Rydych chi yma: Hafan / Pynciau / Adfywio a'r amgylchedd / Archif o adroddiadau / Chwa o Awyr Iach
 

Chwa o Awyr Iach

06 Medi 2005

O ganlyniad i Ddeddf ‘Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy’ 2000, bydd pobl Cymru a’r rhai sy’n ymweld â’r wlad yn cael crwydro dros 360,000 hectar o dir agored a thir comin - yn ogystal â 100,000 hectar o dir Comisiwn y Coedwigoedd - o wanwyn 2005 ymlaen. 22% o Gymru yw cyfanswm y tir hwnnw - tua’r un faint â bröydd awdurdodau lleol Caerdydd, Caerffili, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion i gyd. Mae’r hawl newydd yn ychwanegol at y rhwydwaith o
hawliau tramwy cyhoeddus sydd yng Nghymru yn barod. Gan y bydd hawl i grwydro rhannau sylweddol o dir ger y trefi cyn bo hir, fe fydd modd i bob rhan o Gymru elwa ar y cyfleoedd hynny.

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chyngor Cefn Gwlad Cymru wedi paratoi’r daflen yma i hysbysu a chynghori aelodau awdurdodau parciau lleol a chenedlaethol am oblygiadau’r trefniadau newydd. Mae’n tynnu sylw at y manteision posibl megis ffyrdd at ffyniant, iechyd da a chydlyniad cymdeithasol. Mae hawl i grwydro cefn gwlad ac ansawdd cefn gwlad yn elfennau hanfodol i ffyniant a lles cenedl Cymru yn y dyfodol achos bod un o bob chwe swydd yn y wlad yma’n ymwneud â’r amgylchedd yn uniongyrchol.