Mae'r awdurdodau lleol yn cael tua 80% o'u harian o Lywodraeth y Cynulliad a 20% trwy dreth y cyngor. Mae byd llywodraeth leol Cymru yn gwario tua £1.9 biliwn y flwyddyn ar addysg. Mae llawer o'r arian hwnnw'n mynd yn syth i'r ysgolion, sy'n rheoli eu cyllidebau eu hunain.
Cymhorthdal Gwella Adeiladau'r Ysgolion
Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi addo rhoi arian i'r awdurdodau lleol fel y gallan nhw wella adeiladau eu hysgolion. £81.685 miliwn y flwyddyn yw cyfanswm Grant Gwella Adeiladau'r Ysgolion ar hyn o bryd a bydd yn parhau ar y lefel honno hyd 2010. O dan amodau'r grant, caiff pob awdurdod lleol £9 miliwn yn ogystal â hyn o hyn o arian i'w bennu trwy fformiwla.
Mae awdurdodau lleol Cymru yn manteisio ar yr arian i ofalu bod adeiladau'r ysgolion yn addas ar gyfer addysgu plant a phobl ifainc a chodi ysgolion newydd lle bo angen.
Mae rhagor o wybodaeth gan: Daisy Seabourne
