Rydych chi yma: Hafan / Pynciau / Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol / Cymunedau Newydd / Astudiaethau achos
 

Astudiaethau achos

Enghreifftiau o brosiectau i’r rhai sydd newydd gyrraedd Cymru

Diben astudio achosion o weithwyr ymfudol yn ardaloedd yr awdurdodau lleol yw:

  • Lledaenu gwybodaeth ac arbenigedd ymhlith swyddogion a staff yr awdurdodau lleol am faterion allweddol datblygu prosiectau i weithwyr ymfudol.
  • Tynnu sylw at elfennau cadarnhaol a negyddol fel ei gilydd sydd wedi deillio o brosiectau o'r fath.
  • Annog pobl i drafod syniadau a gwybodaeth fel y bydd modd datblygu prosiectau'n well yn y maes yma.
  • Codi ymwybyddiaeth o'r gwaith mae'r rhai sy'n llunio polisïau wrthi'n ei wneud i gyfeirio blaenoriaethau ynghylch cynllunio strategol, asesu anghenion ac ariannu.

Dosbarthu

Byddwn ni'n atodi'r astudiaethau i fwletin WLGA am faterion ymfudo, sydd i'w anfon i'r cyrff canlynol:

  • 22 awdurdod lleol Cymru
  • LGA a COSLA
  • Byrddau iechyd lleol
  • Heddluoedd
  • Mudiadau gwirfoddol cenedlaethol a lleol
  • Asiantaeth Ffiniau'r DG
  • Llywodraeth y Cynulliad
  • Cynghorau cydraddoldeb hiliol
  • Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
  • Undebau llafur

Mae rhagor o wybodaeth gan: