Mae byd llywodraeth leol Cymru yn gwario dros £2.4 biliwn bob blwyddyn ar nwyddau, gwasanaethau a gwaith. Gall yr awdurdodau lleol ddefnyddio'r grym hwnnw i'w helpu i gyflawni eu nodau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol yn y gymuned ac arbed adnoddau trwy gydweithio â chyrff eraill a mabwysiadu arferion effeithiol.
Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi canolbwyntio ar y cyfleoedd a ddaw ar gael trwy drefniadau caffael strategol ar y cyd mewn nifer o bolisïau diweddar megis 'Creu'r Cysylltiadau', ei delfryd ar gyfer gwella gwasanaethau cyhoeddus Cymru, a 'Cyflawni ar draws Ffiniau: Trawsnewid y Gwasanaethau Cyhoeddus', ei hymateb i'r adroddiad arweiniodd Syr Jeremy Beecham ynghylch darparu gwasanaethau cyhoeddus.
Yn 'Creu'r Cysylltiadau', amlinellodd Llywodraeth y Cynulliad ei disgwyliadau y bydd y rhan fwyaf o'r arbedion effeithlonrwydd sydd i'w cyflawni erbyn 2010 yn dod trwy gaffael – sef prynu crynswth ymhlith y gwasanaethau cyhoeddus a gwella eu prosesau a'u harferion.
Mae'r awdurdodau lleol yn parhau i ragori ar eu gwaith blaenorol trwy ddatblygu polisïau, arferion a threfniadau cydweithio ymhellach i'w helpu i gyflawni eu hamcanion strategol a gweithredol er lles eu cymunedau. Mae WLGA yn helpu i ddatblygu a rheoli Partneriaeth Caffael y Gogledd ac ehangu Consortiwm Prynu Cymru fel y gall awdurdodau lleol y wlad arbed rhagor trwy gydweithio’n agosach ym maes caffael.
