Mae Adnodd Cymorth Comisiynu Cymru ar gyfer Plant (CCSR) yn fenter mae Llywodraeth y Cynulliad, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA), Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (ADSS) ac Arolygiaeth Safonau Gofal Cymru (CSIW) yn ei chynnal ar y cyd efo’r Uned Data Llywodraeth Lleol Cymru.
Y prif nod yw rhoi gwybod i’r awdurdodau lleol am leoedd gwag I gartrefu plant ledled Cymru ac ardaloedd cyfagos i’w galluogi i bennu pa wasanaethau mae angen eu comisiynu ar gyfer plant o dan ofal.
Cam cyntaf CCSR oedd paratoi cronfa ddata ddiogel sy’n rhoi ar y we wybodaeth gyfoes am ddarparwyr, canolfannau gofal a lleoedd gwag yn y sectorau cyhoeddus, preifat a
gwirfoddol.
Cliciwch fan hyn am fwy o wybodaeth.


