Rydych chi yma: Hafan / Pynciau / Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol / Regulatory Services / Cyfarwyddwyr Diogelu'r Cyhoedd Cymru
 

Cyfarwyddwyr Diogelu'r Cyhoedd Cymru

DPPWCyfarwyddwyr Diogelu'r Cyhoedd Cymru (DPPW) yw cylch y swyddogion sy'n arwain gwasanaethau diogelu'r cyhoedd yn yr awdurdodau lleol. Dyma ddatganiad y cylch o'i ddiben:

'Diogelu lles personol, amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol trwy bolisïau, rheoleiddio ac addysg. Trwy'r dulliau hynny, rydyn ni am ofalu bod modd byw a gweithio'n ddiogel yn y cymunedau rydyn ni'n eu gwasanaethu.'

Mae gwasanaethau diogelu'r cyhoedd yn cynnwys pob agwedd ar drwyddedu, iechyd yr amgylchedd a safonau masnach. Mae gyda ni ddau gylch ar gyfer penaethiaid gwasanaethau – Penaethiaid Iechyd yr Amgylchedd Cymru a Phenaethiaid Safonau Masnach Cymru. Yn y ddau gylch, mae amryw baneli arbenigol a thechnegol a phwyllgorau dros agweddau cyffredinol megis hyfforddi, gorfodi a rheoli perfformiad. Mae cynrychiolwyr gyda ni mewn amrywiaeth eang o ffora, cylchoedd cynghori a phwyllgorau llywio, hefyd.


Mae rhagor o wybodaeth gan: Jane Shepherd