02 Chwefror 2011
Mae'r Cyng. Chris Holley (Abertawe), Llefarydd WLGA dros Ewrop ac Adfywio, wedi cwrdd â chynrychiolwyr o bob cwr o Ewrop i annog Undeb Ewrop i barhau â'i raglenni ariannu er lles rhai o gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru.
Gan gynrychioli byd llywodraeth leol Cymru yn y Pumed Fforwm am Faterion Cydlyniant ym Mrwsel, meddai'r Cyng. Holley:
“Mae'n hanfodol cynrychioli byd llywodraeth leol Cymru yn y fforwm yma fel y gallwn ni gyfleu ein pryderon a'n prif negeseuon. Mae llawer i'w bennu o hyd yn y trafodaethau am gyfeiriad Polisi Cydlyniant Undeb Ewrop yn y dyfodol, a bydd goblygiadau enfawr o ran dyrannu arian yr undeb ar ôl 2013. Mae'n hanfodol i gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru barhau i dderbyn cymorth digonol trwy Gronfa'r Datblygu Rhanbarthol ac mae'n bwysicach fyth bellach gan fod byd llywodraeth leol yn wynebu talcen caled iawn o ran arian. Dros y misoedd nesaf, byddwn ni'n parhau i gynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol Cymru ynglŷn â'r mater pwysig yma.”
Nodiadau i olygyddion
Pumed Fforwm am Faterion Cydlyniant
• Bu'r Pumed Fforwm am Faterion Cydlyniant yn achlysur gwleidyddol mawr ym Mrwsel rhwng 31ain Ionawr a 1af Chwefror 2011. Yn ystod y fforwm, daeth yr ymgynghori cyhoeddus am y Pumed Adroddiad ar Gydlyniant Economaidd, Cymdeithasol a Thiriogaethol i ben. Mae ymateb WLGA i'r ymgynghori ar ein gwefan: http://www.wlga.gov.uk/english/cohesion-and-regional-policy/
• Y Cyng. Chris Holley, Arweinydd Dinas a Sir Abertawe a Llefarydd WLGA dros Ewrop ac Adfywio gynrychiolodd, fyd llywodraeth leol Cymru yno.
• Mae rhagor o wybodaeth am y Pumed Fforwm am Faterion Cydlyniant ar: http://ec.europa.eu/regional_policy/conferences/5thcohesionforum/index_en.cfm
Mae rhagor o wybodaeth gan: Lucy Sweet


