Rydych chi yma: Hafan / Ein gwaith / Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol / Y Fframwaith Gwella Cydraddoldeb Cymru / Canllawiau hunanasesu i awdurdodau lleol yng Nghymru
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Canllawiau hunanasesu i awdurdodau lleol yng Nghymru

Mae'r canllawiau isod wedi'u llunio i helpu'r awdurdodau lleol i'w hasesu eu hunain a defnyddio Fframwaith Gwella Cydraddoldeb i gymathu materion cydraddoldeb ym mhrif ffrwd eu gwaith.

At hynny, mae modd defnyddio'r fframwaith ar gyfer:

  • cysylltu cydraddoldeb â pholisïau eraill megis cydlyniad cymdeithasol;
  • helpu swyddogion sy'n gyfrifol am gydlynu materion cydraddoldeb a gwella mewn awdurdodau lleol a hybu cydweithio yn yr awdurdodau lleol lle nad yw'r rolau hynny wedi'u cyfuno;
  • helpu cynghorwyr a rheolwyr gwasanaethau sydd am ymgorffori cydraddoldeb wrth lunio a chynnal gweithgareddau trefnu a gwella gwasanaethau yn ôl anghenion y dinasyddion.

Er cymorth i'r awdurdodau lleol, mae pecyn sy'n gallu eu cyfeirio wrth ddechrau'r broses hunanasesu. Ddylech chi ddim ei ddefnyddio'n rhestr wirio safonol ond, yn hytrach, i'ch tywys chi yn y broses trwy roi enghreifftiau o'r modd y gallai'r awdurdod symud yn ei flaen ynghylch defnyddio'r fframwaith a nodi a hwyluso deilliannau cydraddoldeb.

Mae rhagor o wybodaeth gan: Naomi Alleyne