Rydych chi yma: Hafan / Ein gwaith / Carfan Dysgu Gydol Oes, Hamdden a Gwybodaeth WLGA / Bwyd mewn Ysgolion
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Bwyd mewn Ysgolion

Mae mwy a mwy o dystiolaeth bod plant a phobl ifainc yn elwa ar fwyd maethlon o ran iechyd ac addysg fel ei gilydd. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei strategaeth ynglŷn â maetheg yn yr ysgolion, 'Blas am Oes', yn ddiweddar. Bu cynrychiolwyr WLGA a byd llywodraeth leol yn y gweithgor lywiodd y strategaeth.

Cydlynydd bwyd yn yr ysgolion

Mae WLGA wedi penodi cydlynydd bwyd yn yr ysgolion ar y cyd â Llywodraeth Cymru. Bydd y cydlynydd yn helpu'r awdurdodau lleol i roi'r strategaeth ar waith ac yn gweithredu'n ddolen gyswllt ar gyfer cyflwyno safonau maethol newydd. At hynny, bydd yn goruchwylio gwaith llunio cronfa ddata wladol am faetheg i'r ysgolion a'r awdurdodau lleol. Diben y gronfa fydd galluogi'r arlwywyr i baratoi bwyd yn yr ysgolion yn ôl y safonau newydd, yn ogystal â chynnig ryseitiau a syniadau am drefnu prydau. 

Cynllun Gweithredu Blas am Oes: Cliciwch yma

Mae rhagor o wybodaeth gan: Kerry Robinson