WLGA ar flaen y gad o ran arian Undeb Ewrop
08 Hydref 2010
Mae WLGA yn cydweithio â chynrychiolwyr lleol a rhanbarthol o bob cwr o Ewrop wrth ymgyrchu dros barhau â threfniadau ariannu Undeb Ewrop ynghylch cystadleurwydd ar ôl 2013. Ar hyn o bryd, mae cymorth ariannol gwerth tua £280 miliwn ar gael i siroedd y dwyrain ac mae'n hanfodol ynglŷn â chreu swyddi a datblygu'r economi.
Gan gymryd rhan mewn cynhadledd lefel uchel ym Mrwsel ddoe ar ran awdurdodau'r dwyrain, meddai'r Cyng. Wynne Jones (Powys):
“Mae aelodau o Senedd Ewrop a phobl gysylltiedig eraill yn rhybuddio ei bod yn bosibl na fydd cymorth ar gyfer cystadleurwydd yn rhan o raglen ariannu nesaf Undeb Ewrop. Os felly, bydd yn ergyd fawr i siroedd y dwyrain yn eu hymdrechion i adfywio rhai o gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru, datblygu medrau a swyddi a mynd i'r afael ag anweithgarwch economaidd yn sgîl yr argyfwng ariannol yn ddiweddar.”
Gan esbonio pam dylai Undeb Ewrop barhau i roi arian i'r rhanbarthau 'mwy cyfoethog', meddai'r Cyng. Jones:
“Mewn rhai rhanbarthau sydd wedi elwa ar gymorthdaliadau cystadleurwydd, megis dwyrain Cymru, mae'r economi'n crebachu ac rydyn ni'n wynebu anawsterau difrifol o ran masnach a swyddi. Ar ben hynny, dyw'r ffordd eang o ddosbarthu rhanbarthau ar hyn o bryd ddim yn cymryd gwahaniaethau rhanbarthol i ystyriaeth ac, felly, mae rhai rhannau o ddwyrain Cymru mor dlawd â'r rhannau o'r wlad sy'n cael manteisio ar arian cydgyfeirio.
Mae'r gweithgareddau i gyd rydyn ni wedi cymryd rhan ynddyn nhw heddiw yn rhan o ymgyrch lobïo eang mae WLGA wedi bod yn flaengar ynddi, gan arwain cylch lobïo ar ran rhanbarthau'r DG sy'n elwa ar gymorth cystadleurwydd, cydweithio'n agos â'n cyfatebion yn Ewrop i ddibenion lobïo a chynnal seminar yn Llandrindod ar 20fed Medi i dynnu sylw at y lobïo.”
Diwedd
Mae rhagor o wybodaeth gan Lucy Sweet: 029 2046 8673 neu lucy.sweet@wlga.gov.uk
Nodiadau i olygyddion
• Saith awdurdod lleol sy'n cynrychioli siroedd y dwyrain, sef Cyngor Sir y Fflint, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Cyngor Sir Powys, Cyngor Sir Fynwy, Cyngor Dinas Casnewydd, Cyngor Caerdydd a Chyngor Bro Morgannwg.
Mae rhagor o wybodaeth gan: Lucy Sweet


