Mae cymunedau'n dibynnu ar yr awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus allweddol. Mae'n hollbwysig i'r gwasanaethau cyhoeddus ledaenu eu profiad, eu harbenigedd a 'chyfrinachau eu llwyddiant' i gyflawni'r safonau uchaf er lles pobl Cymru. Un o brif amcanion Cynllun Rhagoriaeth Cymru yw nodi a lledaenu arferion da trwy amryw gyfryngau.
Mae'r astudiaethau yma o arferion da wedi deillio o'r ceisiadau am statws Rhagoriaeth Cymru. Mae pob un yn dangos bod amrywiaeth helaeth o arferion da ym myd llywodraeth leol Cymru. Eu diben yw rhoi gwybodaeth gywir o brofiad yr awdurdod lleol ynghylch defnyddio arferion o'r fath.
Plant, pobl ifanc a theuluoedd
Rheoli Adnoddau (Ariannol a Dynol)
Os oes eisiau rhagor o wybodaeth am astudiaeth unigol arnoch chi, cysylltwch â'r sawl sydd wedi'i enwi ynddi. Os hoffech chi awgrymu unrhyw welliannau, cysylltwch â ni.
Mae rhagor o wybodaeth gan: Clover Rodrigues


