Rydych chi yma: Hafan / Canolfan y Cyfryngau / Ymateb WLGA i ymchwil y BBC ynglŷn ag ymdopi â'r dirwasgiad.
 

Archwil archyf datganiadau cyflym




Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Ymateb WLGA i ymchwil y BBC ynglŷn ag ymdopi â'r dirwasgiad.

30 Ionawr 2012

Meddai llefarydd ar ran WLGA:

“Mae canfyddiadau'r ymchwil gomisiynodd y BBC yn tanlinellu pwysigrwydd statws 'Cydgyfeirio' i'r gorllewin a chymoedd y de o'i gymharu â statws 'Cystadleurwydd' i'r dwyrain ac ardaloedd eraill sydd wedi'u nodi'n rhai mwy cadarn.

Er bod y pennawd ‘cymuned’ yn awgrymu bod didoli yn ôl ardaloedd trefol a gwledig, mae 20% wedi'i ychwanegu ar gyfer 'amddifadedd' yn ôl meini prawf Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru sy'n mesur amddifadedd crynswth ac, o'r herwydd, yn tueddu i nodi amddifadedd yn y trefi yn hytrach nag yng nghefn gwlad. Mae Fforwm Gwledig WLGA wedi tynnu sylw at yr amddifadedd difrifol mewn rhai ardaloedd gwledig, hefyd. Os rhywbeth, gallai hynny atgyfnerthu'r canfyddiadau, o ystyried natur wledig llawer o'r gorllewin a'r gogledd.

O ran cymorth byd llywodraeth leol i gwmnïau bychain, mae'r cynghorau'n cynnig cymorth sylweddol i gwmnïau bychain a chanolig eu maint. Dyma adroddiad gyhoeddon ni ryw amser yn ôl am y pwnc: http://www.wlga.gov.uk/english/waste-improvement-programme/

Byddai gwaith WLGA ynglŷn â Fframwaith Datblygu Cynaladwy yn awgrymu bod mwy i gadernid na'r ffactorau sydd wedi'u hystyried yn yr adroddiad hwn. Er enghraifft, rydyn ni wedi edrych ar faterion megis diogelwch ynni/bwyd a'r newid hinsoddol – materion sy'n hanfodol i gadernid pob ardal dros y tymor hir. Mae'n dda nodi bod cyfleoedd ar gael i rannau o'r gogledd a'r gorllewin ynglŷn â chynhyrchu bwyd ac ynni yn lleol, yn ogystal â'r swyddi a'r cyfleoedd economaidd a ddeuai yn sgîl hynny, a gallai hynny eu helpu i feithrin cadernid yn y pen draw.”

Mae rhagor o wybodaeth gan: Lucy Sweet