31 Ionawr 2011
Mae'r Cyng. Chris Holley, Llefarydd WLGA dros Adfywio ac Ewrop wedi annog swyddogion Llywodraeth y DG a Chomisiwn Ewrop ac aelodau Senedd Ewrop i roi rhagor o hyblygrwydd ynglŷn â thrin a thrafod caffael a'r farchnad fewnol yn ystod y sefyllfa anodd sydd ohoni.
Gan siarad mewn cynhadledd roedd byd llywodraeth leol y DG wedi'i threfnu ym Mrwsel, meddai'r Cyng. Holley (Abertawe):
“Yn ystod y cyfnod anodd yma, bydd awdurdodau lleol yn asesu polisïau Undeb Ewrop yn ôl cost eu rhoi ar waith yn hytrach na'u hansawdd. Ar hyn o bryd, mae rheolau caffael a chystadlu Undeb Ewrop yn rhwystro byd llywodraeth leol rhag arbed costau trwy ragor o effeithlonrwydd a chydweithio, gan gynnwys mentrau pwysig mewn meysydd lle mae rhaid i awdurdodau lleol gyflawni cyfrifoldebau statudol. Mae angen egluro a symleiddio deddfau Undeb Ewrop ym maes caffael yn fater o frys, gan gynnwys ailasesu'r terfynau presennol a rhoi'r rheolau am gymorth gwladol o'r neilltu fel y caiff awdurdodau lleol gydweithio.
Rydyn ni'n croesawu'r ymgynghori ddechreuodd Comisiwn Ewrop ar 27ain Ionawr am reolau sydd i arbed costau a lleddfu beichiau gweinyddol ym maes caffael cyhoeddus. Byddwn ni'n annog y comisiwn i gydnabod na all byd llywodraeth leol barhau i gynnig gwasanaethau digonol i'w gymunedau yn ystod y sefyllfa economaidd bresennol heb fod yn rhydd rhag rheolau mor llym.”
Tra oedd ym Mrwsel, cwrddodd y Cyng. Holley â'r aelodau sy'n cynrychioli Cymru yn Senedd Ewrop fel y gallai roi iddyn nhw negeseuon allweddol byd llywodraeth leol am dynged rhaglenni ariannu Undeb Ewrop yng Nghymru ynghylch amaeth, datblygu gwledig, cronfeydd strwythurol ac ati. Soniodd am brif egwyddorion a blaenoriaethau cyllidebol yr undeb, hefyd.
Mae rhagor o wybodaeth gan: Natasha Weeks – 029 2046 8673 neu natasha.weeks@wlga.gov.uk
Nodiadau i olygyddion
Cynhadledd Llywodraeth Leol y DG ac Undeb Ewrop
• Cafodd y gynhadledd ei chynnal ym Mrwsel ddydd Mawrth 25ain Ionawr. Hanfod yr achlysur oedd trafodaeth anffurfiol i gynnal a chryfhau'r cysylltiadau oedd wedi'u sefydlu rhwng sefydliadau Undeb Ewrop a chyrff llywodraeth leol y DG yn ystod y ddwy gynhadledd flaenorol fis Tachwedd 2008 a mis Mehefin 2010.
• Y Cyng. Chris Holley, Arweinydd Dinas a Sir Abertawe a Llefarydd WLGA dros Faterion Ewrop ac Adfywio, gynrychiolodd fyd llywodraeth leol Cymru yno. Bu yno gynrychiolwyr cymdeithasau llywodraeth leol Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, hefyd.
• Cymerodd amryw bobl eraill ran yn y trafodaethau megis rhai o swyddogion Cyfarwyddiaeth Polisïau Rhanbarthol a Phrif Ysgrifenyddiaeth Undeb Ewrop, Cynrychiolwyr Parhaol y DG i Undeb Ewrop a thri aelod pwysig o Senedd Ewrop gan gynnwys Derek Vaughan AES, un o'r pedwar aelod sy'n cynrychioli Cymru yno.
Negeseuon allweddol
• Cyfleodd byd llywodraeth leol nifer o negeseuon allweddol megis yr angen i Undeb Ewrop roi rhagor o hyblygrwydd ynglŷn â rheolau caffael, sy'n rhwystro cyrff llywodraeth leol rhag gweithio'n fwy effeithlon ac arbed costau ar hyn o bryd. At hynny, rhaid i gamau ychwanegol at gydweithio fod tu allan i fframwaith rheolau cystadlu Undeb Ewrop i hwyluso arbedion priodol. Mae rhai o gynigion Comisiwn Ewrop ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod – megis rheolau am arbed ynni mewn adeiladau cyhoeddus – yn achosi pryder ymhlith awdurdodau lleol hefyd achos y byddan nhw'n arwain at gostau sylweddol nad oes digon o arian i'w talu ar hyn o bryd.
• O safbwynt Undeb Ewrop, y brif flaenoriaeth yw ymdopi â'r argyfwng yn sgîl dyledion nifer o wledydd, ceisio adfywio'r economi a chreu swyddi, a llunio'r fframwaith ariannol nesaf.
Proses ymgynghori Comisiwn Ewrop am gaffael
• Mae rhagor o wybodaeth am yr ymgynghori ddechreuodd Comisiwn Ewrop ar 27ain Ionawr ynglŷn â pholisïau caffael cyhoeddus ar:
http://ec.europa.eu/internal_market/publicprocurement/modernising_rules/consultations/index_en.htm
• Bydd WLGA yn cydlynu ymateb i'r ymgynghori dros y misoedd nesaf ac yn ei gyflwyno'n ffurfiol i'r comisiwn fis Ebrill.
Mae rhagor o wybodaeth gan: Lucy Sweet


