Mae camddefnyddio cyffuriau'n broblem gymhleth sy'n effeithio ar bob cymuned yng Nghymru. Mae'r effeithiau'n rhai niweidiol a phellgyrhaeddol ar unigolion, eu teuluoedd a'u cymunedau. 'Gweithio Gyda'n Gilydd i Leihau Niwed' yw strategaeth Llywodraeth y Cynulliad i fynd i'r afael â phroblemau cyffuriau ac alcohol dros 10 mlynedd yng Nghymru.
Mae'r strategaeth yn amlinellu'r modd y bydd Llywodraeth y Cynulliad yn cadw trefn ar yr amryw gyffuriau sy'n cael eu camddefnyddio yng Nghymru, gan gynnwys:
- alcohol
- cyffuriau anghyfreithlon e.e. heröin, cocên, ecstasi, amffetaminau, LSD a chanabis
- moddion mae angen rhagnodyn i'w prynu e.e. steroidau anabolig a bensodiasepinau
- moddion sydd ar gael heb ragnodyn, megis y rhai mae codin ynddyn nhw
- pethau hylosg megis nwyon chwistrellau, biwtan, toddyddion a gludion
Mae pedwar agwedd i'r strategaeth:
- Atal niwed trwy helpu plant, pobl ifanc ac oedolion i wrthod cyffuriau neu ddefnyddio llai trwy roi gwybodaeth am yr effeithiau niweidiol ar eu hiechyd, eu teuluoedd a'r gymuned ehangach
- Helpu'r rhai sy'n gaeth i gyffuriau i wella eu hiechyd ac adsefydlu gan leddfu'r effeithiau niweidiol arnyn nhw eu hunain, ar eu teuluoedd ac ar eu cymunedau
- Helpu teuluoedd fel na fydd plant nac oedolion yn agored i niwed am fod rhywun yn y teulu'n camddefnyddio cyffuriau
- Cwtogi ar argaeledd a diogelu unigolion a chymunedau rhag niwed yn sgil troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol gan bobl sy'n camddefnyddio cyffuriau – a hynny trwy ofalu nad oes cyffuriau anghyfreithlon ar gael ac nad oes alcohol na sylweddau eraill ar gael yn amhriodol.
Y 22 bartneriaeth dros ddiogelwch cymunedol sy'n bennaf cyfrifol am roi'r strategaeth ar waith ym mhob bro trwy'r byrddau cynllunio sydd wedi'u sefydlu i helpu i drefnu a datblygu gwasanaethau rhanbarthol.
Gwifren gymorth cyffuriau ac alcohol: 0800 6 335588
DAN 24/7 yw gwifren gymorth Cymru ynglŷn â chyffuriau ac alcohol. Mae'r wifren ddwyieithog ar agor drwy'r amser ac mae modd ei ffonio'n rhad ac am ddim (er y gallai rhai rhwydweithiau ffôn poced godi tâl).
Mae'r wifren yn cynnig cymorth a chyngor i:
- pobl sy'n gaeth i gyffuriau a'r rhai allai ddechrau eu defnyddio
- teuluoedd, rhieni a chynhalwyr
- y rhai sy'n ymwneud â rhaglenni 'camu i mewn' ynglŷn â chyffuriau
- arbenigwyr ym maes camddefnyddio cyffuriau yng Nghymru a'r tu allan iddi
Mae rhagor o wybodaeth gan: Seth Newman


