar drywydd dulliau cydweithredol o gomisiynu a darparu gwasanaethau. Mae angen gweithlu arnom sydd â’r sgiliau a’r hyder i addasu i amgylchiadau sy’n newid yn gyflym.

Mae llawer yn cael ei wneud i ategu system ofal sydd wedi ei lleoli’n lleol ac sy’n ymgysylltu â dinasyddion a chymunedau â systemau cydweithredol sy’n rheoli marchnadoedd a rhannu sgiliau ac arbenigedd prin yn well. Ym mhob rhan o Gymru, mae systemau cydweithredol yn cael eu sefydlu ar gyfer comisiynu gwasanaethau cymhleth gofal oedolion a phlant. Mae gwaith ar y gweill i rannu cymorth busnes arbenigol fel gwasanaethau cyfreithiol.

Mae’r llywodraeth bresennol yn San Steffan yn dechrau diwygio systemau budd-dal yn radical, a daw canlyniadau sylweddol yn sgil hyn o ran y ffordd y bydd unigolion, cymunedau a chynghorau yn cydweithio yn y dyfodol. Mae gan lywodraeth leol a Llywodraeth Cymru gyfrifoldeb i gydweithio er mwyn dylanwadu ar Lywodraeth y DU a datblygu polisïau yng Nghymru a all addasu i’r polisïau budd-dal a bennir ar gyfer y DU gyfan.

Er mwyn ymateb i anghenion pobl, rydym yn dibynnu’n helaeth ar ofalwyr di-dâl – gwirfoddolwyr, teulu ac ystod o ddarparwyr y sector gwirfoddol a’r sector preifat. Mae’n creu cymysgedd cymhleth o ddarpariaeth sy’n newid ac yn addasu’n barhaus. Awdurdodau Lleol sydd â’r cyfrifoldeb statudol i lunio a datblygu’r ddarpariaeth hon yn strategol gyda’u partneriaid yn y cyfnod heriol hwn o adnoddau prin. Bydd angen partneriaeth effeithiol rhwng llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru i wneud hyn.

Ym mis Chwefror 2011, rhoddodd Llywodraeth bresennol Cymru gyfeiriad clir iawn gyda newid cynyddol i atebolrwydd cynghorau i gyflwyno gwasanaethau cymdeithasol “cynaliadwy”. Mae llywodraeth leol yn croesawu’r cyfeiriad o ran polisi, ac mae wedi bod yn agos gysylltiedig â’i lunio. Bydd angen i ni bellach gydweithio i gytuno ar strategaethau gweithredu clir y gellir eu gweithredu’n gyflym. Caiff llawer ei gyflawni gan awdurdodau lleol sy’n rhesymoli eu prosesau eu hunain. Yn yr un modd bydd angen adnoddau newydd ar ymrwymiadau newydd. Er enghraifft, bydd angen darparu adnoddau ar gyfer y cynlluniau radical i ddarparu cymorth teuluol dwys i blant sy’n byw mewn teuluoedd sydd mewn perygl oherwydd dibyniaeth rhieni ar gamddefnyddio sylweddau.

Mae perfformiad mewn cynghorau wedi gwella flwyddyn ar ôl blwyddyn, ac mae pawb yn cydnabod hyn. Mae cymorth a gallu ymroddedig i wella yn chwarae rhan fach, ond pwysig, yn y llwyddiant hwn. Mae’n hanfodol bod cymorth ymroddedig i wella’n parhau a’i fod yn cael ei gyflwyno mewn ffyrdd effeithiol a hyblyg.

Fel yr holl wasanaethau gofal, bydd angen i ni sicrhau nad yw ymatebion i bwysau acíwt yn diddymu’r buddsoddiad angenrheidiol mewn ataliaeth a chymorth i fyw’n annibynnol. Bydd gweithio mewn partneriaeth â phartneriaid statudol allweddol, fel y GIG a’r system cyfiawnder troseddol, yn hanfodol. I’r perwyl hwn, mae angen arweinyddiaeth a rheoli perfformiad parhaus arnom gan Lywodraeth Cymru i alinio cyfraniadau partneriaid amrywiol.