Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn cynrychioli buddiannau byd llywodraeth leol a'i haelodau cyswllt ynghylch rhoi Strategaeth Pobl Hŷn Cymru ar waith a materion eraill sy'n effeithio ar bobl hŷn. Prif ddibenion WLGA yw hyrwyddo safonau ac enw da byd llywodraeth leol a helpu'r awdurdodau i lunio polisïau a blaenoriaethau fydd yn gwella gwasanaethau cyhoeddus a democratiaeth leol. Mae'r dibenion hynny'n cyd-fynd â dyheadau Llywodraeth Well i Bobl Hŷn (BGOP) sef y dylid ymgysylltu â phobl hŷn yn ddinasyddion wrth lunio polisïau a gwasanaethau sy'n gweddu i'w hanghenion.
Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) yn rhoi cymorth uniongyrchol i fyd llywodraeth leol.


