Rydych chi yma: Hafan / Ein gwaith / Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol / Rhwydweithiau Cydraddoldeb / Cydraddoldeb: Dysgu oddi wrth ein gilydd
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Cydraddoldeb: Dysgu oddi wrth ein gilydd

Canolfannau chwaraeon Blaenau Gwent: Astudiaeth am effeithiau ar gydraddoldeb

Fis Mawrth 2011, bu astudiaeth am effeithiau ar gydraddoldeb yng nghanolfannau chwaraeon Blaenau Gwent. I weld yr adroddiad ddeilliodd o’r astudiaeth, cliciwch yma Yn ogystal â rhoi adborth am broses ymgynghori gyhoeddus, gan gynnwys nifer o argymhellion, mae’r adroddiad yn cyflwyno data meintiol/ansoddol ac amryw hanesion i drafod materion cydraddoldeb ymhlith pobl sy’n defnyddio canolfannau chwaraeon Blaenau Gwent a phobl nad ydyn nhw’n eu defnyddio.

Mae rhagor o wybodaeth gan Alan Burkitt, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent: alan.burkitt@blaenau-gwent.gov.uk / 01495 355108

Cyngor Caerdydd: Rhwydwaith o wirfoddolwyr

Mae Cyngor Caerdydd wedi cyflwyno rhwydwaith o wirfoddolwyr fydd yn hyrwyddo cydraddoldeb yn yr awdurdod lleol fel y bydd yn enghraifft i’w hefelychu ledled y wlad o ran arferion gorau’r maes. Mae pobl o sawl gwasanaeth a chefndir yn ymwneud â’r rhwydwaith, a gallan nhw ymgymryd ag amryw weithgareddau. Ymhlith y manteision sy’n deillio o’r gwaith mae boddhad personol a chyfle i effeithio ar eich gweithle er gwell, rhwydweithio, cwrdd â staff gwasanaethau eraill, ychwanegu at eich gwybodaeth a derbyn hyfforddiant allai fod o gymorth yn eich gyrfa. Mae’r rhwydwaith wedi cyflawni nifer o bethau hyd yma gan gynnwys helpu i gyflwyno cynllun ymaelodi mwy cynhwysol yng Ngwasanaeth y Llyfrgelloedd, addasu tai bach cyhoeddus fel y byddan nhw’n fwy hygyrch ac asesu effeithiau polisïau ar gydraddoldeb i ofalu y bydd chwarae teg i bawb.

Mae rhagor o wybodaeth gan Shaun Evans-Pask yng Nghyngor Caerdydd: shevans@cardiff.gov.uk neu 029 2087 2707. 

Mae hwn yn fideo sydd angen JavaScript er mwyn ei lwytho. Fe fydd angen y fersiwn diweddaraf o Chwaraewr Adobe Flash hefyd i chwarae'r fideo - fersiwn 9.0.115 neu'n uwch.