Teitl y prosiect: "Anelu at Hydrogen Cynaliadwy yn Ewrop"
Prif Bartner: Cwmni ymgynghori 'Les 7 Vents du Cotentin', Normandy Isaf, Ffrainc
Maes polisi: Ymchwil Gwyddoniaeth
Disgrifiad: Mae cwmni ymgynghori 'Les 7 Vents du Cotentin' yn chwilio am bartneriaid o'r DU er mwyn cymryd rhan mewn prosiect gyda'r teitl 'Anelu at Hydrogen Cynaliadwy yn Ewrop: creu amgylchedd ffafriol ar gyfer datblygiad cell tanwydd'. Bwriad y prosiect yw i hybu rhanbarthau gwledig drwy greu amgylchedd economegol sy'n medru integreiddio cell technoleg tanwydd yn y dyfodol. Mae rhagor o wybodaeth i'w weld yma (dogfen pdf).
Manylion cyswllt: Les 7 Vents du Cotentin
Teitl y prosiect: "Sefydliadau'r Bedwaredd Lefel: Catalydd ar gyfer Datblygiad Rhanbarthol"
Prif Bartner: Sefydliad Technoleg Waterford, Gweriniaeth Iwerddon
Maes polisi: Ymchwil o fewn 'INTERREG'
Disgrifiad: Hoffai'r sefydliad ddatblygu partneriaeth ar draws yr UE ble mae Sefydliadau'r Bedwaredd Lefel, Siambrau Masnach a Chymdeithasau Diwydiannol yn cydweithio ar ddadansoddi anghenion. Fe fydd y prosiect hefyd yn edrych i weld os yw darpariaeth cefnogaeth ymchwil cymhwysol a gwella sgiliau yn medru creu llawer o swyddi cynaliadwy yn y maes technoleg uwch. Mae rhagor o wybodaeth i'w weld yma (dogfen Word).
Person cyswllt: Tracy Murphy
Teitl y prosiect: Chwilio am Bartner Ieuenctid a Materion Cymdeithasol
Prif bartner: Cymdeithas 'Supralocal' ar gyfer Ieuenctid a Materion Cymdeithasol (KVJS) yn Baden-Württemberg, Yr Almaen
Maes polisi: Ieuenctid a Materion Cymdeithasol
Disgrifiad: Mae cymdeithas KVJS yn chwilio am bartneriaid i gymryd rhan mewn prosiectau a ariannir gan y Gronfa Ewropeaidd Cymdeithasol. Bwriad y prosiectau yw i helpu pobl ifanc osgoi diweithdra drwy roi cyngor a hyfforddiant, yn ogystal â darparu gwasanaethau a gweithgareddau ar gyfer pobl ifanc o gefndiroedd llai breintiedig. Mae KVJS yn chwilio am bartneriaid tebyg i fynychu cynhadledd yn Baden-Württemberg er mwyn cyfnewid profiadau a dysgu arferion da. Mae rhagor o wybodaeth i'w weld yma (dogfen Word).
Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: 1 Mai 2009
Person cyswllt: Andreas Pchalek
Teitl y prosiect: 'Cyswllt gyda Gwybodaeth - academyddion i gyd-fynd â busnesau bach er mwyn creu tyfiant'
Prif bartner: Canolbarth Denmarc
Maes polisi: Busnes ac academia
Disgrifiad: Mae rhanbarth canolbarth Denmarc yn edrych am bartneriaid ar gyfer y prosiect 'Cyswllt gyda Gwybodaeth - academyddion i gyd-fynd â busnesau bach er mwyn creu tyfiant'. Bwriad y prosiect yw i gynyddu canran y busnesau bach sydd yn gweithio gyda academyddion, cefnogi cydweithio rhwng busnesau a sefydliadau addysgiadol, a sicrhau gwell cydweithio rhwng busnesau yn ardaloedd gwledig a sefydliadau ymchwil. Mae arweinwyr y prosiect am rhannu profiadau ac arferion da gyda rhanbarthau eraill. Mae rhagor o wybodaeth i'w weld yma (dogfen pdf).
Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: 12 Mai 2009
Person cyswllt: Finn Porsgaard
Teitl y prosiect: 'Gwrthsefyll newid hinsawdd yng nghymunedau Ewropeaidd'
Prif bartner: Cyngor Sir Hampshire, Lloegr
Maes polisi: Yr amgylchedd
Disgrifiad: Mae Cyngor Sir Hampshire yn chwilio am bartneriaid i gymryd rhan ym mhrosiect Interreg IVC, gyda'r bwriad o greu fframwaith gyfannol Ewropeaidd ar gyfer cymundedau sydd am wrthsefyll newid hinsawdd. Fe fydd y prosiect yn datblygu cyfleoedd a rhoi arweiniad ar sut i weddu ffyrdd i wrthsefyll newid hinsawdd i fewn i datblygiadau presennol a rhai sydd ar y gweill. Cynhaliwyd y gweithdy datblygu prosiect gyntaf ym Mrwsel yn Chwefror 2009, ond mae'r Cyngor yn dal i edrych am bartneriaid i gymryd rhan yn y prosiect. Mae rhagor o wybodaeth i'w weld yma (dogfen pdf).
Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: 15 Mai 2009
Person cyswllt: Olivier Marie
Teitl y prosiect: Chwilio am Bartner Materion Cymdeithasol
Prif bartner: Huddinge, rhanbarth Stockholm, Sweden
Maes polisi: Materion cymdeithasol
Disgrifiad: Mae bwrdeistref Huddinge yn chwilio am bartneriaid gyda diddordeb mewn cyfnewid profiadau a chymhwyseddau ynglyn â materion cymdeithasol. Y nod yw i wella datblygiad cymhwyseddau'r gweithwyr drwy meincnodi gweithredol gyda gwledydd eraill. Mae'r materion cymdeithasol yn cynnwys helpu'r rhai sydd wedi bod yn ddiwaith ers amser hir gyda materion iechyd, a cydweithredu rhanbarthol ar gyfer chwilio am swyddi i ffoaduriaid sydd newydd gyraedd y wlad. Mae rhagor o wybodaeth i'w weld yma (dogfen pdf).
Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: dim wedi'i nodi
Person cyswllt: Gunilla Vikstrom
Teitl y prosiect: 'MANURENERGY'
Prif bartner: Gwasanaeth Ymgynghori Amaethyddol Denmarc, Denmarc
Maes polisi: 'Intelligent Energy Europe' (Dyddiad cau am yr alwad 25 Mehefin 2009)
Disgrifiad: Mae Gwasanaeth Ymgynghori Amaethyddol Denmarc yng nghanolbarth Denmarc yn chwilio am bartneriaid i gymryd rhan ym mhrosiect 'Cynllun ynni sydd yn integreiddio bionwy wedi'i seilio ar wrtaith ac hefyd gwrtaith solid i fewn i'r cyflenwad ynni lleol (MANURENERGY)' o fewn Galwad 2009 'Intelligent Energy Europe'. Bwriad y prosiect yw i integreiddio a defnyddio rhan helaeth o wrtaith anifeiliaid i fewn i'r cynllun ynni lleol cyflawn yn ogystal â'r cyflenwad wrth sicrhau fod ffermwyr, awdurdodau lleol perthnasol, gwasanaethau ynni a defnyddwyr yn y pen draw yn cydweithio. Mae'r prosiect ar agor i awdurdodau lleol a rhanbarthol, mudiadau ffermwyr ac asiantaethau ynni. Mae rhagor o wybodaeth i'w weld yma (dogfen Word).
Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: 18 Mai 2009
Person cyswllt: Leif Raun
Project title: Public Health Partner Search
Lead Partner: Drammen, Norway
Policy area: Public Health
Description: The city of Drammen would like to find partners to participate in a transnational project within the EU Public Health Programme. The project aims to promote healthier lifestyles and reduce health inequalities through social and environmental developments. They would like to exchange information and best practices regarding nutrition and physical activities, as well as learning how infrastructure development affects health inequalities. Further information may be found here (pdf document).
Deadline for responding: 20 May 2009
Contact person: Kari Jokstad
Teitl y prosiect: 'Trans-Energy'
Prif bartner: Unione Via del Mare, Yr Eidal
Maes polisi: Ynni o fewn 'Interreg IVC'
Disgrifiad: Mae consortiwm 'Trans-Energy' yn chwilio am bartneriaid i gymryd rhan mewn prosiect gyda'r nod o hyrwyddo arbedion ynni drwy mentrau sy'n ymwneud â dulliau trafnidiaeth cyhoeddus a phreifat a defnyddio arferion da yng nghwledydd y partneriaid. Mae'r prosiect yn ateb 'Priority 2: Environment and risks prevention' rhaglen 'Interreg IVC'. Mae rhagor o wybodaeth i'w weld yma (dogfen Word).
Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: dim wedi'i nodi
Person cyswllt: Ignoto Maria Grazia
Teitl y prosiect: Chwilio am Bartner Materion Cymdeithasol
Prif bartner: 'Hotellhem i Stockholm' (SHIS), Sweden
Maes polisi: Materion cymdeithasol
Disgrifiad: Mae SHIS yn sefydliad yn Stockholm sydd yn darparu llety ar gyfer rhai sydd heb tai digonol. Mae SHIS yn chwilio am bartneriaid er mwyn cymryd rhan mewn ymweliadau astudiaeth i wledydd Ewropeaidd arall ac ymweld â sefydliadau tebyg sy'n gwynebu yr un sialensiau. Mae rhagor o wybodaeth i'w weld yma (dogfen pdf).
Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: dim wedi'i nodi
Person cyswllt: Curt Hägerklo
Teitl y prosiect: 'COACH BioEnergy NWE'
Prif bartner: Fraunhofer Umsicht, Yr Almaen
Maes polisi: Bio-ynni o fewn rhaglen Interreg
Disgrifiad: Mae prosiect 'COACH BioEnergy NWE' yn edrych ar ddatblygu cydweithrediad technolegol a buddsoddi yn y sector bio-ynni drwy sefydlu rhwydwaith ymgynghori traws-genedlaethol yn rhanbarth Gogledd Orllewin Ewrop. Mae'r prosiect yn bwriadu sefydlu rhwydwaith cynaliadwy rhwng hapddalwyr gwyddonol ac ymarferwyr, gyda'r ffocws ar cynhyrchiad bio-màs. Mae'r prosiect yn ateb gofynion Amcan 1.3 o raglen Interreg (cryfhau y fframwaith sefydliadol a thiriogaethol ar gyfer arloesedd yn Gogledd Orllewin Ewrop. Mae rhagor o wybodaeth i'w weld yma (dogfen Word).
Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: dim wedi'i nodi
Person cyswllt: Simone Krause
Teitl y prosiect: Chwilio am Bartner Arloesedd
Prif bartner: Asiantaeth Datblygu Economi Rhanbarth Namur, Gwlad Belg
Maes polisi: Arloesedd; rhan Leonardo o raglen Dysgu Gydol Oes UE
Disgrifiad: Mae rhanbarth Namur yn chwilio am bartneriaid i gymryd rhan mewn prosiect 'Trosglwyddo Arloesedd' o fewn rhan Leonardo o'r Rhaglen Dysgu Gydol Oes UE. Thema'r prosiect yw 'hybu creadigrwydd yng nghanolfannau trefol, defnyddio technegau 'creadigol' a ddefnyddiwyd yn y sector diwylliannol, yn enwedig yn y diwydiant digwyddiadau, drwy drefniant gwyliau'. Gall partneriaid fod yn rhan o'r sector cyhoeddus (gweinyddiaethau, cynghorau tref, bwrdeistrefi) neu'r sector breifat (canolfannau hyfforddi, cymdeithasau diwylliannol, prifysgolion), gyda arbenigedd mewn trafod cynlluniau canol trefi a threfnu digwyddiadau. Prif iaith gwaith y prosiect fydd Ffrangeg. Mae rhagor o wybodaeth i'w weld yma (dogfen Word).
Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: dim wedi'i nodi
Person cyswllt: Marie-Carmen Bindels
Teitl y prosiect: 'HEART Competence', 'HEART Employment'
Prif bartner: Solna, Sweden
Maes polisi: Cyflogaeth a Chydraddoldeb
Disgrifiad: Mae dinas Solna yn edrych am bartneriaid i gymryd rhan mewn dau brosiect y Gronfa Cymdeithasol Ewropeaidd, 'HEART Competence' ac 'HEART Employment'. Mae prosiect HEART yn ymwneud â iechyd, rhoi grym i bobl, gorchest, cyfrifoldeb a hyfforddiant. Mae prosiect 'HEART Competence' yn ceisio gwella gwybodaeth a datblygu mentrau a strategaethau er mwyn gweithio yn fwy diriaethol gyda materion cydraddoldeb, gwrthwahaniaethau a Chyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforedig. Mae prosiect 'HEART Employment' yn edrych ar un grwp targed yn benodol, sef y rhai sydd yn ddiwaith am amser hir, mewnfudwyr a ffoaduriaid sydd newydd gyraedd y wlad a sydd ddim yn barod i weithio. Fe fydd arolwg ar y ddau brosiect yn rhedeg tan diwedd Mehefin 2009. Mae rhagor o wybodaeth i'w weld yma (dogfen pdf).
Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: 30 Mai 2009
Person cyswllt: Evrim Erdal
Teitl y prosiect: Chwilio am Bartner Ynni Cynaliadwy
Prif bartner: Catania, Sicily, Yr Eidal
Maes polisi: Ynni a Thrafnidiaeth
Disgrifiad: Mae rhanbarth Catania yn chwilio am bartneriaid i gymryd rhan yn 'Galwad am gynigion yr UE er mwyn darparu grant(iau) ar gyfer weithred paratoadol er mwyn sefydlu strategaethau arbennig yn ymwneud â photensial ynysoedd Ewropeaidd, ac i weithredu polisi ynni yr UE, lle bynnag fo ynni cynaliadwy yn berthnasol'. Mae Catania wedi cymryd rhan yn nhri prosiect INTERREG a dau prosiect INTERACT dros y pum mlynedd ddiwethf, ac wedi sefydlu Asiantaeth Ynni ar gyfer y rhanbarth yn ddiweddar. Dyddiad cau y Galwad yw 29 Mai 2009. Mae rhagor o wybodaeth ar yr Alwad i'w weld yma.
Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: 29 Mai 2009
Person cyswllt: Giacomo Giusto
Teitl y prosiect: Chwilio am Bartner Technoleg Gwybodaeth
Prif bartner: Rijeka, Croatia
Maes polisi: Rhaglen Arloesedd a Chystadleurwydd (CIP) yr UE
Disgrifiad: Mae dinas Rijeka yn chwilio am bartneriaid i gymryd rhan yn dau brosiect o fewn elfen Rhaglen Cefnogaeth Polisi ar gyfer Technoleg Gwybodaeth a Chysylltiadau (ICT) sy'n rhan o Raglen Arloesedd a Chystadleurwydd (CIP) yr UE:
- Mae'r prosiect cyntaf, gyda'r teitl 'System i integreiddio gwybodaeth gwasanaethau 'cadastre' (UC-IIS)', yn gynllun pedair mlynedd gyda'r bwriad o alluogi dinas Rijeka i integreiddio yr holl gwmnioedd gwasanaethol yn yr ardal, yn enwedig ar lefel cyfathrebu a chyfnewid data. Mae rhagor o wybodaeth i'w weld yma (dogfen Word).
- Mae'r ail prosiect, gyda'r teitl 'Canolfan Gwybodaeth i'r Ddinas', yn gynllun tair mlynedd gyda'r bwriad o sefydlu gwasanaeth gwybodaeth ar gyfer cyfathrebu gyda'r dinasyddion drwy fenter aml-sianel. Mae hyn yn cynnwys datblygu cyfansoddion craidd o'r system cyfathrebu aml-sianel gyda'r posiblrwydd o gyfathrebu dau ffordd e.e. neges testun, e-bost, rhyngwe; a sefydlu Desg Gymorth ar gyfer help technegol. Mae rhagor o wybodaeth i'w weld yma (dogfen Word).
Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: 2 Mehefin 2009
Person cyswllt: Damir Plese
Teitl y prosiect: 'Gwarchod Dŵr Gwledig'
Prif bartner: Cyngor Sir Cork, Gweriniaeth Iwerddon
Maes polisi: Amaethyddiaeth
Disgrifiad: Mae Adran Milfeddygon Cyngor Sir Cork yn chwilio am bartneriaid yn Rhanbarth Môr yr Iwerydd i gymryd rhan ym mhrosiect 'Gwarchod Dŵr Gwledig' o fewn INTERREG IVB. Bwriad y prosiect yw i warchod tarddiadau dŵr rhag llygredd amaethyddol, ac i sefydlu systemau a methodolegau sy'n medru adnabod pathogenau yng nghyflenwadau dŵr wrth feddwl am beryglon i iechyd y cyhoedd. Mae rhagor o wybodaeth i'w weld yma (dogfen Word).
Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: 5 Mehefin 2009
Person cyswllt: Michael O'Brien
Teitl y prosiect: 'Rheoli Mudoledd', 'Effeithiolrwydd Ynni mewn Adeiladau'
Prif bartner: Sutton, Llundain, D.U.
Maes polisi: Rhaglen Defnyddio Ynni'n Ddeallus Ewrop
Disgrifiad: Mae bwrdeistref Sutton yn Llundain yn chwilio am bartneriaid ar gyfer dau gynnig prosiect o fewn Rhaglen yr UE Defnyddio Ynni'n Ddeallus Ewrop. Mae'r prosiect cyntaf yn edrych ar Rheoli Mudoledd, gyda'r bwriad o daclo rhwystrau faterol i seiclo, ac i hyrwyddo a marchnata seiclo fel modd arall o drafnidiaeth. Mae croeso mawr i bartneriaid gyda profiad o ddarparu cynlluniau seiclo i gymryd rhan yn y prosiect. Mae'r ail prosiect yn edrych ar Effeithiolrwydd Ynni mewn Adeiladau, ac yn bwriadu gweithredu archwiliadau tŷ yng nghymdogaeth arbennig, sefydlu 'timau-Eco', gwneud gwelliannau materol i adeiladau, a monitro gostyngiadau CO2 and newidiadau agwedd yn y gymdogaeth. Mae rhagor o wybodaeth i'w weld yma (dogfen Word).
Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: 3 Mehefin 2009
Person cyswllt: Lee Parker (Rheoli Mudoledd), Katherine Hudson (Effeithiolrwydd Ynni mewn Adeiladau)
Teitl y prosiect: Chwilio am Bartner Datblygu Trefol
Prif bartner: Cyngor Sir Hordaland, Norwy
Maes polisi: URBACT (Rhaglen Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Trefol Gynaliadwy)
Disgrifiad: Mae Cyngor Sir Hordaland yng nghorllewin Norwy yn chwilio am bartneriaid i gymryd rhan mewn prosiect o fewn Galwad URBACT II (Mehefin - Medi 2009). Prif ddiddordebau y Cyngor yw hyrwyddo entrepreneuriaeth, datblygiad ardaloedd amddifad wedi'i hintegreiddio, materion amgylcheddol, a threfn lywodraethol a chynllunio. Mae'r Cyngor yn edrych am bartneriaid gyda diddordeb yn y Galwad URBACT II ac mewn unryw o'r meysydd polisi hyn. Mae rhagor o wybodaeth i'w weld yma (dogfen Word).
Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: 12 Mehefin 2009
Person cyswllt: Kate Clarke
Teitl y prosiect: Chwilio am Bartner Ynni a'r Amgylchedd
Prif bartner: Lisboa E-Nova, Portiwgal
Maes polisi: Defnyddio Ynni'n Ddeallus yn Ewrop (IEE)
Disgrifiad: Mae Lisboa E-Nova, Asiantaeth Bwrdeistrefol Ynni a'r Amgylchedd, yn chwilio am bartneriaid i gymryd rhan mewn prosiect STEER o fewn rhaglen Defnyddio Ynni'n Ddeallus yn Ewrop (IEE) yr UE. Bwriad STEER yw i gefnogi prosiectau arloesol ym maes tanwyddau eraill ac hyrwyddo cerbydau glân sydd yn effeithiol gyda ynni. Mae'r cerbydau hyn yn cynnwys cerbydau trydanol, bysiau, ceir llogi, fflydoedd ceir busnes a cerbydau gwasanaeth gyhoeddus eraill. Hoffai Lisboa E-Nova weithio gyda asiantaethau, awdurdodau, a sefydliadau Ewropeaidd ar y prosiect STEER. Mae rhagor o wybodaeth i'w weld yma (dogfen Word).
Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: 12 Mehefin 2009
Person cyswllt: Joana Fernandes
Teitl y prosiect: Chwilio am Bartner Ynni a'r Amgylchedd
Prif bartner: TEDKNA, Gwlad Groeg
Maes polisi: Cymdeithas y Meiri, Defnyddio Ynni'n Ddeallus yn Ewrop (IEE)
Disgrifiad: Mae TEDKNA, Undeb Awdurdodau a Chynghorau Tref yn Attica, Gwlad Groeg, yn chwilio am bartneriaid i gymryd rhan mewn prosiect o fewn rhan Cymdeithas y Meiri (CoM) rhaglen Defnyddio Ynni'n Ddeallus yn Ewrop (IEE) yr UE. Fe fydd y prosiect yn edrych ar mentrau wedi ei hintegreiddio a chymunedau ynni cynaliadwy, gyda'r bwriad o gefnogi cymunedau i fod yn aelodau o CoM. Amcan y prosiect yw i hybu awdurdodau lleol yr UE i gyrraedd polisiau ynni lleol fwy cynaliadwy. Mae rhagor o wybodaeth i'w weld yma (dogfen pdf).
Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: 25 Mehefin 2009
Person cyswllt: Marilena Ivraki
Teitl y prosiect: Chwilio am Bartner Datblygiad Gwledig
Prif bartner: Canolfan Cynghori ar Faterion Wledig ProAgria, Häme, y Ffindir
Maes polisi: Twristiaeth, Amaethyddiaeth
Disgrifiad: Mae grwp ProAgria yn ne y Ffindir yn edrych am bartneriaid i gymryd rhan ym mhrosiect 'Rhwydweithiau twristiaeth lleol a phartneriaethau rhyngwladol ar gyfer datblygiad gwledig'. Bwriad y prosiect yw i hyrwyddo datblygiad cynnyrch twristaidd fel offeryn i leihau effaith newid strwythurol yn ardaloedd gwledig. Fe fydd y prosiect yn edrych ar sut mae traddodiadau lleol, treftadaeth o raddau wahanol, tirwedd naturiol a gweithgareddau gwledig ym meysydd y prosiect yn gallu fod yn fwy o fudd i fusnes twristiaeth. Mae rhagor o wybodaeth i'w weld yma (dogfen pdf).
Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: dim wedi'i nodi
Person cyswllt: Isto Vanhamäki
Teitl y prosiect: Chwilio am Bartner Amgylchedd Cynaliadwy
Prif bartner: Haringey, Llundain, Lloegr
Maes polisi: Interreg 4B
Disgrifiad: Mae Bwrdeistref Haringey yn Llundain wedi dechrau Strategaeth Cymuned Cynaliadwy yn ddiweddar gyda phwyslais ar yr amgylchedd ac economi chynaliadwy. Hoffai Haringey weithio gyda partneriaid ar brosiect wedi ei ariannu gan Interreg 4B yn edrych ar gyfranogiad y gymuned tuag at adeiladu a chynnal Fferm y Ddinas, yn ogystal â thechnegau adeiladu chreadigol sydd yn defnyddio byrnau gwellt er mwyn adeiladu Canolfan Amgylcheddol a lle i eco-dwristiaeth. Mae rhagor o wybodaeth i'w weld yma (dogfen Word).
Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: 24 Gorffennaf 2009
Person cyswllt: Emma Harrington
Teitl y prosiect: Chwilio am Bartner Ieuenctid
Prif bartner: Canolfan Ymchwil Frederick, Cipris
Maes polisi: Rhaglen 'Ieuenctid yn gweithredu' yr UE
Disgrifiad: The Canolfan Ymchwil Frederick ar ynys Cipris yn chwilio am bartneriaid i gymryd rhan mewn prosiect o fewn Rhaglen 'Ieuenctid yn gweithredu' yr UE. Fe fyddai'r prosiect yn ateb i Weithred 4.4, sef 'Prosiectau sydd yn annog creadigrwydd ac arloesedd yn y sector ieuenctid', gyda'r prif bwyslais ar thema 'llythrennedd plant ifanc yn y cyfryngau'. Fe fyddai'r prosiect yn cynnwys hyrwyddo dinasyddiaeth actif pobl ifanc, yn enwedig eu dinasyddiaeth Ewropeaidd; datblygu undod ac hyrwyddo goddefgarwch ymysg pobl ifanc; ac i ddatblygu dealltwriaeth rhwng pobl ifanc o wledydd gwahanol. Hoffai'r canolfan weithio yn arbennig gyda sefydliadau anlywodraethol (NGOs) a cyrff cyhoeddus sydd yn gweithio gyda pobl ifanc. Mae rhagor o wybodaeth i'w weld yma (dogfen pdf).
Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: 24 Gorffennaf 2009
Person cyswllt: Dr Victoria Pavlou
Teitl y prosiect: Chwilio am Bartner Addysg a Hyfforddi
Prif bartner: Prifysgol Coruña, Galicia, Sbaen
Maes polisi: Rhaglen Addysg a Hyfforddi yr UE
Disgrifiad: Mae Prifysgol Coruña yn Galicia yn chwilio am bartneriaid i gymryd rhan mewn prosiect o fewn galwad am gynigion ar gyfer 'ymarfer a pholisi wedi'i seilio ar dystiolaeth: datblygu rhwydweithiau o fentrau gwybodaeth brocer'. Hoffai'r Brifysgol trefnu a chydlynu cynllun ymchwil eang sydd yn edrych ar strwythurau addysg y poblogaeth o fewn y gwledydd sydd yn cymryd rhan, ac i sefydlu meini prawf cyffredinol ar yr hyfforddiant angenrheidiol i sicrhau cyflogaeth ac i wella cymwyseddau ar gyfer gwell perfformiadau mewn cyflogaeth presennol. Mae croeso arbennig i ganolfannau ymchwil gymryd rhan. Mae rhagor o wybodaeth i'w weld yma (dogfen Word).
Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: 22 Gorffennaf 2009
Person cyswllt: María Jesús Freire Seoane
Teitl y prosiect: Chwilio am Bartner Datblygiad Gwledig
Prif bartner: Canolfan Cynghori ar Faterion Wledig ProAgria, Häme, y Ffindir
Maes polisi: Twristiaeth, Amaethyddiaeth
Disgrifiad: Mae grwp ProAgria yn ne y Ffindir yn edrych am bartneriaid i gymryd rhan ym mhrosiect 'Rhwydweithiau twristiaeth lleol a phartneriaethau rhyngwladol ar gyfer datblygiad gwledig'. Bwriad y prosiect yw i hyrwyddo datblygiad cynnyrch twristaidd fel offeryn i leihau effaith newid strwythurol yn ardaloedd gwledig. Fe fydd y prosiect yn edrych ar sut mae traddodiadau lleol, treftadaeth o raddau wahanol, tirwedd naturiol a gweithgareddau gwledig ym meysydd y prosiect yn gallu fod yn fwy o fudd i fusnes twristiaeth. Mae rhagor o wybodaeth i'w weld yma (dogfen pdf).
Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: dim wedi'i nodi
Person cyswllt: Isto Vanhamäki
Teitl y prosiect: 'Entrepreneuriaeth yn Ysgolion'
Prif bartner: Collado Villalba, Madrid, Sbaen
Maes polisi: Entrepreneuriaeth, Addysg
Disgrifiad: Mae rhanbarth Collado Villalba yn Madrid yn chwilio am bartneriaid i gymryd rhan ym mhrosiect 'Entrepreneuriaeth yn Ysgolion'. Bwriad y prosiect yw i hyrwyddo gwerthoedd entrepreneuriaeth yn ysgolion, a chael ei gyflwyno fel rhan o menter 'Diwylliant entrepreneuriaidd pobl ifanc'. Bwriad y fenter hon yw i weithredu'r Ddeddf ar gyfer Busnesau Bach ac hefyd Agenda Oslo ar gyfer Addysg Entrepreneuriaidd yn Ewrop. Mae'r prosiect ar agor i bob awdurdod lleol a rhanbarthol. Mae rhagor o wybodaeth i'w weld yma (dogfen Word).
Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: dim wedi'i nodi
Person cyswllt: Gregorio Dávila Díaz
Teitl y prosiect: 'FORWARD: Ffermydd a Theclynau er mwyn ail-greu cydlyniad chymdeithasol a datblygiadau newydd ar gyfer twristiaeth cynaliadwy'
Prif bartner: Brugge, Gwlad Belg
Maes polisi: Amaethyddiaeth, Twristiaeth
Disgrifiad: Mae dinas Brugge yn chwilio am bartneriaid i gymryd rhan yn y prosiect 'FORWARD' o fewn INTERREG IVB. Bwriad y prosiect yw i creu canolfannau amaethyddol ble gall pobl anabl a ymwelwyr arall gymryd rhan yng nghweithgareddau'r fferm, defnyddio ffermdai sydd wedi eu hadnewyddu fel canolfannau o bosib i'r gymuned, a gwneud y mwyaf o botensial ffermydd er mwyn creu twristiaeth arloesol sydd yn difyr a chymdeithasol ar gyfer ymwelwyr, yn enwedig ar gyfer pobl gydag anableddau. Mae rhagor o wybodaeth i'w weld yma (dogfen Word).
Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: dim wedi'i nodi
Person cyswllt: Eveline Buyck
Teitl y prosiect: "Invent SME"
Prif bartner: ADITEC Pas-de-Calais, Ffrainc
Maes polisi: Menter ac Arloesedd
Disgrifiad: Mae ADITEC, cwmni menter ac arloesedd yng nghogledd Ffrainc, yn chwilio am bartneriaid i gymryd rhan ym mhrosiect 'Invent SME' o fewn rhaglen INTERREG IVC. Bwriad y prosiect yw i ddatblygu wybodaeth, mentrau, ac astudiaethau achos sy'n galluogi awdurdodau i bennu polisiau rhanbarthol sydd yn hyrwyddo entrepreneuriaeth, creu cydweithio rhwng awdurdodau lleol a sefydliadau addysg uwch er mwyn datblygu entrepreneuriaeth, a gallugoi awdurdodau lleol a rhanbarthol i gyfnewid wybodaeth ac arferion da ym maes entrepreneuriaeth. Mae rhagor o wybodaeth i'w weld yma (dogfen pdf).
Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: dim wedi'i nodi
Person cyswllt: Abdelkader Bousnane
Teitl y prosiect: Chwilio am Bartner Ieuenctid
Prif bartner: Ysgol Gylleskolan, Borlänge, Sweden
Maes polisi: Rhaglen Ieuenctid yn Gweithredu
Disgrifiad: Mae naw disgybl o ysgol Gylleskolan ym mwrdeistref Borlänge yn chwilio am bartneriaid i gymryd rhan mewn cynllun cyfnewid ieuenctid o fewn Rhaglen Ieuenctid yn Gweithredu yr UE. Pwrpas y cyfnewid fydd i drafod democratiaeth yr ysgol gyda'r disgyblion eraill, dysgu am ddiwylliannau newydd a datblygu eu sgiliau iaith. Fe fyddai'r ymweliad yn digwydd yn rhan olaf 2009 neu dechrau 2010. Mae rhagor o wybodaeth i'w weld yma (dogfen Word).
Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: 1 Awst 2009
Person cyswllt: Per-Olof Eriksson
Teitl y prosiect: Chwilio am Bartner Masnachu mewn pobl
Prif bartner: Redbridge, Llundain, Lloegr
Maes polisi: Rhaglen 'Atal â'r frwydr yn erbyn troseddau' yr UE
Disgrifiad: Hoffai Bwrdeistref Redbridge yn Llundain weithio gyda partneriaid o fewn rhaglennu ariannu Atal â'r frwydr yn erbyn troseddau yr UE. Amcanion y prosiect yw i atal llif y fasnach rhyw yng nghyd-destun Gemau Olympaidd Llundain yn 2012, sefydlu swyddi Ymgynghorwyr Annibynol ar Drais Rhywiol er mwyn helpu dioddefwyr masnachu mewn pobl, ac i ddelio gyda'r mater masnachu mewn pobl gyda'r pwrpas o'u werthu am ryw. Hoffai Redbridge weithio gyda awdurdodau a sefydliadau ar draws yr UE, yn enwedig Rwmania, tarddiad llawer o'r dioddefwyr. Mae rhagor o wybodaeth i'w weld yma (dogfen Word).
Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: 31 Gorffennaf 2009
Person cyswllt: Paige Kimberley
Teitl y prosiect: Chwilio am Bartner Eco-arloesedd
Prif bartner: Trondheim, Norwy
Maes polisi: Rhaglen Urbact II
Disgrifiad: Mae dinas Trondheim yn Norwy yn edrych am bartneriaid i gymryd rhan mewn prosiect o fewn Rhaglen URBACT II. Mae'r pwyslais ar Flaenoriaeth 1, 1.2 - 'Gwella arloesedd â'r economi gwybodaeth, yn enwedig wrth hyrwyddo eco-fusnesau ac eco-arloesedd. Fe fydd y prosiect yn edrych ar sut y gall dinasoedd hybu cydweithredu actif rhwng diwydiant sydd yn arloesol, sefydliadau gweinyddol cyhoeddus, prifysgolion a sefydliadau ymchwil er mwyn hyrwyddo eco-busnes ac eco-arloesedd; sut i hyrwyddo datblygiad cymunedau ymchwil a myfyrwyr; a sut i wneud dinasoedd yn lle ddeniadol i gwmnioedd rhyngwladol sefydlu eu gweithgareddau eco-ymchwil a datblygu. Mae rhagor o wybodaeth i'w weld yma (dogfen pdf).
Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: 7 Awst 2009
Person cyswllt: Marthe Leistad Hagen
Teitl y prosiect: Chwilio am Bartner yr Amgylchedd
Prif bartner: Haringey, Llundain, Lloegr
Maes polisi: Interreg IVB
Disgrifiad: Mae bwrdeistref Haringey yn Llundain yn chwilio am bartneriaid i gymryd rhan mewn prosiect o fewn Rhaglen Interreg IVB. Mae Haringey am rannu arferion da a gwybodaeth er mwyn adeiladu dau safle gyda cyfleusterau cyhoeddus mewn parc 20 hectar, canolfan amgylcheddol a fferm Eco-Dinas. Fe fydd yr adeiladau newydd yn eco-adeiladau carbon isel ac yn rhan o gynllun hyfforddi eco-adeiladu, yn hyfforddi gwirfoddolwyr a phobl ifanc o'r gymuned leol ac ysgolion. Fe fydd y prosiect yn hyrwyddo datblygiad prosiectau bwyd lleol hefyd. Mae rhagor o wybodaeth i'w weld yma (dogfen Word).
Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: 5 Awst 2009
Person cyswllt: Emma Harrington
Teitl y prosiect: 'Datblygu y Diwydiant Cyfarfodydd a Chysyniad Gwasanaeth Cyfarfodydd Werdd drwy Eco-efelychu Perfformiad Rheoli'
Prif bartner: Prifysgol Lahti, y Ffindir
Maes polisi: Rhaglen Arloesedd a Chystadleurwydd (CIP) yr UE - Eco-Arloesedd
Disgrifiad: Mae adran Gwyddoniaethau Gymhwysol Prifysgol Lahti yn chwilio am bartneriaid i gymryd rhan o fewn rhan Eco-Arloesedd o Raglen Arloesedd a Chystadleurwydd yr UE. Mae amcanion y prosiect yn cynnwys rheoli yr amgylchedd allanol sydd yn newid o ganlyniad i newidiadau economegol a hinsawdd y byd; darganfod ffactorau llwyddiant newydd ac i sicrhau gweithgareddau cystadleurwydd a economegol yn y diwydiant cyfarfodydd yn y dyfodol; ac i gefnogi canolfannau cynadleddau fel busnesau maint bach a chanolig (SME) er mwyn addasu prosesau, cynnyrch, a gwasanaethau busnesau sydd yn gyfrifol am yr amgylchedd. Anogir prifysgolion, sefydliadau ymchwil, a chwmnioedd ymgynghori i gymryd rhan yn y prosiect. Mae rhagor o wybodaeth i'w weld yma (dogfen pdf).
Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: 10 Awst 2009
Person cyswllt: Niina Ihalainen
Teitl y prosiect: Chwilio am Bartner Eco-Datblygiad
Prif bartner: Haringey, Llundain, Lloegr
Maes polisi: Rhaglen INTERREG IVB
Disgrifiad: Mae Bwrdeistref Haringey yn Llundain yn chwilio am bartneriaid i gymryd rhan mewn prosiect o fewn Blaenoriaeth 4 INTERREG IVB 'Cymunedau Cryf a Llwyddiannus'. Mae'r prosiect yn edrych ar sefydlu arferion da mewn eco-datblygiad yn ardaloedd trefol wyrdd sydd yn cael ei tan-ddefnyddio, gan annog y gymuned lleol i gymryd rhan yng nghynllun a darpariaeth y prosiect. Fe fydd y prosiect yn cynnwys dulliau adeiladu gwyrdd a thechnoleg newydd ac arloesol, ynghyd â hyfforddi aelodau o'r gymuned mewn adeiladwaith a chynllunio werdd. Mae rhagor o wybodaeth i'w weld yma (dogfen Word).
Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: 10 Awst 2009
Person cyswllt: Emma Harrington
Teitl y prosiect: 'Green KICS'
Prif bartner: Midi Pyrenees, Ffrainc
Maes polisi: Arloesedd â'r Amgylchedd
Disgrifiad: Mae Cwmni Ymgynghori Busnes Rhyngwladol yn Ffrainc yn chwilio am bartneriaid er mwyn ffurfio Cymuned Gwybodaeth ac Arloesedd (KIC) ym maes newid hinsawdd, lliniaru, ac addasu. Mae 'Green KICS' yn cynnig datblygu cymuned o wybodaeth arloesol er mwyn ffurfio ymatebion chyflym a phendant ynglyn â problemau newid hinsawdd a lliniaru ar draws y byd. Fe fydd y prosiect yn datblygu teclynnau agored ar gyfer cyfrifo allyriannau carbon a bwrw golwg dros olion troed amgylcheddol gweithgareddau economegol, gwleidyddol, a chymdeithasol; datblygu teclynnau addysgu eDysgu ar gyfer dysgu gydol oes, myfyrwyr, a phlant ynglyn â effeithiau newid hinsawdd; a ffurfio partneriaethau hir dymor gyda cwmnioedd rhyngwladol sydd yn poeni am eu heffeithiau ar yr amgylchedd. Mae rhagor o wybodaeth i'w weld yma (dogfen pdf).
Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: 27 Awst 2009
Person cyswllt: Thierry Picquet
Teitl y prosiect: Chwilio am Bartner Strategaeth yr Economi a Datblygiad Trefol
Prif bartner: Besançon, Ffrainc
Maes polisi: Rhaglen URBACT II
Disgrifiad: Mae dinas Besançon yn Ffrainc yn chwilio am bartneriaid i gymryd rhan mewn dau brosiect o fewn Rhaglen URBACT II. Mae'r prosiect cyntaf yn trafod datblygu strategaethau yr economi mewn dinasoedd i ddelio gyda'r argyfwng economaidd presennol. Prif bwriad y prosiect, gyda'r teitl 'Dinasoedd maint canolig yn yr argyfwng economaidd' (MESICEC), yw i helpu awdurdodau lleol mewn dinasoedd i sefydlu strategaethau yr economi sydd yn defnyddio gwasanaethau ac adnoddau lleol er mwyn cyflawni'r amcanion strategol sydd yn agenda Gothenburg. Mae rhagor o wybodaeth ar prosiect MESICEC i'w weld yma (dogfen pdf). Mae'r ail prosiect, gyda'r teitl 'Gweithredu Siarter Leipzig mewn dinasoedd maint canolig' (LECIMED), yn trafod datblygiad trefol mewn dinasoedd er mwyn lleihau effeithiau newid hinsawdd. Y bwriad yw i gynllunio a dosbarthu teclynnau arloesol, canllawiau a fframwaith methodolegol er mwyn datblygu polisiau datblygiad trefol gynaliadwy mewn dinasoedd, yn cynnwys defnyddio ynni mewn cynlluniau tir lleol a datblygu adeiladau rhesymol sydd yn defnyddio ynni yn effeithiol. Mae rhagor o wybodaeth ar prosiect LECIMED i'w weld yma (dogfen pdf).
Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: 31 Awst 2009
Person cyswllt: Rémi Dormois
Teitl y prosiect: Chwilio am Bartner Cynhyrchiant Olew
Prif bartner: Sefydliad Technolegol Denmarc
Maes polisi: Rhaglen EUREKA Eurostars yr UE
Disgrifiad: Mae Sefydliad Technolegol Denmarc yn chwilio am bartneriaid i gymryd rhan mewn prosiect o fewn y Rhaglen EUREKA Eurostars. Mae'r sefydliad yn edrych yn arbennig am bartneriaid sydd yn gweithio yn y diwydiant olew, megis gweithredwyr olew alltraeth, cwmnioedd gwasanaethol, a chwmnioedd olew a nwy. Fe fydd y prosiect yn datblygu technoleg hidladau ar gyfer systemau dŵr mewn safleoedd cynhychiant olew alltraeth. Fe fydd partneriaid y prosiect yn darparu samplau, sefydlu safleoedd ar gyfer profion, a cymryd rhan mewn cynllunio pecynnau gwaith. Mae rhagor o wybodaeth i'w weld yma (dogfen Word).
Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: 17 Awst 2009
Person cyswllt: Uffe Sognstrup Thomsen
Teitl y prosiect: Chwilio am Bartner Ieuenctid
Prif bartner: Catania, Yr Eidal
Maes polisi: Rhaglen 'Ieuenctid yn Gweithredu' yr UE
Disgrifiad: Mae rhanbarth Catania yn chwilio am bartneriaid i gymryd rhan mewn prosiect o fewn Rhaglen 'Ieuenctid yn Gweithredu'. Mae croeso i gyrff cyhoeddus, sefydliadau nad sydd yn gwneud elw a mudiadau ieuenctid i gymryd rhan mewn prosiect 'democratiaeth ieuenctid'. Mae amcanion y prosiect yn cynnwys cynyddu mudoledd ieuenctid yn rhyngwladol er mwyn datblygu dolenni rhwng mudiadau ieuenctid, a datblygu methodoleg a theclynnau cyffredin er mwyn sicrhau cyfranogiad gweithgar pobl ifanc mewn prosesau cyfranogiad lleol. Mae rhagor o wybodaeth i'w weld yma (dogfen Word).
Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: 1 Medi 2009
Person cyswllt: Stefano Garozzo
Teitl y prosiect: Chwilio am Bartner Diogelwch Sifil Amgylcheddol
Prif bartner: UPI-TECLA, Yr Eidal
Maes polisi: Rhaglen Amgylcheddol yr UE ar gyfer Teclynnau Ariannol Diogelwch Sifil
Disgrifiad: Mae UPI-TECLA, sef Undeb Rhanbarthau yr Eidal a Chymdeithas ar gyfer cydweithredu Lleol a Thraws-ranbarthol yn Ewrop, yn chwilio am bartneriaid i gymryd rhan mewn prosiect o fewn Rhaglen Amgylcheddol yr UE ar gyfer Teclynnau Ariannol Diogelwch Sifil - ymarferion ar raddfa lawn ym maes Mecanwaith Diogelwch Sifil yn y Gymuned. Bwriad y prosiect yw i ddangos pa mor fuddiol a defnyddiol yw ymyrraeth gan yr UE wrth reoli trychinebau naturiol a damweiniau ar raddfa mawr, yn enwedig daeargrynfeydd, o fewn yr Undeb, er mwyn gwella effeithiolrwydd ac amserau ymateb. Mae rhagor o wybodaeth i'w weld yma (dogfen Word).
Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: 20 Awst 2009
Person cyswllt: Rossana Cheri
Teitl y prosiect: Chwilio am Bartner Twristiaeth
Prif bartner: Päijänne, Y Ffindir
Maes polisi: Twristiaeth
Disgrifiad: Mae 'Päijänne-Leader' yn Grwp Gweithredu wedi ei ariannu gan yr UE (Cronfa Amaethyddol Ewropeaidd ar gyfer Datblygu Gwledig) sydd yn edrych am bartneriaid Ewropeaidd i gymryd rhan mewn prosiect rhyngwladol ar gyfer datblygu twristiaeth natur. Mae'r grwp yn edrych am bartneriaid gyda amgylchedd tebyg (parc cenedlaethol yn cynnwys llynnoedd a fforestydd) ac isadeileddau sydd eisoes wedi'u datblygu, yn ogystal â profiad mewn twristiaeth natur. Mae'r grwp yn hyrwyddo datblygu yn yr ardal wledig wrth gydweithio â preswylwyr, cymunedau, ac awdurdodau lleol. Mae rhagor o wyobdaeth i'w weld yma (dogfen pdf).
Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: dim wedi'i nodi
Person cyswllt: Maritta Virtanen
Teitl y prosiect: Chwilio am Bartner Ymchwil Ynni
Prif bartner: 'IMDEA Energy', Madrid, Sbaen
Maes polisi: FP7 Ynni
Disgrifiad: Mae 'IMDEA Energy', sefydliad ym Madrid, yn chwilio am bartneriaid i gymryd rhan mewn prosiect o fewn rhan Storfa Electrogemegol FP7. Mae'r prosiect, gyda'r teitl 'Batris Metel-Aer sydd yn bosib ei Hailwefru yn Drydanol' (ERMAB), yn edrych i ddatblygu a phrofi fformiwlau newydd ar gyfer batris sydd yn bosib eu hailwefru yn gyflym gyda storfa ynni uchel iawn. Hoffai'r sefydliad weithio yn arbennig gyda busnesau maint canolig a bach, canolfannau technoleg ac ymchwil, a phrifysgolion. Mae rhagor o wybodaeth i'w weld yma (dogfen Word).
Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: 24 Tachwedd 2009
Person cyswllt: Sara Alfonso
Teitl y prosiect: 'O ymchwil traws-genedlaethol i feddygaeth wedi ei personoleiddio'
Prif bartner: Alsace BioValley, Ffrainc
Maes polisi: FP7 Rhanbarthau Gwybodaeth
Disgrifiad: Mae sefydliad Alsace Biovalley yn chwilio am bartneriaid i gymryd rhan mewn prosiect o fewn rhaglen Rhanbarthau Gwybodaeth FP7. Mae'r sefydliad yn chwilio am clystyrau ymchwil sydd am ddatblygu gweithgareddau ym maes ymchwil traws-genedlaethol yn ymwneud â chancr, gwyddoniaeth niwroleg ac e-iechyd. Mae rhagor o wybodaeth i'w weld yma (dogfen Word).
Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: 24 Tachwedd 2009
Person cyswllt: Agnes Legoll
Teitl y prosiect: 'Imagina Atlantica'
Prif bartner: Cymuned Angoulême (ComAGA), Ffrainc
Maes polisi: Entrepreneuriaeth, Arloesedd, Celfyddydau Gweledol
Disgrifiad: Mae consortiwm prosiect 'Imagina Atlantica', o dan arweiniad Angoulême, yn edrych am bartneriaid i gymryd rhan yn y prosiect. Mae'r prosiect yn edrych ar Blaenoriaeth 1 yn Rhaglen Weithredol Rhanbarth yr Iwerydd, sydd yn hyrwyddo "rhwydweithiau traws-genedlaethol, entrepreneuriaeth, ac arloesedd", a prif amcan y prosiect yw i greu 'clwstwr' yr Iwerydd ar gyfer technolegau y celfyddydau gweledol, ac i ddefnyddio yr adnoddau ar gyfer hyrwyddo treftadaeth yr Iwerydd. Mae'r prosiect yn cynnwys partneriaid o Sbaen, Ffrainc, a Phortiwgal, a hoffai'r grwp chwilio am bartneriaid eraill o'r D.U. ac Iwerddon. Mae rhagor o wybodaeth i'w weld yma (dogfen Word).
Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: dim wedi'i nodi
Person cyswllt: Christine Farnallier
Teitl y prosiect: Chwilio am Bartner Atal Cyffuriau
Prif bartner: Ringsaker, Norwy
Maes polisi: Rhaglen Atal Cyffuriau a Gwybodaeth yr UE
Disgrifiad: Mae bwrdeistref Ringsaker yn chwilio am bartneriaid i gymryd rhan mewn prosiect atal cyffuriau. Mae'r prosiect, gyda'r teitl 'Atal cyffuriau trwy ymyrraeth cynnar: arferion da mewn cydweithredu rhyng-asiantaethau rhwng awdurdodau lleol a heddlu lleol yn Ewrop'. Mae amcanion y prosiect yn cynnwys atal datblygiad camddefnydd cyffuriau trwy weithio gyda pobl ifainc sydd mewn perygl o ddatblygu problem cyffuriau, cryfhau cydweithredu rhyng-asiantaethau i atal camddefnydd cyffuriau, a gweithio ar dulliau a thechnegau i ymladd camddefnydd cyffuriau. Mae rhagor o wyobdaeth i'w weld yma (dogfen pdf).
Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: 1 Rhagfyr 2009
Person cyswllt: Mette Erika Harviken
Teitl y prosiect: Chwilio am Bartner Materion Cymdeithasol
Prif bartner: Ysgol Economeg Turku, y Ffindir
Maes polisi: Materion Cymdeithasol ac Ymchwil
Disgrifiad: Mae Ysgol Economeg Turku yn chwilio am bartneriaid i gymryd rhan mewn prosiect Ymchwil a datblygu. Mae'r prosiect yn edrych ar profiadau ac arferion da mewn ymgorffori sefydliadau anlywodraethol (NGOs) i fewn i darpariaeth gwasanaethau i'r henoed ar draws Ewrop. Fe fydd y prosiect yn edrych hefyd ar y ffordd mae sefydliadau anlywodraethol yn darparu gwasanaethau i'r henoed a sut mae rhain yn cael eu trefnu yn ymarferol, yn ogystal â rôl y sector cyhoeddus yn darparu gwasanaethau. Mae rhagor o wybodaeth i'w weld yma (dogfen Word).
Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: 4 Rhagfyr 2009
Person cyswllt: Pertti Laine
Teitl y prosiect: Chwilio am Bartner Cyflogaeth
Prif bartner: Swyddfa Cyflogaeth Voivodship, Torun, Gwlad Pwyl
Maes polisi: Cyflogaeth
Disgrifiad: Mae Swyddfa Cyflogaeth Voivodship yn Torun yn chwilio am bartneriaid i gymryd rhan mewn prosiect sy'n edrych ar 'Gwella dulliau gweithio unigolion sydd yn profi anhawsterau yn y farchnad gwaith'. Amcan y prosiect yw i cryfhau a datblygu gwasanaethau cyflogaeth cyhoeddus yn rhanbarthau wrth gyfnewid wybodaeth, profiadau ac arferion da yn ymwneud â pobl sydd yn profi anhawsterau tra'n ceisio sicrhau cyflogaeth, megis pobl hŷn, menywod, pobl sydd yn ddi-waith am amser hir, a pobl o ardaloedd wledig. Mae rhagor o wybodaeth i'w weld yma (dogfen Word).
Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: dim wedi'i nodi
Person cyswllt: Magdalena Karczewska
Teitl y prosiect: 'EcoFoodInnovations'
Prif bartner: Agropolis, Jokioinen, y Ffindir
Maes polisi: Yr amgylchedd, Eco-arloesedd
Disgrifiad: Mae Agropolis, cwmni ddatblygu sydd yn gweithredu yn y sectorau bwyd ac amgylcheddol, yn chwilio am bartneriaid i gymryd rhan ym mhrosiect 'EcoFoodInnovations' o fewn rhaglen Eco-arloesedd yr UE. Bwriad y prosiect yw i greu model busnes ar y cyd wedi'i seilio ar ailgylchu deunyddiau mewn cydweithrediad â busnesau bach a maint canolig, ac i greu 'eco-label' ar gyfer deunyddiau gyda gwerth ychwanegol uchel wedi'i neud o wastraff y diwydiant bwyd a gwastraff pydradwy bwrdeistrefol, er mwyn hyrwyddo'r treiddiadau sylweddol i'r farchnad. Mae rhagor o wybodaeth i'w weld yma (dogfen pdf).
Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: dim wedi'i nodi
Person cyswllt: Juha Pirkkamaa
Teitl y prosiect: 'Merched a thrais'
Prif bartner: Sagene, Oslo, Norwy
Maes polisi: Daphne III
Disgrifiad: Mae rhanbarth Sagene yn Oslo yn chwilio am bartneriaid i gymryd rhan mewn prosiect Daphne III gyda'r teitl 'Merched a thrais'. Mae'r prosiect yn cynnwys cyfnewid profiadau a gwybodaeth ynglyn â gweithio gyda merched sydd yn gwneud trais, gweithdai i weld sut mae partneriaid yn delio gyda merched sydd yn gwneud trais, a sefydlu mesurau megis ymgynghorwyr a grwpiau sydd yn erbyn ymddygiad ymosodol ar gyfer merched gyda problemau trais. Mae rhagor o wyobdaeth i'w weld yma (dogfen pdf).
Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: Hydref 2009
Person cyswllt: Mari Gakkestad
Teitl y prosiect: 'Gwella llythrennedd a sgiliau rhifedd'
Prif bartner: Ysgol Morkved, Ringsaker, Norwy
Maes polisi: Rhaglen Comenius yr UE
Disgrifiad: Mae ysgol yn Ringsaker yn chwilio am bartneriaid i gymryd rhan mewn prosiect o fewn rhaglen Comenius yr UE. Mae'r prosiect, gyda'r teitl 'Gwella llythrennedd a sgiliau rhifedd', yn edrych i wella agwedd a dulliau ysgolion yn addysg llythrennedd, datblygu gwell strategaethau dysgu, ac i hyrwyddo gwybodaeth a chymwyseddau rhyng-ddiwylliannol. Mae rhagor o wybodaeth i'w weld yma (dogfen pdf).
Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: 15 Rhagfyr 2009
Person cyswllt: Arnstein Naerlie
Teitl y prosiect: Chwilio am Bartner Twristiaeth yr afon
Prif bartner: Sir Carlow, Gweriniaeth Iwerddon
Maes polisi: Rhaglen Interreg 4A
Disgrifiad: Mae Sir Carlow yn edrych am bartneriaid i gymryd rhan mewn prosiect Interreg 4A twristiaeth yr afon sydd yn cynnwys gogledd ddwyrain Cymru. Bwriad y prosiect yw i adfywio cymunedau afon Barrow yn Iwerddon a rhanbarth afon Dyfrdwy yng Nghymru. Fe fydd y prosiect yn cyfrannu at holl gystadleurwydd y rhanbarthau yn nhermau twristiaeth a gwella y sefyllfa economaidd, amgylcheddol, a chymdeithasol yn y rhanbarthau. Fe fydd yn prosiect yn golygu gweithio gyda busnesau maint bach a chanolig presennol a rhai newydd yn y sector twristiaeth er mwyn creu amodau entrepreneuriaeth ar draws rhanbarth Cymru-Iwerddon; creu cyfleoedd gwaith gynaliadwy ar draws y rhanbarth; a datblygu clystyrau trawsffiniol o fentrau gwledig arloesol wedi'u lleoli ar goridorau yr afon. Mae rhagor o wybodaeth i'w weld yma (dogfen Word).
Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: dim wedi'i nodi
Person cyswllt: Clare O'Shea
Teitl y prosiect: Chwilio am Bartner Addysg
Prif bartner: Ysgol Sabro-Korsvej, Aarhus, Denmarc
Maes polisi: Rhaglen Comenius yr UE
Disgrifiad: Mae ysgol yn Aarhus yn chwilio am bartneriaid i gymryd rhan mewn prosiect Comenius. Mae amcanion y prosiect yn cynnwys datblygu strategaethau sydd yn gallu cefnogi datblygiad ysgol a gwelliannau wedi'i seilio ar datblygu creadigrwydd disgyblion ysgol a chymhwyseddau rhyng-ddiwylliannol, annog cydweithredu rhwng ysgolion mewn gwahanol wledydd i weithio ar y strategaethau, a hyrwyddo y themau allweddol, sef dinasyddiaeth, creadigrwydd, a chynaladwyedd. Mae rhagor o wybodaeth i'w weld yma (dogfen Word).
Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: 12 Chwefror 2010
Person cyswllt: Birthe Witt Jason
Teitl y prosiect: Chwilio am Bartner Datblygiad Rhanbarthol a Symudoledd
Prif bartner: Aradel, Rhône-Alpes, Ffrainc
Maes polisi: Rhaglen Leonardo yr UE
Disgrifiad: Mae Aradel, asiantaeth datblygiad economaidd lleol yn rhanbarth Rhône-Alpes, yn chwilio am bartneriaid i gymryd rhan mewn prosiect symudoledd o fewn rhaglen Leonardo. Bwriad y prosiect dwy flynedd, gyda'r teitl 'Datblygu effeithiolrwydd tiriogaethau a chystadleurwydd cwmnioedd', yw i ddatblygu proffil tiriogaethau, yr ecosystem economaidd, a rheolaeth arloesol. Mae'r asiantaeth yn annog asiantaethau neu gymdeithasau tebyg i gymryd rhan. Mae rhagor o wybodaeth i'w weld yma (dogfen Word).
Dyddiad cau ar gyfer atebion: 5 Chwefror 2010
Person cyswllt: Bruno Besancon
Teitl y prosiect: Chwilio am Bartner Rheoli Materion Iechyd a Chymdeithasol
Prif bartner: Prifysgol Vaasa, y Ffindir
Maes polisi: Rhanbarthau Gwybodaeth (RoK)
Disgrifiad: Mae Prifysgol Vaasa am ymuno â chonsortiwm sydd yn edrych i wneud cais am gyllid o fewn galwad am gynigion presennol Rhanbarthau Gwybodaeth (RoK). Maent yn canolbwyntio yn arbennig ar unryw geisiadau yn ymwneud â rheoli materion iechyd a chymdeithasol, yn ogystal â materion lles. Mae rhagor o wybodaeth i'w weld yma (dogfen pdf).
Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: dim wedi'i nodi
Person cyswllt: Pirkko Vartiainen
Teitl y prosiect: Chwilio am Bartner Celfyddyd a Materion Gwledig
Prif bartner: Pays des Six Vallees, Poitou-Charentes, Ffrainc
Maes polisi: Rhaglen LEADER
Disgrifiad: Mae Pays des Six Vallees, Grwp Weithredu Lleol yn rhanbarth Poitou-Charentes yn Ffrainc, yn chwilio am Grwp arall i sefydlu prosiect cydweithredu dwyochrog yn edrych ar Celf yn ardaloedd gwledig yn fframwaith rhaglen LEADER. Mae'r Grwp yn edrych am bartneriaid i drefnu digwyddiadau gyda arlunwyr lleol a Ewropeaidd er mwyn gwneud pobl yn ymwybodol o bwysigrwydd yr amgylchedd, yn ogystal â helpu hyrwyddo celf cyhoeddus ac addysg amgylcheddol. Mae rhagor o wybodaeth i'w weld yma (dogfen pdf).
Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: Mai 2010
Person cyswllt: Sandra Beucher
Teitl y prosiect: 'City Zen'
Prif bartner: Rhufain, Yr Eidal
Maes polisi: Rhaglen Cefnogaeth Polisi TGCh (ICT PSP)
Disgrifiad: Mae dinas Rhufain yn chwilio am bartneriaid i gymryd rhan mewn prosiect o fewn rhaglen ICT PSP. Mae'r prosiect, gyda'r teitl 'City Zen', yn rhan o gategori Thema 4, 'Arloesedd agored ar gyfer gwasanaethau we y dyfodol mewn dinasoedd 'deallus'', ac yn bwriadu gwneud gwybodaeth ddefnyddiol a pherthnasol am wasanaethau cymdeithasol, hyfforddi, cyfleoedd gwaith trwy rhwydweithio symudol ac ar y we, a rhannu profiadau, yn barod i ddinasyddion. Fe fydd y prosiect yn cynnwys casglu gwybodaeth ar wasanaethau cymdeithasol, trefnu data, a hyfforddi. Mae rhagor o wybodaeth i'w weld yma (dogfen Word).
Dyddiad cau ar gyfer ymatebion: 28 Mai 2010
Person cyswllt: Francesca Battisti
Mae rhagor o wybodaeth gan: Iwan Williams
