01 Ebrill 2006
Mae newid hinsawdd yn un o‘r problemau mwyaf, os nad y mwyaf, sy‘n wynebu‘r byd heddiw. Nid problem amgylcheddol yn unig yw hon, bydd yn effeithio‘n sylweddol ar ein cymdeithas, ein heconomi a‘n hiechyd. Er ei bod yn broblem fydeang, credwn yn gryf bod yn rhaid gweithredu ar lefel leol; yn ogystal ag ar lefel yr unigolyn a gan lywodraethau rhanbarthol a chenedlaethol.
Mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru yr ydym wedi datblygu Ymrwymiad Cymru ynghylch Newid yn yr Hinsawdd. Gobeithiwn y bydd holl aelodau‘r teulu llywodraeth leol yn llofnodi‘r ymrwymiad hwn er mwyn tystio‘n gyhoeddus i‘w parodrwydd i weithredu ar y mater hwn.
