Mae sector cyhoeddus Cymru yn gwario dros £4.5 biliwn bob blwyddyn ar nwyddau, gwasanaethau a phrosiectau.

Gall yr awdurdodau lleol ddefnyddio'r grym hwnnw i'w helpu i gyflawni eu nodau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol yn y gymuned ac arbed adnoddau trwy gydweithio â chyrff eraill a mabwysiadu arferion effeithiol.
Mae trefniadau caffael cydweithredol byd llywodraeth leol Cymru wedi'u gwella trwy ehangu Consortiwm Prynu Cymru a datblygu Partneriaeth Caffael y Gogledd fel y bydd gwell cyfleoedd i gydweithio er lles pob un o'r awdurdodau lleol.
Bydd byd llywodraeth leol yn parhau i ychwanegu at yr hyn mae wedi'i gyflawni trwy fireinio polisïau, arferion a threfniadau cydweithio ym maes caffael i helpu i gyflawni amcanion strategol a gweithredol er lles ei gymunedau.
Mae rhagor o wybodaeth gan: Paul Charkiw


