Mae'r Undeb Ewropeaidd yn datblygu drwy'r amser. Mae sawl her benodol dros yr ychydig flynyddoedd nesaf a fydd yn berthnasol iawn i'r awdurdodau lleol, gan gynnwys yr aelodau newydd a'r newidiadau parthed cydlyniad ac amaeth. O ganlyniad, bydd Swyddfa Ewropeaidd WLGA yn canolbwyntio ar y meysydd isod:
- Polisïau cydlyniad a rhanbarthau
- Cystadleuaeth a Chymorth Gwladwriaethol
- Y farchnad fewnol - gan gynnwys caffael cyhoeddus a gwasanaethau cyhoeddus
- Datblygu gwledig ac amaeth - gan gynnwys y Polisi Amaeth Cyffredinol a physgodfeydd
- Cydweithio rhwng y rhanbarthau – gan gynnwys Interreg
- Trafnidiaeth – gan gynnwys y rhwydweithiau traws Ewrop
- Yr amgylchedd – gan gynnwys gwastraff
- Iechyd, materion cymdeithasol a chyflogaeth
Mae rhagor o wybodaeth gan: Simon Pascoe
