Rydych chi yma: Hafan / Ein gwaith / Adnoddau / E-lywodraethu yng Nghymru / Band euang Cymru Gwledig
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Band euang Cymru Gwledig

Mae cydnabyddiaeth bellach fod isadeiledd band eang yn hanfodol o ran galluogi cymunedau i ddatblygu'n gymdeithasol ac yn economaidd. Diben Rhaglen Band Eang Cymru a Phrosiect Cyfuno Band Eang y Sector Cyhoeddus yw helpu i wella ac ehangu gwasanaethau cyhoeddus.

Mae'r datblygiadau technegol a'r rhaglenni isadeiledd gyhoeddodd y cwmnïau cyfathrebu pwysicaf yn ddiweddar yn adlewyrchu eu bwriad i wella cyfleusterau a gwasanaethau band eang drwy'r amser. Maen nhw'n cyflwyno'r rheiny yn ymateb i alw trigolion a chwmnïau trefi Cymru.

Mae mwy a mwy o bryderon, fodd bynnag, nad oes isadeiledd a chyfleusterau band eang cyfoes ar gael i gymunedau cefn gwlad ac y gallai'r diffyg hwnnw amharu ar eu lles cymdeithasol ac economaidd.

O ganlyniad i drafodaethau yn Fforwm Gwledig WLGA, rydyn ni wedi paratoi adroddiad o'r enw 'Band Eang yng Nghymru Wledig' i ddangos yr effeithiau ar gymunedau nad oes gwasanaethau band eang cyfoes ar gael iddyn nhw yng nghefn gwlad.

Gan fod Llywodraeth San Steffan wrthi'n paratoi cynllun gweithredu ar gyfer hwyluso cyfleusterau digidol yn y Deyrnas Gyfunol, mae'r adroddiad hwn yn arbennig o berthnasol o ran sbarduno rhagor o drafodaethau am bolisïau ac arferion i sefydlu rhwydwaith fydd yn gallu diwallu anghenion dinasyddion, cwmnïau a chymunedau Cymru.

Mae rhagor o wybodaeth gan: Paul Charkiw

Cyhoeddiadau perthynol