Rydych chi yma: Hafan / Pynciau / Dysgu gydol oes materion diwylliannol a / Ysgolion / Brecwast yn yr ysgolion
 

Brecwast yn yr ysgolion

Cyn etholiad y Cynulliad yn 2001, addawodd Plaid Llafur Cymru y byddai'n cyflwyno rhaglen i roi brecwast yn rhad ac am ddim i ddisgyblion cynradd Cymru i gyd.

Dechreuodd y fenter arbrofol fis Medi 2004 yn rhai o'r bröydd sy'n ymwneud â Rhaglen 'Cymunedau'n Gyntaf'.

Gofynnodd WLGA i'r National Foundation for Educational Research (NFER) gynnal ymchwil am effaith yr arbrawf.  Mae trafodaethau wedi'u cynnal gyda swyddogion Llywodraeth y Cynulliad i ystyried eu gwerthusiad o'r prosiect ac ymchwil yr NFER.  Yn ôl y canfyddiadau cyntaf, mae nifer rhesymol o blant yn manteisio ar y cynnig.  Er nad oes modd gwerthuso'r effaith ar blant yn llwyr eto, mae'n ymddangos bod plant na fydden nhw wedi bwyta brecwast fel arall wedi elwa ar y cynllun, gan ddysgu a chanolbwyntio'n well o ganlyniad.

Mae rhagor o wybodaeth gan: Daisy Seabourne