Mae'r cynghorau'n gwneud mwy na rhoi gwasanaethau pob dydd yn unig. Yn ôl Deddf 'Llywodraeth Leol' 2000, mae pob cyngor yn cael arwain, ysgogi a helpu'r cyrff sy'n bartneriaid iddo fel y byddan nhw'n anelu at yr un nodau i ddiwallu anghenion a gwireddu dyheadau'r trigolion. Yn rhinwedd ei statws yn gorff democrataidd sy'n atebol i'r cyhoedd a chanddo bwerau, dylanwad a swyddogaethau eang, mae'r cyngor yn hanfodol i dynged y fro a bywydau'r trigolion.
Ystyr arwain y gymuned i'r cyngor yw diffinio delfryd ar ei chyfer a gweithio ar y cyd â nifer o bartneriaid yn y sectorau gwladol, gwirfoddol, cymunedol a phreifat i wireddu'r delfryd hwnnw. Mae modd gwneud hynny trwy:
- cynnal partneriaethau;
- cytuno ar strategaethau;
- cydweithio;
- rhannu adnoddau;
- neilltuo adnoddau yn ôl blaenoriaethau.
Mae rôl bwysig i'r cynghorau ynglŷn â datblygu byrddau gwasanaethau lleol. Mae'r byrddau hynny'n dod ag arweinyddion a phrif weithredwyr y prif gyrff sy'n cynnig gwasanaethau ym mhob sector at ei gilydd i ddatrys y problemau pwysicaf. Cytundebau gwasanaethau lleol sy'n atgyfnerthu'r trefniadau hynny er mwyn gofalu bod pob sector yn cydweithio.
Bydd rôl y cynghorwyr yn ehangach hefyd gan y bydd modd iddyn nhw fwrw golwg ar y gwasanaethau cyhoeddus i gyd sydd ar gael yn eu bro a dweud eu dweud am eu safonau.
Mae gan bob cyngor bwerau statudol i hybu lles economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol ei fro. Mae gofyn iddo lunio ar y cyd â'i bartneriaid strategaeth gymunedol sy'n pennu delfryd a chyfeiriad tymor hir i'r fro i gyd. Yn ogystal â'r brif strategaeth honno, bydd y cyngor yn paratoi nifer o strategaethau pwysig eraill megis cynllun datblygu lleol, strategaeth ar gyfer plant a phobl ifainc a strategaeth iechyd a lles.
Hanfod llywodraeth leol yw rhoi cyfle i bobl reoli eu hamgylchiadau. A hwythau'n cynrychioli eu cymunedau, mae'r cynghorwyr yn siarad â'r etholwyr drwy'r amser i ofalu eu bod yn cael dweud eu dweud am benderfyniadau a gwasanaethau lleol. Yn ei datganiad o'i pholisi ym maes llywodraeth leol yn ddiweddar, ‘Rhannu Cyfrifoldeb’, dywedodd Llywodraeth y Cynulliad ei bod yn bwriadu datblygu rôl cynghorwyr anweithredol yn hyrwyddwyr buddiannau dinasyddion. Mae disgwyl y bydd yn cyhoeddi papur am hynny i ddibenion ymgynghori yn ystod yr hydref.
Mae rhagor o wybodaeth gan: Daniel Hurford
