Rydych chi yma: Hafan / Pynciau / Adnoddau / Materion ariannol / Anogaeth i Dwf Busness
 

Anogaeth i Dwf Busness

Diben y cynllun yma yw annog pob awdurdod lleol i wneud yn fawr o dwf economi ei fro trwy ei alluogi i wario peth o'r cynnydd yn y trethi busnes lleol ar ei flaenoriaethau ei hun. Bydd y cynllun yn anogaeth ariannol gadarn i awdurdodau lleol weithio ar y cyd â byd busnes a sefydliadau allweddol eraill er lles yr economi. Bydd y cynllun yn berthnasol i bob cyngor ond nid awdurdodau'r heddlu na'r gwasanaeth tân. Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi addo na fydd yn corlannu'r arian sy'n deillio o'r cynllun ac, felly, bydd yr awdurdodau lleol yn cael ei ddefnyddio er lles eu bröydd fel y gwelan nhw a'u hetholwyr yn dda.

Dyw'r cynllun ddim yn gadael i'r awdurdodau newid fformiwlâu pennu trethi busnes, ac na fydd unrhyw gwmni'n talu mwy o dreth nag y dylai o ganlyniad. Dylai'r cynllun fod o gryn fantais i gwmnïau, fodd bynnag, achos y bydd yn cynyddu'r anogaeth i bob awdurdod lleol ddeall anghenion byd busnes ac ymateb iddyn nhw.

Fe gynhaliodd Llywodraeth y Cynulliad broses ymgynghori am y cynllun yn ddiweddar. Mae dolenni cyswllt â'r ddogfen ymgynghori ac ymateb WLGA ar y dudalen yma.

Mae rhagor o wybodaeth gan: