Mae cymunedau'n dibynnu ar yr awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus allweddol. Mae'n hollbwysig i'r gwasanaethau cyhoeddus ledaenu eu profiad, eu harbenigedd a 'chyfrinachau eu llwyddiant' i gyflawni'r safonau uchaf er lles pobl Cymru. Un o brif amcanion Cynllun Rhagoriaeth Cymru yw nodi a lledaenu arferion da trwy amryw gyfryngau.
Mae'r astudiaethau yma o arferion da wedi deillio o'r ceisiadau am statws Rhagoriaeth Cymru. Mae pob un yn dangos bod amrywiaeth helaeth o arferion da ym myd llywodraeth leol Cymru. Eu diben yw rhoi gwybodaeth gywir o brofiad yr awdurdod lleol ynghylch defnyddio arferion o'r fath.
- Ein Cyngor - cyngor hygyrch
- Ein Dyfodol - dysgu gydal oes i bawb
- Ein Strydoedd - strydoedd glân, diogel a reolir yn dda
- Ein Cyngor – arwain ein cymunedau
- Ein Hiechyd – byw'n ddiogel ac yn iach
- Ein Cartrefi – cartrefi fforddiadwy a chynaladwy o ansawdd da
- Ein Pobl Hŷn – cynnal gwasanaeth cyfun ar gyfer pobl hŷn
Mae rhagor o astudiaethau ar y gweill.
Os oes eisiau rhagor o wybodaeth am astudiaeth unigol arnoch chi, cysylltwch â'r sawl sydd wedi'i enwi ynddi. Os hoffech chi awgrymu unrhyw welliannau, cysylltwch â ni.
Mae rhagor o wybodaeth gan: Clover Rodrigues
