Rydych chi yma: Hafan / Pynciau / Cyflogaeth / Cynhadledd Medrau 2008 / Braslun o'r Siaradwyr
 

Braslun o'r Siaradwyr

Neil Wooding
Cyfarwyddwr, Rheoli yng Ngwasanaeth Cyhoeddus Cymru

Mae Neil wedi treulio'r rhan fwyaf o'i yrfa yn gweithio gyda mudiadau dros y DU i hybu cydraddoldeb a hawliau dynol. Fe oedd yr ymgynghorydd cydraddoldeb cyntaf i'w benodi yng Nghymru ac yn ystod ei yrfa fe lwyddodd i sefydlu Canolfan Cydraddoldeb a Hawliau Dynol y GIG. Ar hyn o bryd, ef yw yn Comisiynydd Cymru Y Ganolfan Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, Cyd-Gadeirydd Stonewall Cymru, Ymddiriedolwr yr Ymddiriedolaeth Aids Genedlaethol ac yn Gyfarwyddwr anweithredol Cyngor Cydraddoldeb Hiliol y De-ddwyrain. 

Ef yw cyfarwyddwr Rheoli yng Ngwasanaeth Cyhoeddus Cymru, mudiad a sefydlwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a mudiadau gwasanaeth cyhoeddus gyda'r bwriad o gynnig arweiniad a datblygu sgiliau rheolwyr. Mae Neil yn Gymrawd y National Centre for Public Policy ac yn awdurdod uchel ei barch ar faterion sy'n ymdrin â hawliau cydraddoldeb a dynol. Mae yn byw gyda’i bartner yn y de-ddwyrai ac yn rhiant dau o blant.

Steve Thomas
Prif Weithredwr, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Prif Weithredwr WLGA yw Steve Thomas er mis Mawrth 2004. Ac yntau wedi ymuno ag WLGA yn Bennaeth Polisïau Strategol fis Hydref 2000, mae Steve wedi gweithio ym myd llywodraeth leol er 1989. Dechreuodd ym maes datblygu'r economi ond, yn y 1990au cynnar, fe ysgwyddodd gyfrifoldeb am arwain proses ad-drefnu Cyngor Dosbarth Islwyn hyd at sefydlu Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ym 1996. Pennaeth Polisïau, Materion y Gwerth Gorau a Gwasanaethau Canolog fu Steve yng Nghaerffili, gan reoli amryw swyddogaethau megis y strategaeth gorfforaethol, gwasanaethau democrataidd, etholiadau a Rhaglen Gwella Cymru.

Ar hyn o bryd, mae'n Gydysgrifennydd i Gyngor Partneriaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yn ogystal â bod yn aelod o amryw gyrff gwladol gan gynnwys Fforwm Cymru Gydnerth, y Fforwm Ymgynghorol dros Gyllid, Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a Chyngor Ymddiriedolaeth Tywysog Cymru. Ysgrifennydd y Cwmni ar Fwrdd Uned Ddata Llywodraeth Leol Cymru yw e, hefyd, a chadeirydd byrddau newydd fframweithiau gwladol y gwasanaethau i blant a phobl hŷn. Mae gan Steve radd ddosbarth cyntaf yn Hanes a Gwleidyddiaeth a gradd meistr ym mhwnc Rheoli Cyhoeddus, ac mae'n barod bob amser i dderbyn tocynnau ar gyfer gêmau rygbi Cymru!!

Grenville Jackson
Pennaeth Sgiliau, Busns a Chyflogadwyedd
Yr Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Llywodraeth Cynulliad Cymru

Dechreuodd Grenville ar ei yrfa yng Nghymru gyda Bwrdd Datblygu Cymru Wledig yn y Drenewydd yn 1977 fel economegydd/ rheolwr prosiectau a daeth yn Rheolwr Marchnata yn 1984. Tan 1997 roedd yn gyfrifol am godi ffatrïoedd, buddsoddiad mewnol, cefnogi a chyllido busnes, hyfforddiant, twristiaeth a datblygu a marchnata cymunedol. Cyflwynodd y fenter bwyd-amaeth yn y Canolbarth.

Yn 1997 gweithiodd Gren ar gyfuno Awdurdod Datblygu Cymru (WDA), Bwrdd Datblygu Cymru Wledig ac Awdurdod Tir Cymru. Wedyn bu’n Gyfarwyddwr Strategaeth a Pholisi’r WDA cyn cael ei benodi’n Brif Weithredwr TEC Canolbarth Cymru yng ngwanwyn 1999. Pan grëwyd ELWA yn 2001 daeth yn Gyfarwyddwr Strategaeth a Pholisi ac yna cafodd gyfrifoldeb am ddatblygu dysgu a chyfathrebu a sgiliau.

Oddi ar 1 Ebrill 2006 mae Gren wedi bod yn arwain Is-adran newydd ‘Sgiliau, Busnes a Chyflogadwyedd’ Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae hyn yn cynnwys bod yn gyfrifol am ddatblygiadau sector a Chynghorau Sgiliau Sector, cymorth uniongyrchol i gyflogwyr, a datblygu arweinyddiaeth a rheolaeth a chymorth hyfforddiant.

Lynette Harris
Athro Rheoli Adnoddau Dynol ac Ymarfer Proffesiynol yn Ysgol Busnes y Tŷ Ogofog

Athro Rheoli Adnoddau Dynol ac Ymarfer Proffesiynol yn Ysgol Busnes y Tŷ Ogofog yw Lynette. Cyn ymuno â'r brifysgol, bu'n gyfarwyddwr personél ym myd llywodraeth leol ac mae ganddi 14 blynedd o brofiad ym maes personél yn y sectorau cyhoeddus a phreifat fel ei gilydd.

Mae Lynette yn cynnal ymchwil ac yn rhoi cyngor ynghylch materion cyfoes adnoddau dynol ac mae'n un o awduron adroddiad a gyhoeddodd CIPD yn ddiweddar am reoli doniau. Mae'n llunio darnau ar gyfer nifer o gylchgronau arbenigol ac academaidd, a golygodd ar y cyd destun gan ôl-raddedigion o'r enw ‘The Strategic Managing of Human Resources’ a gyhoeddodd Pearson Education. O ran ei gweithgareddau proffesiynol, Cadeirydd Rheoli Ansawdd Sefydliad Breiniol Personél a Datblygu yw hi, ac mae'n ceisio cymryd rhan flaengar yng ngwaith y sefydliad hwnnw er mwyn cryfhau'r cysylltiadau rhwng ymarferwyr ac ysgolheigion. Mae Lynette yn gymrodeddwr/cymodwr i ACAS er 1987 a Dirprwy Gadeirydd Pwyllgor Cymrodeddu Canolog y DG yw hi.

Dr Pat Oakley
Cyfarwyddwr Practices Made Perfect Cyf.
Cymrawd Dysgu ac Ymchwil ac Arholwr Seicoleg Trefniadaeth a Rheoli Adnoddau Dynol, Colegau Birkbeck a Kings, Prifysgol Llundain.

  • Tiwtor Blaen, Asiantaeth Genedlaethol Arwain ac Arloesi mewn Gofal Iechyd GIG Cymru. 
  • Cyn Gyfarwyddwraig Anweithredol Bwrdd Cenedlaethol Lloegr. 
  • Cyn Ymgynghorydd Arbennig i Bwyllgor Dethol Iechyd Tŷ’r Cyffredin. 
  • Cyn Ymgynghorydd Arbennig i Grŵp Cynllunio Gweithlu Integredig Gweithrediaeth yr Alban. 
  • Cyn Lywydd Cymdeithas Rheolwyr Adnoddau Dynol Gofal Iechyd.

Mae Dr Patricia Oakley yn arbenigo mewn datblygiad Trefniadaeth a Rheolaeth ac yn adeiladwr modelau a chynllunydd gweithlu technegol; ymhlith ei meysydd gwaith presennol mae:

  • Cefnogi uwch dimau rheoli wrth iddynt ddatblygu eu strategaethau gwasanaeth a’u cynlluniau rheoli, e.e. yn y GIG, y Gwasanaeth Carchardai a Chyrff Proffesiynol.
  • Cyflawni rhaglen lwyddiannus o Ddosbarthau Meistr Polisi fel rhan o raglenni datblygu lleol ledled y DG. 
  • Adeiladu gyda chydweithwyr arbenigol fodelau cynllunio gweithlu pwrpasol a pharatoi polisïau gweithlu a chynlluniau buddsoddi strategol i uwch dimau rheoli a llunwyr polisi cenedlaethol. 
  • Ymchwilio i weithrediad polisïau llywodraeth cymhleth e.e. mewn Gwasanaethau Atal Iechyd Meddwl Plant. 
  • Datblygu polisïau cenedlaethol seiliedig ar ymchwil, e.e. wrth asesu effaith bosibl mentrau masnachol (busnesau lluoswladol a bach) ar gyflawni gwasanaethau cyhoeddus.

Mae gan Dr Oakley bron i 30 mlynedd o brofiad o iechyd a gwasanaethau cyhoeddus mewn meysydd gweithredol ac ymchwil polisi. Mae wedi gweithio’n helaeth gyda byrddau a chyfarwyddwyr gweithredol ac uwch glinigwyr, a chyda rheolwyr gwasanaethau ac ymarferwyr clinigol, wrth ddatblygu eu hymagweddau rheoli strategol ar gyfer cyflawni gwasanaethau clinigol ac arbenigol. Mae wedi gweithio ym meysydd datblygu rheolaeth a sefydliadol; ailstrwythuro sefydliadau a systemau gofal clinigol; cynllunio a chyflawni adolygiadau sgiliau cymysg ac ailwampio rhaglenni; cynnal archwiliadau gwerth am arian a rheoli rhaglenni newid dilynol; cynllunio a gweithredu cynlluniau tâl a chydnabyddiaeth wedi’u prisio’n llawn; paratoi cynlluniau buddsoddi gweithlu ac addysg a hyfforddiant strategol; a datblygu ymagweddau pragmatig at reoli perfformiad gwael meddygon.

Mae hefyd wedi gweithio gydag uwch staff Awdurdodau Iechyd Strategol ac Awdurdodau Lleol a Phractisiau Meddygon Teulu i ddatblygu eu strwythurau sgiliau, gwybodaeth a phrosesau i wneud i gynlluniau prynu a chomisiynu rhaglenni weithio yn ymarferol. Yn fwy diweddar mae’n ymwneud â datblygu rhwydweithiau clinigol o fewn a rhwng Ymddiriedolaethau.