Rydych chi yma: Hafan / Ein gwaith / Adnoddau / Ariannu byd llywodraeth leol / Arian Cyfalaf
 
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
Cliciwch yma i gael mynediad i'r adran aelodau
 
 

Arian Cyfalaf

Ysgolion, llyfrgelloedd, ffyrdd, parciau a chyfleusterau eraill yw agwedd amlycaf byd llywodraeth leol yn y gymuned gan amlaf. Mae cyflwr yr asedion hynny'n hollbwysig o ran cynnig gwasanaethau o safon a gall ddylanwadu ar fywydau a barn y dinasyddion. Mae'r awdurdodau lleol yn defnyddio gwariant cyfalaf i gynnal a chadw eu hasedion cyfredol a phrynu asedion newydd fydd yn eu helpu i wella eu gwasanaethau a'u hardaloedd.

Yn wahanol i gyrff eraill y sector cyhoeddus, caiff awdurdodau lleol ariannu prosiectau cyfalaf trwy fenthyciadau. Cafodd y syniad o fenthyca'n ddarbodus ei gyflwyno yn 2003 – y newid mawr cyntaf yn nhrefn ariannu cyfalaf yr awdurdodau lleol ers dros 10 mlynedd. Mae'r ddeddfwriaeth yn rhoi fframwaith eang i fenthyca'n ddoeth ond mae'r drefn newydd yn gofyn i awdurdodau lleol gynllunio ar gyfer eu hanghenion nhw ynghylch arian cyfalaf mewn modd synhwyrol dros y tymor hir gan reoli eu hasedion a'u harian yn gadarn.

Fel pawb arall, mae cynghorau Cymru ar eu colled o achos y sefyllfa ariannol bresennol sydd wedi amharu ar eu gallu nhw i godi arian trwy werthu asedion. Felly, mae'r cynghorau wedi wynebu penderfyniadau anodd ynglŷn â chodi adeiladau newydd a chynnal a chadw'r rhai cyfredol. Dros y blynyddoedd diweddar, mae'r cynghorau wedi gwella eu trefniadau ar gyfer rheoli asedion yn fawr ac, wrth wneud hynny, maen nhw wedi nodi gorchwyl o bwys – sef y gwaith cynnal a chadw mae angen ei gyflawni. Bydd y gwaith hwnnw braidd yn ymestynnol dros y tymor canolig.

Mae rhagor o wybodaeth gan: