Byddwn ni'n anfon bwletin trwy ebost at gydlynwyr yr awdurdodau lleol bob mis i roi'r diweddaraf am ddatblygiadau, polisïau, adroddiadau, ymgynghori, achlysuron ac ati ym maes pobl hŷn a heneiddio yng Nghymru a thu hwnt.
Mae croeso i'r rhai sy'n ymwneud â pholisïau a gorchwylion y maes ac unrhyw un arall sydd â diddordeb ynddo danysgrifio i'r bwletin ar y wefan hon.
I gyflwyno gwybodaeth am achlysuron neu weithgareddau ynghylch pobl hŷn a heneiddio yn eich ardal i'w chynnwys yn y bwletin, cysylltwch â David Warren: 029 2046 8611 neu david.warren@wlga.gov.uk
