Rydych chi yma: Hafan / Ein gwaith / Gwella a llywodraethu / Cynorthwyo a datblygu cynghorwyr / Breinlen Datblygu Cynghorwyr
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Breinlen Datblygu Cynghorwyr

Mae Breinlen Cynorthwyo a Datblygu Cynghorwyr Cymru wedi'i llunio i roi trefn ac ysgogiad i'r nifer cynyddol o wasanaethau cymorth i gynghorwyr byd llywodraeth leol Cymru.

Mae'r gwasanaethau hynny ar ffurf:

  • datblygu rhinweddau, medrau a gwybodaeth; 
  • cyfleusterau cymorth; 
  • gwasanaethau cymorth.

Mae'r Freinlen yn rhoi fframwaith eang lleol ar gyfer cynllunio, hunanasesu, gweithredu ac adolygu, a bydd yn annog awdurdodau i rwydweithio, cymharu gwaith ei gilydd a lledaenu arferion da ac arloesol.

Cafodd y Freinlen ei chyflwyno'n ffurfiol yn ystod cynhadledd WLGA fis Hydref 2005. Ers hynny, mae pob awdurdod yn gallu ymrwymo i'w hegwyddorion trwy lofnodi datganiad o'i fwriad i ymgeisio amdani a gweithio yn ôl ei meini prawf ymestynnol.

Rydyn ni wrthi'n mireinio'r Freinlen Uwch yn sgîl y newidiadau sy'n deillio o Fesur Llywodraeth Leol Cymru ynglŷn â chynorthwyo a datblygu cynghorwyr.

Dyma'r awdurdodau sydd wedi bodloni meini prawf y Freinlen:

2007

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili 
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf 
  • Cyngor Bro Morgannwg 

2008

  • Cyngor Sir y Fflint 
  • Awdurdod Tân ac Achub y Canolbarth a'r Gorllewin 
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

2009

  • Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog 
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy 
  • Cyngor Sir Ddinbych 
  • Cyngor Gwynedd 
  • Awdurdod Tan y Gogledd 
  • Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri 

2010

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr 
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful 
  • Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro 
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf - Lefel Uwch 
  • Gwasanaeth Tan ac Achub De Cymru 

2011 

  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
  • Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog - Lefel Uwch 
  • Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili (wedi'i hadnewyddu)
  • Cyngor Sir y Fflint (wedi'i hadnewyddu)
  • Cyngor Sir Powys

 

Mae rhagor o wybodaeth gan: Sarah Titcombe