16 Tachwedd 2007
Mae ‘Creu’r Cysylltiadau’ ac Adolygiad Beecham o Ddarparu Gwasanaethau Lleol wedi pennu cyfeiriad byd llywodraeth leol o ran pwysigrwydd cydweithio ac angen newid y ffordd rydyn ni’n cynnig gwasanaethau cyhoeddus. Mae’r ddau’n awgrymu bod gweithlu o’r radd flaenaf sy’n gallu rhoi gwasanaethau ar gyfer dinasyddion Cymru yn hanfodol yn hyn o beth.
Mae Fframwaith Cymwyseddau Arwain Llywodraeth Leol Cymru wedi cyfuno’r gorau o’r hyn sydd gan yr awdurdodau lleol yn barod â phrif themâu ‘Creu’r Cysylltiadau’ ac Adolygiad Beecham i greu fframwaith sy’n adlewyrchu nid yn unig cyflwr cyfredol gwasanaethau cyhoeddus Cymru ond yr hyn sydd i ddod, hefyd.
Mae’r fframwaith wedi deillio o waith yr awdurdodau lleol ar y cyd, ac mae cyfarwyddwyr adnoddau dynol, arbenigwyr hyfforddi a datblygu a staff PSMW wedi helpu i’w lunio.
Ei ddiben yw cyfeirio a chymharu datblygiadau ym mhob sefydliad er lles y fframweithiau lleol. Nid rhywbeth ac iddo nod cyffredinol yw e, ond ffordd o ledaenu gwybodaeth ac arferion yn y maes yma trwy ddod â’r holl ddysg ynghyd. Rhaid inni barhau i fuddsoddi yn nulliau rheoli a datblygu’n gweithlu er mwyn inni lwyddo i roi gwasanaethau rhagorol yng Nghymru. Gobeithio y bydd Fframwaith Cymwyseddau Arwain Llywodraeth Leol Cymru yn gaffaeliad mawr ynglŷn â bwrw ymlaen â’r rhaglen yma.
