Y sefyllfa yng Nghymru
Mae'n anodd cael darlun clir am faint o bobl anabl sydd yn y DG. Mae arolygon yn tueddu i ofyn y 'cwestiwn am anabledd' mewn sawl ffordd wahanol lle mae pobl yn gweddu i rai meini prawf ond nid i eraill. Cyhoeddodd Uned Strategaethau'r Prif Weinidog ddogfen yn ddiweddar sy'n amcangyfrif bod 11 miliwn o oedolion anabl yn y DG ar hyn o bryd, sef 21% o'r boblogaeth. Mae'n amcangyfrif bod un o bob ugain o blant yn anabl, hefyd, a bod nifer y plant sydd ag anghenion arbennig yn codi.
Yng Nghymru, cyhoeddodd y Cynulliad 'Canolbwynt Ystadegol ar Anabledd ac Afiechyd Tymor Hir' yn 2003, sy'n dangos cynnydd parhaol yn nifer y bobl anabl dros yr ugain mlynedd diwethaf, yn ogystal ag effaith anableddau ac afiechydon tymor hir ar safonau byw pobl, megis:
- mae rhyw draean o bobl yn dweud bod afiechyd tymor hir yn effeithio ar eu bywydau nhw;
- mae gan ychydig dros un rhan o bump o'r rhai sydd o oed gwaith afiechyd hirdymor cyfyngol;
- mae gan un rhan o bedair o'r rhai sydd ag afiechyd tymor hir broblemau iechyd y meddwl;
- mae nifer y bobl anabl sydd heb gymwysterau bron ddwywaith gymaint â phobl eraill;
- mae incwm pobl anabl neu'r rhai sydd ag afiechyd tymor hir yn llai nag incwm pobl eraill;
- mae nifer y bobl anabl a'r rhai sydd ag afiechyd tymor hir nad ydyn nhw'n gweithio neu'n chwilio am waith yn ddwywaith gymaint â phobl eraill;
- dyblodd nifer y bathodynnau parcio i bobl anabl yn ystod y 1990au.
Yr hyn sy'n amlwg yn y ffigyrau hynny yw bod cryn nifer o bobl yn cael anawsterau ynghylch manteisio ar wasanaethau prif ffrwd, cyfleoedd a swyddi mae pobl sydd heb anabledd yn eu cymryd yn ganiataol.
Y Diffiniad Cymdeithasol o Anabledd
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae mudiadau pobl anabl wedi gofyn i sefydliadau gydnabod y 'diffiniad cymdeithasol o anabledd' yn lle'r 'diffiniad meddygol o anabledd'. Yn y bôn, mae'r diffiniad cymdeithasol yn wahanol i'r un meddygol achos ei fod yn dweud nad anableddau sy'n gwneud pobl yn anabl, ond yr elfennau sy'n eu rhwystro nhw rhag cymryd rhan yn y gymdeithas. Yn ôl y diffiniad meddygol, dyw pobl anabl ddim yn gallu cymryd rhan yn y gymdeithas -gan gynnwys gweithio a manteisio ar wasanaethau - oherwydd eu hanableddau. Problem yr unigolyn, felly, ac mae pobl sydd heb anabledd (a'r rhai sy'n darparu gwasanaethau) yn ceisio gwneud iawn am hynny trwy roi gwasanaethau i'r rhai mae 'rhywbeth yn bod ar eu cyrff'. Mae Cyngor Dinas Newcastle yn defnyddio diffiniad priodol:
'Mae'r diffiniad cymdeithasol o anabledd yn dadlau bod y rhan fwyaf o anawsterau mae pobl anabl yn eu hwynebu yn deillio o'r ffaith bod y gymdeithas ar gyfer pobl sydd heb anabledd. Nid cyflwr penodol sy'n gwneud rhywun yn anabl, ond y ffordd mae'r gymdeithas yn ymateb iddo, gan gynnwys prinder cyfleusterau, swyddi, cyrsiau addysg a dewisiadau priodol, ac agweddau a rhagdybiaethau negyddol.'
(Ffynhonnell: Access to Services and Employment for Disabled People White Paper - Cyngor Dinas Newcastle 2002).
Yr her i'r awdurdodau lleol yw gweithredu yn ôl y diffiniad hwnnw ar ôl darparu gwasanaethau yn ôl y diffiniad meddygol ers blynyddoedd. Mae ymchwil wedi dangos, fodd bynnag, fod nifer o awdurdodau lleol Cymru wedi mabwysiadu'r diffiniad newydd yn un o egwyddorion craidd eu polisïau ac yn ceisio meithrin amgyffred o'r gwasanaethau mae modd eu darparu ar gyfer pobl anabl. Mae ymrwymiad i arddel y diffiniad cymdeithasol yn un o nodweddion allweddol Safon Cydraddoldeb Llywodraeth Leol Cymru, hefyd. Mae'r Gymdeithas yn cefnogi Safon Cydraddoldeb yn fframwaith ar gyfer cynorthwyo'r awdurdodau i gyflawni rhagor o waith yn y maes hwnnw.
Mae rhagor o wybodaeth gan: David Morgan


