Mae ansawdd arfordir a chefn gwlad Cymru yn un o'n hasedion pwysicaf. Mae rhan sylweddol o'r wlad wedi'i diogelu gan reoliadau tirweddol neu gadwriaethol. Mae'n bwysig diogelu'r arfordir a chefn gwlad i hybu twristiaeth, yr economi ac ansawdd bywydau pobl yn ogystal â chynnal yr amgylchedd dros y tymor hir.
Mae ar yr awdurdodau lleol a'r parciau cenedlaethol gyfrifoldebau statudol ac anstatudol ym maes gwarchodaeth natur, ac maen nhw'n cyflawni rôl bwysig ynglŷn â diogelu a gwella bioamrywiaeth. Mae'r cyfrifoldebau hynny'n rhan annatod o ddatblygu cynaladwy ac mae rhaid eu cynnwys yn y strategaethau cymunedol a'r cynlluniau datblygu lleol.
Mae'n amlwg, fodd bynnag, fod bioamrywiaeth yn ymwneud â mwy na chadwraeth natur. Mae'n ymwneud â holl bolisïau a gwasanaethau byd llywodraeth leol a'r parciau cenedlaethol. Dylai polisïau a gwasanaethau o'r fath adlewyrchu hynny a'r modd maen nhw'n effeithio ar yr amgylchedd a bioamrywiaeth. Mae Deddf yr Amgylchedd a Chymunedau Gwledig 2006 a'r ddwy gyfarwyddeb am gynefinoedd ac adar gwyllt yn dweud hynny'n eglur.
Mae'r awdurdodau lleol yn helpu i wella'r amgylchedd. Er enghraifft, maen nhw'n rheoli ardaloedd o brydferthwch naturiol eithriadol a gwarchodfeydd natur ac yn goruchwylio trefniadau trin a thrafod bioamrywiaeth yn eu bröydd. Mae'r awdurdodau'n helpu pawb i fwynhau cefn gwlad trwy gynnal parciau gwledig a rhwydwaith yr hawliau tramwy cyhoeddus, hefyd
Dogfen: Cynyddu'r Momentwm (Cymdeithas Ecolegwyr Llywodraeth Leol)
Disgrifiad: Yn esbonio agweddau unigol rôl pob awdurdod ym maes bioamrywiaeth
Mae rhagor o wybodaeth gan: Craig Mitchell


