Pwy yw ffoaduriaid a’r rhai sy’n gofyn am loches?
Dyma ddiffiniad Cytundeb Genefa 1951 ynglŷn â ffoadur:
‘Rhywun ac arno wir ofn y bydd yn cael ei erlid o achos ei dras, ei grefydd, ei genedl, ei aelodaeth o garfan gymdeithasol neu ei farn wleidyddol sydd tu allan i’w wlad wreiddiol ac nad yw’n gallu – neu, o achos y cyfryw ofn, nad yw’n fodlon – dychwelyd iddi.’
- Cafodd Cytundeb Genefa 1951 ei lunio yn sgîl yr Holocost
- Llai na 3% o ffoaduriaid y byd sy’n byw yn y Deyrnas Gyfunol
Dyma ddiffiniad o rywun sy’n gofyn am loches:
‘Rhywun sy’n aros tra bo’r wladwriaeth yn ystyried ei gais am statws ffoadur.’
- Bydd rhywun dibriod dros 25 oed sy’n gofyn am loches yn cael £42.62 yr wythnos – tua dau draean o lefel Lwfans Cynnal Incwm.
_____________________________________________________________________
Yn 2001, pennodd Llywodraeth San Steffan rai ardaloedd ar gyfer cartrefu'r rhai sy'n gofyn am loches yn y DG.
Mae ardaloedd pedwar o awdurdodau lleol Cymru ymhlith y rheiny ac mae rhai pobl sy'n gofyn am loches yn mynd i ganolfannau'r gwasanaeth gwladol ar eu cyfer yn:
- Caerdydd
- Casnewydd
- Abertawe
- Wrecsam
Mae awdurdodau lleol y pedair ardal uchod yn gyfrifol am roi gwasanaethau a llety ar gael i'r rhai sy'n gofyn am loches a rheoli modd eu cymathu yn y fro.
Mae'r Swyddfa Gartref yn cyhoeddi ystadegau am nifer y ceisiadau am loches bob tri mis. Mae'r wybodaeth yn cynnwys y prif dueddiadau yn y ceisiadau, y penderfyniadau cyntaf a'r apeliadau, nifer y ceiswyr ym mhob rhan o'r DG a'u nodweddion demograffig. Dyma ddolen â'r dudalen berthnasol ar wefan y Swyddfa Gartref.
Dyma nifer y rhai oedd yn gofyn am loches, a'u dibynyddion, yn y pedair ardal honno fis Mehefin 2008
| Ardal | |
| Caerdydd | 1,221 |
| Casnewydd | 372 |
| Abertawe | 502 |
| Wrecsam | 40 |
| Cyfanswm | 2,135 |
Ffynhonnell: Y Swyddfa Gartref (Mehefin 2008).
Mae 0.3% o boblogaeth Cymru yn ffoaduriaid a phobl sy'n gofyn am loches
Cyd-destun y polisi yng Nghymru
Er nad yw materion mewnfudo ymhlith cyfrifoldebau Llywodraeth y Cynulliad, mae gwasanaethau cyhoeddus megis addysg, tai a iechyd wedi'u datganoli ac, felly, mae Llywodraeth y Cynulliad yn cyflawni rôl allweddol ynghylch helpu ffoaduriaid a'r rhai sy'n gofyn am loches yng Nghymru. Ar 17eg Mehefin 2008, cyhoeddodd Llywodraeth y Cynulliad ei strategaeth am ffoaduriaid sy'n amlinellu sut bydd yn eu helpu i ymgartrefu yng Nghymru a chyfrannu'n llawn i'r gymdeithas yma. Ar ben hynny, mae'n nodi'r cynnydd hyd yma ynghylch cymathu ffoaduriaid yn y wlad. Mae modd codi copi o'r strategaeth yma.
Un o nodweddion eraill dull unigryw Cymru o drin a thrafod ffoaduriaid a'r rhai sy'n gofyn am loches yw bod gofal iechyd ar gael yn rhad ac am ddim o hyd i'r rhai mae'u ceisiadau wedi'u gwrthod. Cyflwynodd y Cynulliad reoliadau fis Medi 2004 i godi tâl am ofal eilaidd (ac eithrio triniaeth mewn adrannau damweiniau ac argyfyngau) ar y rhai wedi'u gwrthod ond penderfynodd Gweinidog y Cynulliad dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Edwina Hart, ei gynnig yn rhad ac am ddim fis Mai 2008 yn sgîl achos yn yr Uchel Lys fis Ebrill 2008 a adawodd gryn ansicrwydd am hawliau'r rhai mae'u ceisiadau am loches wedi'u gwrthod ynghylch defnyddio gwasanaethau'r GIG yng Nghymru a Lloegr. Mae Adran Iechyd San Steffan yn mynd i'r gyfraith eto i fynnu na ddylai gwasanaethau'r GIG fod ar gael yn rhad ac am ddim i'r garfan hon.
Mae rhagor o wybodaeth am ymdrechion Llywodraeth Cymru i helpu ffoaduriaid a'r rhai sy'n gofyn am loches yng Nghymru ar ei gwefan.


