
Cafodd Asiantaeth Gwella'r Gwasanaethau Cymdeithasol (SSIA) ei chyflwyno'n swyddogol yn ystod Cynhadledd y Gwasanaethau Cymdeithasol fis Mawrth 2006.
Cafodd ei sefydlu i helpu pob awdurdod lleol i gynyddu cyflymder y gwella a hybu rhagoriaeth yn y gwasanaethau cymdeithasol. Swyddfa Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA), yw canolfan yr Asiantaeth. WLGA, ADSS Cymru a Llywodraeth y Cynulliad sy'n cynnal y fenter ar y cyd. Mae gan yr Asiantaeth garfan ganolog yng Nghaerdydd a nifer o gydlynwyr rhanbarthol sy'n ymwneud â gwella'r gwasanaethau cymdeithasol ledled y wlad.
Mae Cynllun Busnes SSIA 2011-12 yn ychwanegu at ein hanes ni o helpu i newid y gwasanaethau cymdeithasol er gwell dros y 4 blynedd diwethaf. Mae ynddo raglen waith bellgyrhaeddol sydd wedi'i seilio ar 4 thema allweddol:
- Trawsffurfio gwasanaethau
- Diogelu
- Datblygu gallu
- Ymgysylltu â dinasyddion a gwasanaethau ar gyfer dinasyddion
Mae pob thema'n cynnwys amryw ffrydiau gwaith sydd i'w cynnal ar y cyd i newid y modd mae gwasanaethau'n cael eu trefnu, eu comisiynu a'u cynnig ledled y wlad.
Mae modd gweld y cynllun a rhagor o wybodaeth am bob un o'r ffrydiau gwaith yma
Mae rhagor o wybodaeth ar ein gwefan www.ssiacymru.org.uk a gyda Rheolwr Gwybodaeth SSIA, Andrew Bell: 029 2046 8682 neu andrew.bell@wlga.gov.uk


