Rydych chi yma: Hafan / Ein gwaith / Rhanbarthol / Casgliad y Cydweithio Rhanbarthol
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Casgliad y Cydweithio Rhanbarthol

 

Dyma linc â fersiwn newydd Casgliad Cydweithio WLGA sydd o dan ofal Uned Ddata Llywodraeth Leol Cymru bellach: Link

Click here welsh

Ers sefydlu byrddau partneriaethau rhanbarthol yn 2006, mae WLGA wedi casglu gwybodaeth am brosiectau a threfniadau cydweithio yng Nghymru.

Mae'r deunydd helaeth sydd ym mhob rhifyn o'r casgliad yn dystiolaeth eglur bod byd llywodraeth leol a'i bartneriaid wedi ymroi i foderneiddio a diwygio gwasanaethau cyhoeddus Cymru. Mae pob cofnodyn yn y casgliad yn rhoi crynodeb o'r prosiect neu'r rhaglen dan sylw, y partneriaid, y diben a'r ddolen gyswllt.

Mae'r casgliad yn adnodd mawr sy'n cael ei ddefnyddio'n aml erbyn hyn, ac rydyn ni wedi mireinio'r diwyg. Dim ond hyn o hyn o ddeunydd mae modd ei gynnwys mewn unrhyw ddogfen, fodd bynnag. Felly, gyda chymorth Uned Ddata Llywodraeth Leol Cymru, rydyn ni wedi datblygu'r casgliad rhagor fyth trwy ei droi'n wefan y gallwch chi ei chwilio yn ôl yr amryw wasanaethau neu feysydd a'r hyn sy'n digwydd ym mhob rhanbarth. Bydd y wefan ar waith o 1af Chwefror 2011 ac, wedi hynny, bydd fersiynau blaenorol y casgliad mewn archif yma

I ymholi am y sustem, ffoniwch 029 2090 9503 neu anfon neges at: enquiries@dataunitwales.gov.uk 

Yn olaf, i gael rhagor o wybodaeth am fyrddau rhanbarthol WLGA a manylion cysylltu â'r cydlynwyr rhanbarthol, cliciwch yma